Mae’n demtasiwn gan rai i osgoi pwnc fel Treth Etifeddiant tan ryw dro arall.
Ond bydd dysgu amdani hi nawr yn gallu rhoi tawelwch meddwl i chi. Hefyd, gall gwneud hyn eich helpu chi i ofalu am eich anwyliaid ar ôl i chi farw.
Beth fyddwn ni’n codi Treth Etifeddiant arno ef?
Byddwn ni’n codi Treth Etifeddiant ar werth eich ‘ystâd’ pan fyddwch chi’n marw.
Gall eich ystâd gynnwys eich tŷ, cynilion, buddsoddiadau ac eitemau eraill rydych chi’n berchen arnyn nhw. Hefyd, gall eich ystâd gynnwys gwerth eitemau penodol efallai rydych chi wedi’u rhoi i rywun arall yn ystod eich bywyd chi. Bydd yr eitemau hyn yn cynnwys unrhyw roddion a wnaethoch chi yn ystod y saith mlynedd cyn i chi farw.
Mae gan bawb ‘trothwy’ sy’n rhydd o dreth ar gyfer Treth Etifeddiant. Terfyn ariannol yw ‘trothwy’. Mae hyn yn golygu, ar hyn o bryd, os yw eich ystâd yn werth llai na £325,000, ni fyddwch chi’n talu Treth Etifeddiant arni hi.
Bydd unrhyw beth sy’n uwch na’r £325,000 yn cael ei drethu ar y gyfradd arferol ar gyfer Treth Etifeddiant, sef 40%.
Er enghraifft, os bydd eich ystâd yn werth £500,000:
- bydd y £325,000 cyntaf yn rhydd o dreth
- bydd y £175,000 sy’n weddill yn cael eu trethu ar 40%
- cyfanswm y dreth sydd arnoch chi yw £70,000
Mae yna bethau eraill o’r enw lwfansau, rhyddhadau (‘reliefs’) ac esemptiadau. Efallai bydd modd i’r rhain gynyddu eich trothwy – sy’n golygu gallwch chi adael mwy ar eich ôl chi yn rhydd o dreth. Gwnawn ni drafod y rhain nesaf.
Sut i gynyddu eich trothwy rhydd o dreth
Pe baech chi’n gadael eich tŷ, neu gyfran ohono ef, i’ch plant neu wyrion (‘grandchildren’), gallech fod yn gymhwysol (‘qualify’) i gael lwfans ychwanegol ar gyfer Treth Etifeddiant, o’r enw Haen Cyfradd Sero ar gyfer Mannau Preswylio.
Mae’r lwfans hwn yn werth hyd at £175,000. Adiwch y swm hwn at y trothwy o £325,000 ar gyfer Treth Etifeddiant gwnaethon ni grybwyll gynnau, a gallech chi fod yn gadael £500,000 o bosibl – heb i’ch plant na’ch wyrion orfod talu unrhyw dreth ar hyn.
Gall y swm hwn ddyblu i £1 miliwn i barau priod a phartneriaid sifil.
Dyma enghraifft:
Rydych chi’n gadael popeth i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil pan fyddwch chi’n marw.
Mae eich trothwy o £325,000 ar gyfer Treth Etifeddiant yn syml yn trosglwyddo iddyn nhw. Felly, pan fyddan nhw’n marw, gallai eu hystâd nhw gael trothwy rhydd o dreth hyd at £650,000 (sef eich trothwy chi a’u trothwy nhw wedi’u hadio at ei gilydd).
Mae’r swm hwn yn cynyddu i £1 miliwn os ydych chi’n cynnwys y lwfans Haen Cyfradd Sero ar gyfer Mannau Preswylio.

Peth pwysig i’w gofio:
Os bydd eich ystâd yn fwy na £2 miliwn, bydd eich lwfans Haen Cyfradd Sero ar gyfer Mannau Preswylio ychwanegol yn gostwng gan £1 am bob £2 sydd dros y swm hwnnw.
Rhagor ar gyfer cyplau priod a phartneriaid sifil
Bydd cyplau priod a phartneriaid sifil yn buddio o rywbeth o’r enw ‘esemptiad i briod/partner’ (‘spouse exemption’). Mae ‘priod/partner’ yn cyfeirio at bartneriaid cyfreithiol, ac ystyr ‘esemptiad’ yw bod rhywbeth ddim yn berthnasol i chi.
Mae’n swnio’n gymhleth, ond yn y bôn, mae’n golygu bod popeth bydd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn gadael i chi yn gwbl rydd o Dreth Etifeddiant. Waeth beth yw gwerth y pethau hyn. Nid oes angen i chi wneud cais amdano ef na llenwi unrhyw ffurflenni penodol – mae’r cyfan yn digwydd yn awtomatig.
