Skip to main content

Sut mae Hunanasesiad yn gweithio ar ôl i chi ymddeol

Pan fyddwch chi’n ymddeol, os oes gennych chi bensiynau gweithle neu bensiynau preifat, mae’n debygol bydd darparwr eich pensiwn yn delio ag unrhyw dreth efallai bydd angen i chi ei thalu.

Ond weithiau, efallai bydd amgylchiadau’n codi sy’n golygu bod efallai angen i chi roi gwybod i ni am eich incwm drwy lenwi Ffurflen Dreth. Hunanasesiad yw’r enw ar hyn.

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am bryd mae angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad a sut mae ei llenwi hi.

Byddwch chi’n dal i gael Lwfans Personol rhydd o dreth

Hyd yn oed ar ôl i chi ymddeol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl yr hawl o hyd i gael swm penodol o arian bob blwyddyn heb fod angen iddyn nhw dalu Treth Incwm arno ef. Dyma’ch Lwfans Personol rhydd o dreth.

Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol rhydd o dreth arferol. Felly, os yw cyfanswm eich incwm yn is na’ch Lwfans Personol, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw Dreth Incwm.

Os yw cyfanswm eich incwm yn uwch na’ch Lwfans Personol, dim ond yr arian sy’n uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n talu treth arno ef.

Sut mae unrhyw dreth sydd arnoch chi yn cael ei chasglu?

Pan fyddwch chi’n ymddeol, byddwn ni’n ceisio casglu’r dreth sydd arnoch chi o unrhyw bensiynau gwaith neu bensiynau preifat sydd gennych chi. Rydyn ni’n gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi’n ei gael, felly gallwn ni wneud yn siŵr bod darparwyr eich pensiynau eraill yn tynnu’r swm cywir o dreth cyn anfon taliad atoch chi. Mae’r cyfan yn digwydd y tu ôl i’r llen, felly nid oes angen i chi wneud dim.

Wedi dweud hyn, efallai fod gennych chi incwm arall nad oes modd i ni ei drethu’n awtomatig. Gall arian o’r ffynonellau canlynol ffurfio’r incwm trethadwy hwn:

  • buddsoddiadau
  • rhentu eiddo
  • llog o gynilion
  • hunangyflogaeth
  • gwerthu rhywbeth er mwyn ennill elw

Enw arall ar werthu rhywbeth am elw mawr yw ‘enillion cyfalaf’. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Treth ar bethau byddwch chi’n eu gwerthu ar ôl i chi ymddeol’.

Os yw’ch incwm o gynilion a buddsoddiadau dros £10,000, bydd angen i chi roi gwybod i ni drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a chyflwyno Ffurflen Dreth bob blwyddyn.

Byddwch chi’n rhestru eich holl incwm arni hi (gan gynnwys unrhyw dreuliau caniataol (‘allowable expenses’) ac unrhyw beth byddwch chi wedi’i werthu am elw mawr) a’i hanfon yn ôl aton ni. Wedyn, mae hyn yn ein helpu ni i weithio allan a oes arnoch chi unrhyw dreth – neu a ydych chi wedi talu gormod o dreth a bod angen i ni anfon ad-daliad atoch chi.

Fydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth?

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, gall ein hofferyn ar-lein am ddim ar GOV.UK eich helpu chi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ateb ambell gwestiwn a bydd yr offeryn yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi lenwi un.

Peth pwysig i’w gofio:

Efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, os cewch chi incwm o ffynonellau eraill, ar wahân i’ch pensiynau gweithle neu bensiynau preifat. Hefyd, efallai bydd angen i chi lenwi un os yw cyfanswm eich incwm yn uwch na’ch Lwfans Personol ac nid oes ffordd arall o gasglu’r dreth.

Drwy ddeall p’un a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth neu beidio, byddwch chi’n sicrhau bod gennych chi bopeth dan reolaeth. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.

Os ydych chi’n ennill arian o eiddo neu hunangyflogaeth, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm ar fin newid. Enw’r cynllun newydd yw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026. Mae rhagor o wybodaeth am beth mae hyn yn ei olygu i chi ar ein tudalen ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Dylai’r wybodaeth a’r adnoddau ar y wefan hon eich helpu chi i fagu’ch hyder o ran sylfeini treth. Ond, dylech chi bob tro wirio’r arweiniad manwl ar GOV.UK i gael rhagor o gymorth wrth ddelio â Hunanasesiad.