Skip to main content

Barod i lenwi’r bylchau yn eich dealltwriaeth chi o ran treth?

Mae angen i bawb feddwl am dreth. Ond os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, mae’n gallu teimlo fel tasg gymhleth.

Rydyn ni’n deall hynny’n iawn. A dyna pam rydyn ni wedi cynllunio’r ymgyrch ‘Magu’ch hyder o ran treth’ – ein gwefan ddefnyddiol all eich helpu i lenwi unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth chi.

Efallai eich bod chi’n dechrau yn eich swydd gyntaf, rydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun, neu’n meddwl am ymddeol. Ble bynnag ydych chi’n canfod eich hun yn eich bywyd, bydd Magu’ch hyder o ran treth yn rhoi darlun clir i chi o sut mae treth yn gweithio. Dim jargon. Dim rhifau cymhleth.

Magu’ch hyder o ran treth gan CThEF

Ni yw CThEF. Mae hynny’n sefyll am ‘Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi’. Ni yw’r bobl sy’n rhedeg system dreth y DU o ddydd i ddydd. Felly, gallwch chi deimlo’n ddiogel bod yr wybodaeth yma mor ddiweddar a chywir â phosibl.

Rydyn ni wedi creu Magu’ch hyder o ran treth o gwmpas adegau pwysicaf eich bywyd, a’r adegau pan fo treth yr un mor bwysig. Bydd pob adran yn dangos i chi beth bydd angen i chi ei wybod – a ble i edrych nesaf os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.

Gadewch i ni chwilio trwy’r pynciau

Sylfeini treth

Eich cyfle chi i ddod i ddeall yr hanfodion. Byddwch chi’n dysgu beth yw treth, sut mae’n gweithio a pham mae’n bwysig. Byddwch chi hefyd yn dysgu am y prif elfennau sy’n ffurfio treth feunyddiol, gan gynnwys Treth Incwm, Yswiriant Gwladol, a rhywbeth o’r enw eich Lwfans Personol.

Bywyd gwaith

Dechrau’ch swydd gyntaf? Gweithio i chi’ch hun? Cael incwm o sawl ffynhonnell wahanol? Dysgwch sut mae treth yn rhan o fywyd gwaith. Byddwch chi’n dysgu am yr wybodaeth sydd i’w gweld ar eich slip cyflog, codau treth a sut gall eich sefyllfa bersonol effeithio ar y dreth byddwch chi’n ei thalu.

Treth ar ôl i chi ymddeol

Nid yw treth yn diflannu ar ôl i chi ymddeol. Dysgwch sut byddwn ni’n codi treth ar eich Pensiwn Gwladwriaeth ac unrhyw bensiynau eraill byddwch chi’n eu cael, a beth sydd angen i chi ei wybod os ydych chi’n ennill incwm arall ar ben eich pensiwn. Byddwn ni hefyd yn trafod newidiadau wrth i chi fynd yn hŷn, fel beth sy’n digwydd pe baech chi neu’ch partner yn marw, a sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio.

Treth a busnesau bach

Os ydych chi’n rhedeg busnes bach, efallai bydd angen i chi ddelio â gwahanol fathau o dreth, yn ogystal â gwahanol systemau. Er enghraifft, Hunanasesiad, Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, TAW neu Dreth Gorfforaeth. Bydd ein tudalennau yn glir ac yn dangos i chi sut mae’r cyfan yn gweithio a phryd bydd angen i chi gymryd camau.

Cymorth ychwanegol

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, neu allwch chi ddim dod o hyd i beth roeddech chi’n chwilio amdano, byddwn ni’n dangos i chi ble i fynd nesaf. Byddwch chi’n dysgu sut mae cael cymorth gyda thasgau treth penodol a dod o hyd i ddolenni at ragor o arweiniad ar GOV.UK.

Dechreuwch ble bynnag hoffech chi

Nid oes yna le cywir nac anghywir i ddechrau – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis pa adran sy’n gweithio’n well i chi a mynd o fyna.

Ewch drwy bethau wrth eich pwysau eich hun. Nid oes brys i chi ddarllen popeth ar unwaith, ac nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ar dreth. Os byddwch chi’n sownd ar ryw bwnc penodol, rydyn ni wastad yma i’ch helpu chi.

Dylai’r wybodaeth a’r adnoddau ar y wefan hon eich helpu chi i ddod i ddeall sylfeini treth ychydig yn well. Ond, gallwch chi ddod o hyd i ragor o arweiniad manwl ar GOV.UK.