Skip to main content

Magu’ch hyder o ran treth ar ôl i chi ymddeol

Byddai’n well gan bawb beidio â threulio’i amser yn poeni am dreth ar ôl ymddeol.

P’un a ydych chi newydd ymddeol neu’n cynllunio at y dyfodol, rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddeall sut mae treth yn gweithio ar yr adeg hon o’ch bywyd.

Pan fyddwch chi’n ymddeol, gall treth deimlo ychydig yn wahanol. I ddechrau, efallai bydd yr arian a gewch chi ddod o sawl ffynhonnell wahanol – er enghraifft, pensiwn, llog ar gynilion neu o bosibl rhywfaint o waith hunangyflogedig.

Fe fyddwch chi’n falch o glywed bod sylfeini treth yn syml unwaith i chi ddysgu amdanyn nhw. Gwyliwch y fideo byr hwn neu darllenwch ymlaen i gael gwybod pa bynciau gallwn ni helpu gyda nhw.

Gwylio ein fideo byr

Edrych drwy’r pynciau sydd bwysicaf i chi

Nid oes angen i chi ddarllen popeth, dim ond dewis y tudalennau sydd fwyaf defnyddiol i chi.

Agosáu at ymddeol

Beth i’w ystyried os ydych chi wedi ymddeol yn ddiweddar neu’ch bod chi ar fin gwneud hynny.

Llenwi’r bylchau yn eich dealltwriaeth

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ar dreth. Mae’r tudalennau hyn yma i’ch helpu chi i ddeall y sylfeini, magu’ch hyder, a llenwi unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth chi. Mae pob un yn esbonio’r cyfan mewn Cymraeg Clir. Dim jargon. Fyddwn ni ddim yn cymryd yn ganiataol eich bod chi’n gwybod sut mae popeth yn gweithio.

Cymerwch eich amser a dim ond darllen beth sydd angen i chi ei ddarllen. Os byddwch chi’n dal i deimlo’n ansicr ar ôl darllen yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, bydd yna ddolenni at ragor o gymorth.