Gadael rhodd sy’n rhydd o dreth tra byddwch chi’n fyw
Cewch chi roi rhoddion bob blwyddyn sydd werth £3,000 heb fod y pethau hyn yn cael eu hadio at eich ystâd. Mae hyn yn golygu bod y pethau hyn yn rhydd o Dreth Etifeddiant.
Gallwch chi roi rhoddion bach hyd at £250 fesul person i faint bynnag o bobl a hoffech chi.
O ran rhoddion ar gyfer priodasau, gallwch chi roi £5,000 i blentyn, £2,500 i ŵyr/wyres neu £1,000 i unrhyw un arall.
Awgrym defnyddiol:
Gall taliadau rheolaidd sy’n dod allan o’ch incwm chi, er mwyn helpu rhywun gyda’i ffioedd ysgol efallai, fod yn rhydd o dreth hefyd. Cyhyd â bod ddim angen yr arian arnoch chi a bod ei roi i rywun arall ddim yn effeithio ar eich safon byw.
Y rheol 7 mlynedd o ran rhoddion sydd werth mwy
Os byddwch chi’n rhoi rhodd sydd werth mwy (mwy na’r symiau rydyn ni eisoes wedi trafod uchod), a’ch bod chi wedyn yn goroesi am 7 mlynedd neu fwy, fydd y rhodd ddim yn cyfri tuag at eich ystâd chi rhagor. Felly, ni fyddwch chi’n talu Treth Etifeddiant ar y rhodd.
Wedi dweud hyn, os byddwch chi’n marw cyn diwedd y 7 mlynedd, bydd y rhodd yn cyfri tuag at eich trothwy o £325,000 ar gyfer Treth Etifeddiant. Bydd hyn yn gadael llai i’ch ystâd ar adeg eich marwolaeth.
Os bydd y rhodd yn fwy na’r trothwy rhydd o dreth sydd ar gael i chi, efallai bydd angen i’r person a gafodd y rhodd gennych chi dalu treth arni hi. Ar y llaw arall, gall ‘rhyddhad meinhau’ (‘taper relief’) fod o help. Mae hyn yn gostwng neu’n ‘meinhau’ y dreth sydd arnoch chi. Bydd hyn yn gostwng y dreth yn dibynnu ar ba mor hir byddwch chi’n byw ar ôl i chi roi’r rhodd.
Felly, os byddwch chi’n marw o fewn 3 blynedd i wneud y rhodd mwyaf, er enghraifft, caiff ei drethu ar y gyfradd lawn o 40%. Ond, os byddwch chi’n marw rhwng 6 a 7 mlynedd ar ôl rhoi’r rhodd, dim ond ar gyfradd o 8% caiff ei drethu.

Awgrym defnyddiol:
I wneud pethau’n haws i’ch anwyliaid, cofiwch gadw cofnod o unrhyw roddion mawr byddwch chi’n eu gwneud, gan gynnwys y dyddiad pan wnaethoch chi’r rhodd a faint oedd gwerth y rhodd. Bydd hyn yn helpu’r person sy’n rheoli eich ystâd chi gyda gweithio mas faint o dreth sydd arnyn nhw. Gallwch chi ddysgu rhagor am roddion a Threth Etifeddiant ar GOV.UK.
Beth am arian byddwch chi’n ei adael i elusennau?
Bydd unrhyw arian byddwch chi’n ei adael i elusen yn y DU yn rhydd o Dreth Etifeddiant. Ac os byddwch chi’n rhoi o leiaf 10% o’ch ystâd i elusennau, gall y gyfradd dreth byddwn ni’n ei chodi ar beth sy’n weddill ostwng o 40% i 36%.
Bydd cynllunio ymlaen llaw yn rhoi opsiynau i chi
Drwy ddod i ddeall Treth Etifeddiant, gallwch chi helpu eich hun gyda dod i benderfyniadau cytbwys ynglŷn â’ch ystâd – a hwyluso pethau i’ch anwyliaid.
Os yw eich ystâd yn werth llai na £325,000, efallai fydd ddim angen i chi wneud llawer o gwbl. Os yw eich ystâd yn werth mwy neu’n ystâd fwy cymhleth, gallwch chi ddod i ddeall faint o Dreth Etifeddiant a fydd arnoch chi er mwyn eich helpu chi gyda chynllunio.
Mae llunio ewyllys (‘will’) yn rhan bwysig o’r gwaith cynllunio hwn. Mae’n esbonio’n glir beth hoffech chi fod eich teulu a’ch ffrindiau yn ei wneud â’ch ystâd. Efallai bydd sgwrs ag ymgynghorydd ariannol neu gyfreithiwr yn ddefnyddiol i chi.