Mae dod i delerau â cholli partner mor anodd.
Y peth olaf byddwch chi eisiau meddwl amdani hi yw treth. Ond, trwy ddod i ddeall eich sefyllfa, gallwch chi helpu eich hun i deimlo bod pethau o dan reolaeth ychydig bach mwy yn ystod adeg galed.
Mae’r dudalen hon yma i’ch helpu chi.
Efallai bydd eich Treth Incwm a’ch lwfansau yn newid
Os bydd eich priod (hynny yw’r enw ar eich partner, rydych chi wedi priodi â nhw yn gyfreithiol) neu eich partner sifil yn marw, efallai bydd eich incwm yn newid. Mae’n bosibl cewch chi arian o bensiynau neu fudd-daliadau eich partner, neu arian o etifeddiaeth. Efallai bydd angen i chi dalu treth ar rywfaint o’r incwm hwn, a dylech chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.
Nid oes angen i chi roi gwybod i ni am incwm o’ch gwaith na’ch pensiynau preifat eich hun, nac ychwaith incwm o ISAs neu os oes gennych chi swydd lle mae’r dreth yn cael ei thynnu oddi wrth eich cyflog yn awtomatig. ‘Talu Wrth Ennill’ (TWE) yw’r enw ar hyn a gallwch chi ddarllen rhagor amdano ef ar ein tudalen TWE.
Hefyd, nid oes angen i chi roi gwybod i ni os byddwch chi’n cael Taliad Cymorth Profedigaeth.
Peth pwysig i’w gofio:
Os oeddech chi, neu’ch partner, wedi’ch geni cyn 6 Ebrill 1935 ac fe hawlioch chi Lwfans Pâr Priod, bydd hyn yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth bresennol. Mae’r flwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill. Unwaith ein bod ni’n cael gwybod am y newid yn eich amgylchiadau, byddwn ni’n dod â’r Lwfans Pâr Priod i ben yn awtomatig.
Beth gallwch chi ei wneud i cadw rheolaeth ar bethau?
Pan fydd rhywun yn marw, gallwch chi ddod o hyd i ganllaw cam wrth gam am beth mae angen i chi ei wneud ar GOV.UK.
Trwy ddefnyddio ein gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, gallwch chi roi gwybod i sawl adran o’r llywodraeth am farwolaeth eich partner i gyd ar yr un tro. Ar adeg pan fo tipyn ar eich plât chi eisoes, bydd y gwasanaeth hwn yn arbed amser i chi ac yn rhoi llai o straen arnoch chi.
Efallai eich bod chi’n ymwybodol bod yna gymorth emosiynol ar gael pan fyddwch chi’n colli partner, ond mae yna gymorth ariannol i’w gael hefyd.
Os nad ydych chi’n siŵr beth yw eich sefyllfa chi, ystyriwch gael sgwrs â chyfreithiwr neu ymgynghorydd ariannol. Gallan nhw eich helpu chi gydag edrych ar beth yw’ch opsiynau ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael unrhyw gymorth ychwanegol. Mae sawl un yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol rhad ac am ddim.
Oeddech chi’n briod neu’n bartneriaid sifil?
Os oedd y ddau ohonoch chi naill ai’n briod neu’n bartneriaid sifil pan fu eich partner farw, cewch chi rywbeth o’r enw ‘esemptiad i briod/partner’ (‘spouse exemption’). Ystyr ‘esemptiad’ yw nad yw beth sydd dan sylw yn berthnasol i chi.
Mae’n swnio’n gymhleth, ond yn y bôn, mae’n golygu bod popeth bydd eich priod neu bartner sifil yn gadael ar ei ôl i chi yn gwbl rydd o Dreth Etifeddiant. Nid oes ots faint yw gwerth y pethau hyn. Nid oes angen i chi wneud cais amdano ef na llenwi unrhyw ffurflenni penodol – mae’r cyfan yn digwydd yn awtomatig.
Ac un peth arall hefyd.
Mae gan bawb swm rhydd o dreth, neu ‘trothwy’ ar gyfer Treth Etifeddiant. Dyma’r swm gallwch chi ei etifeddu cyn bod angen i chi dalu treth arno ef. Mae hyn yn golygu, ar hyn o bryd, os yw ystâd rhywun gwerth llai na £325,000, ni fydd unrhyw Dreth Etifeddiant i’w thalu. Mae ‘ystâd’ yn enw arall ar yr holl bethau gwerthfawr mae rhywun yn berchen arnyn nhw.

