Treth wedi mynd yn drech? Peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i helpu i newid hynny.
Yn adran hon o’n hymgyrch ‘Magu’ch hyder o ran treth’, rydyn ni’n troi yn ôl at y sylfeini ac yn dweud wrthoch chi bopeth sydd angen i chi ei wybod. Fyddwn ni ddim yn barnu, fyddwn ni ddim yn defnyddio jargon.
Beth byddwn ni’n ei drafod
Cyflwyniad i dreth
Nid oes cwestiwn twp yn bodoli. Rydyn ni’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin – er enghraifft, beth yw treth? Pwy yw CThEF? Beth yw Yswiriant Gwladol? A beth yw Lwfans Personol? Hefyd, byddwn ni’n edrych ar y mathau o drethi mwyaf cyffredin.
Y gwahanol ffyrdd rydyn ni’n casglu treth
Mae yna dri math gwahanol i’w gael yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig: TWE, Asesiad Syml a Hunanasesiad.
Rhowch wybod i ni beth ydych chi’n ei feddwl
Rydym yn croesawu eich mewnbwn i’n helpu i wella’r wefan hon. Cymerwch ychydig funudau i gwblhau ein harolwg adborth gwefan byr am eich profiad.
Mae’r arolwg yn ddienw, nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol, ac mae’n cynnwys pum cwestiwn graddio dewisol.