Mae sawl un yn dewis parhau i weithio tra byddan nhw’n cael Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn preifat, neu’r ddau. A’r newyddion da yw bod y rheolau treth yn weddol syml.
Dyma rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu chi os ydych chi’n meddwl am weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Dweud ffarwél wrth daliadau Yswiriant Gwladol
Os ydych chi’n gyflogedig, fyddwn ni ddim yn codi Yswiriant Gwladol ar unrhyw arian byddwch chi’n ei ennill ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2028, mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi o 66 i 67.
Bydd eich cyflogwr yn rhoi’r gorau i dynnu Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflog unwaith bod ganddyn nhw dystiolaeth o’ch oedran. Gallwch chi ddangos eich pasbort, tystysgrif geni neu lythyr yn dyfarnu Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch chi hefyd ofyn i ni anfon llythyr atyn nhw yn dweud eich bod chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch chi’n rhoi’r gorau i dalu pob cyfraniad Yswiriant Gwladol o ddechrau’r flwyddyn dreth ymlaen (sef 6 Ebrill) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Cofiwch roi’ch dyddiad geni ar eich Ffurflen Dreth fel y gallwn ni wneud yn siŵr eich bod chi’n rhoi’r gorau i dalu’r cyfraniadau hyn.
Nid yw Treth Incwm yn gorffen ar ôl ymddeol
Er byddwch chi’n rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol, fe fydd yn dal i fod angen i chi dalu Treth Incwm.
Byddwch chi’n talu Treth Incwm ar gyfanswm eich incwm blynyddol. Gallai hyn ddod o sawl ffynhonnell wahanol, er enghraifft:
- eich cyflogau
- os ydych chi’n hunangyflogedig
- Pensiwn y Wladwriaeth
- pensiynau gweithle neu bensiynau preifat
- llog ar gynilion
- buddsoddiadau
- eiddo rhent
Mae gan y rhan fwyaf o bobl rywbeth o’r enw Lwfans Personol rhydd o dreth. Dyma faint o arian gallwch chi ei ennill bob blwyddyn cyn dechrau talu treth.
Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol rhydd o dreth arferol.
Os yw cyfanswm eich incwm o waith a phensiynau’n is na’r lwfans hwn, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw Dreth Incwm.

Sut byddwn ni’n trethu eich Pensiwn y Wladwriaeth?
1: Byddwch chi wastad yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth heb i unrhyw dreth gael ei thynnu oddi wrtho ef
2: Mae hyn yn golygu bydd hwn yn cael ei adio at unrhyw incwm arall mae’n bosibl bod gennych chi – rydyn ni’n gwneud hyn i weld a yw’r cyfanswm yn mynd yn uwch na’ch Lwfans Personol ar gyfer y flwyddyn honno
3: Os ewch chi’n uwch na’ch Lwfans Personol, yna dim ond y swm sy’n uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n talu treth arno ef
4: Byddwn ni’n defnyddio ambell ffordd wahanol i geisio casglu’r dreth sydd arnoch chi. Gallwch chi ddysgu am y rhain yn yr adran nesaf
Sut byddwn ni’n casglu unrhyw dreth sydd arnoch chi
Os ydych chi’n gyflogedig, gallwn ni gasglu eich treth drwy’r system Talu Wrth Ennill (TWE). Byddwn ni’n rhoi cod treth i’ch cyflogwr, fel bod modd iddyn nhw gyfrifo faint o dreth mae angen iddyn nhw dynnu oddi wrth eich cyflog. Gallwch chi ddysgu sut mae’n gweithio ar ein tudalen TWE.
Casgliad bach o rifau a llythrennau yw eich cod treth, ac efallai eich bod chi wedi’i weld ef ar eich slipiau cyflog. Rydyn ni’n cyfrifo hyn drwy edrych ar eich Lwfans Personol, adio unrhyw incwm arall mae’n bosibl bod gennych chi, gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os byddwch chi hefyd yn cael pensiwn gweithle neu bensiwn preifat yn ogystal â’ch cyflog, byddwn ni fel arfer yn newid eich cod treth. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod eich cyflogwr a darparwr eich pensiwn yn tynnu’r swm cywir o dreth. Nid oes angen i chi wneud dim byd arall.
Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwn ni’n gofyn i chi restru eich holl incwm – gan gynnwys unrhyw bensiynau gweithle a phensiynau preifat – ar Ffurflen Dreth. Yna, gallwch chi dalu unrhyw dreth sydd arnoch chi yn syth i ni.
Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.
Awgrym defnyddiol:
Os byddwch chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ac yn parhau i weithio, edrychwch dros eich slipiau cyflog yn ofalus i wneud yn siŵr bod y swm cywir o dreth yn cael ei thynnu.
Os bydd rhywbeth yn edrych yn anghywir – er enghraifft, rydych chi’n amau eich bod chi efallai wedi talu gormod o Yswiriant Gwladol, neu eich bod chi’n ansicr a ydych chi’n talu’r swm cywir o dreth – ddylai datrys y broblem fod yn syml.
Gallwch chi weld yn hawdd pa dreth rydych chi wedi’i thalu ar GOV.UK neu drwy ddefnyddio ap CThEF.