Os nad oedd eich priod neu bartner sifil wedi defnyddio eu trothwy i gyd ar gyfer Treth Etifeddiant, gall unrhyw swm sydd heb ei ddefnyddio gael ei drosglwyddo i chi. Felly, pan fyddwch chi’n marw, gallai fod gan eich ystâd chi drothwy rhydd o dreth hyd at gyfanswm o £650,000.
Os yw’ch priod neu bartner sifil wedi gadael tŷ’r teulu neu gyfran ohono ef i blant neu wyrion (‘grandchildren’), efallai bydd yna lwfans Treth Etifeddiant ychwanegol, o’r enw Haen Cyfradd Sero ar gyfer Mannau Preswylio. Mae’r lwfans hwn yn werth hyd at £175,000.
Gall hyn gael ei drosglwyddo i’ch priod neu bartner sifil hefyd, gan godi eich trothwy chi fel cwpwl ar gyfer Treth Etifeddiant i £1 miliwn.
Dyma enghraifft:
Roedd Ben a David yn bartneriaid sifil.
Pan fu farw Ben, fe adawodd ei gyfran ef o dŷ’r teulu i’w blentyn, Lucy.
Oherwydd yr Haen Cyfradd Sero ar gyfer Mannau Preswylio, roedd gan Ben drothwy ar gyfer Treth Etifeddiant oedd yn gyfanswm o £500,000.
£475,000 oedd gwerth cyfran Ben o dŷ’r teulu. Oherwydd nad oedd ef wedi defnyddio ei drothwy i gyd ar gyfer Treth Etifeddiant, cafodd y £25,000 oedd yn weddill ei drosglwyddo’n awtomatig i drothwy David yn y dyfodol ar gyfer Treth Etifeddiant.
Felly, mae gan David drothwy yn y dyfodol gwerth £350,000 ar gyfer Treth Etifeddiant. Dyna gyfanswm y trothwy arferol o £325,000 a’r £25,000 gwnaeth Ben ei drosglwyddo iddo ef.
Ar ben hynny, gall David fanteisio ar yr Haen Cyfradd Sero ar gyfer Mannau Preswylio.

Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen Treth Etifeddiant.
Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch chi’n etifeddu
Fel arfer, byddwch chi’n talu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch chi’n gwerthu rhywbeth rydych chi’n berchen arno ef (fel ail gartref neu gemwaith gwerthfawr) a bod gwerth yr eitem dan sylw wedi cynyddu. Dyma fyddwn ni’n ei alw’n ‘enillion’.
Pan fyddwch chi’n etifeddu eitem, os byddwch chi’n cael gwared arni hi yn y dyfodol, dim ond y rhan o’r eitem sydd wedi cynyddu mewn gwerth ers i’r person farw y byddwch chi’n talu treth arni hi.
Rydyn ni’n cyfeirio at ailosod gwerth yr eitem yn y modd hwn fel ‘dyrchafiad’ (‘uplift’). Cewch chi’r dyrchafiad hwn p’un a ydych chi’n briod, partneriaid sifil neu’n byw gyda’ch gilydd.
Dyma enghraifft:
- mae’ch partner wedi prynu cyfranddaliadau o £10,000
- ar adeg eu marwolaeth, roedd y cyfranddaliadau gwerth £50,000 a gwnaethoch chi eu hetifeddu
- os byddwch chi’n gwerthu’r cyfranddaliadau hyn am fwy o arian yn nes ymlaen, byddwch chi’n gweithio mas faint o Dreth Enillion Cyfalaf sydd arnoch chi gan ddechrau o’r gwerth o £50,000
- byddwch chi’n talu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw enillion byddwch chi’n ei wneud sy’n uwch na’r £50,000 – ac nid y £10,000 gwnaeth eich partner dalu amdanyn nhw yn y lle cyntaf

Byddwch chi’n dal i gael eich lwfans blynyddol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf yn ôl yr arfer – sef swm yr elw neu enillion gallwch chi eu cael heb orfod talu unrhyw dreth. Gallwch chi ddysgu rhagor am gyfraddau a lwfansau Treth Enillion Cyfalaf ar GOV.UK.
Os yw eich enillion yn uwch na’ch lwfans blynyddol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf, gallwch chi weld sut i roi gwybod i ni a thalu’r dreth ar GOV.UK.
Beth os oeddech chi’n byw gyda’ch gilydd?
Os oeddech chi’n byw gyda’ch gilydd, ond nid oeddech chi’n briod neu’n bartneriaid sifil, mae’r rheolau o ran Treth Etifeddiant yn wahanol iawn. Waeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn gwpwl, fydd gan eich etifeddiant ddim ‘esemptiad i briod/partner’.
Felly, os oedd eich partner wedi gadael popeth oedden nhw’n berchen arno ef (ei ystâd) i chi, a bod hynny yn fwy na’r trothwy o £325,000 ar gyfer Treth Etifeddiant, efallai bydd angen i chi dalu Treth Etifeddiant ar unrhyw arian dros y swm hwn.
Mae hynny’n cynnwys ei gyfran nhw o unrhyw beth roeddech chi’n berchen arno ef gyda’ch gilydd, ac mai chi sy’n etifeddu’r rhain yn awtomatig. Y gyfradd arferol ar gyfer Treth Etifeddiant yw 40%. Hefyd, nid oes modd trosglwyddo unrhyw beth sy’n weddill o drothwy rhydd o dreth eich partner i chi. Ond, fe gewch chi eich trothwy eich hun.
Mynd trwy bethau wrth eich pwysau eich hun
Nid oes angen i chi ddelio â phopeth ar unwaith. Mae’r rhan fwyaf o ddyddiadau cau yn rhoi’r amser a’r lle i chi gael canolbwyntio ar beth sydd bwysicaf.
Y cam cyntaf ymlaen yw deall eich sefyllfa chi. A phan ddaw’r adeg gywir, mae yna bobl a gwasanaethau sydd wastad yn barod i’ch helpu chi bob cam o’r ffordd. Dysgwch ragor o wybodaeth ar GOV.UK.