Skip to main content

Sut mae Asesiad Syml yn gweithio ar ôl i chi ymddeol

Pan fyddwch chi’n ymddeol, efallai cewch chi lythyr treth oddi wrthon ni, o’r enw Asesiad Syml. Nid oes angen i chi boeni dim – dyma ein ffordd ni o roi gwybod i chi am unrhyw dreth mae’n bosibl bod arnoch chi. Ac, fel arfer, mae’n hawdd i’w sortio.

Nid yw Treth Incwm yn gorffen ar ôl ymddeol

Pan fyddwch chi’n ymddeol, byddwch chi’n dal i dalu Treth Incwm ar gyfanswm eich incwm blynyddol. Gallai hyn ddod o sawl ffynhonnell wahanol, er enghraifft: 

  • eich Pensiwn y Wladwriaeth 
  • pensiynau gweithle neu bensiynau preifat 
  • llog ar gynilion 
  • buddsoddiadau 
  • eiddo rhent 
  • os ydych chi’n hunangyflogedig 

Mae gan y rhan fwyaf o bobl rywbeth o’r enw Lwfans Personol. Dyma faint o arian gallwch chi ei ennill bob blwyddyn yn rhydd o dreth.  

Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol arferol. 

Felly, os yw cyfanswm eich incwm yn is na’ch Lwfans Personol, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw Dreth Incwm. 

Os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na’ch Lwfans Personol, dim ond yr arian sy’n uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n talu treth arno ef. 

Sut byddwn ni’n trethu eich Pensiwn Gwladwriaeth?

  • Byddwch chi wastad yn cael eich Pensiwn Gwladwriaeth heb i unrhyw dreth gael ei thynnu oddi wrtho ef
  • Wedyn, caiff eich Pensiwn Gwladwriaeth ei adio at unrhyw incwm arall mae’n bosibl bod gennych chi (fel pensiynau preifat neu log ar gynilion) i wirio a yw eich incwm yn fwy na’ch Lwfans Personol y flwyddyn honno
  • Os ewch chi’n uwch na’ch Lwfans Personol, yna dim ond y swm sy’n uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n talu treth arno ef
  • Byddwn ni’n defnyddio ambell ffordd wahanol i geisio casglu’r dreth sydd arnoch chi. Gallwch chi ddysgu am y rhain yn yr adran nesaf

Casglu treth yn rhwydd drwy Asesiad Syml

Pan fyddwch chi wedi eich cyflogi, fel arfer gallwn ni gasglu eich treth yn awtomatig drwy eich cyflog cyn i’ch cyflogwr eich talu chi. Dyma rydyn ni’n ei alw’n ‘Talu Wrth Ennill’ (TWE). Efallai eich bod chi wedi sylwi ar hyn ar eich slipiau cyflog ar hyd y blynyddoedd. 

Ond pan fyddwch chi’n ymddeol, bydd y ffordd rydyn ni’n casglu treth yn newid.

Os cewch chi unrhyw bensiynau gweithle neu bensiynau preifat, byddwn ni’n ceisio casglu unrhyw dreth sydd arnoch chi gan ddefnyddio ein system TWE.

Ond os Pensiwn y Wladwriaeth yw eich unig incwm, a bod hynny’n uwch na’ch Lwfans Personol, bydd angen i ni gasglu’r dreth sydd arnoch chi mewn ffordd wahanol. 

Dyna bwrpas Asesiad Syml.

Peth pwysig i’w gofio:

Llythyr oddi wrthon ni yw Asesiad Syml. Mae’n rhoi gwybod i chi faint o dreth sydd arnoch chi. Nid oes angen i chi boeni dim, mae’n broses hollol naturiol. Mae’n dangos eich incwm am y flwyddyn, faint o dreth rydych chi eisoes wedi’i dalu (os oes arnoch chi dreth o gwbl), a beth sy’n weddill gennych chi i’w dalu.

Cewch chi eich llythyr Asesiad Syml yn y post, oni bai eich bod chi’n dewis i gael llythyrau oddi wrthon ni yn ap CThEF neu ar-lein.

Pryd gallai llythyr Asesiad Syml gyrraedd?

Efallai byddwn ni’n anfon llythyr Asesiad Syml atoch chi os oes gennych chi dreth i’w thalu ar eich Pensiwn Gwladwriaeth, ar log rydych chi wedi’i gael ar gynilion, neu os oes arnoch chi £3,000 neu fwy – ond nid oes modd i ni gasglu’r dreth drwy eich pensiynau gweithle na’ch pensiynau preifat.

Awgrym defnyddiol:

Pan gewch chi lythyr Asesiad Syml, gwnewch yn siŵr bod y rhifau yn gywir. Gall eich P60, cyfriflenni banc neu lythyrau oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich helpu chi gyda hyn. Os bydd rhywbeth yn edrych yn anghywir, cysylltwch â ni o fewn 60 diwrnod a gofyn i ni wirio unwaith eto.

Os yw popeth yn edrych yn iawn, gallwch chi dalu mewn sawl ffordd:

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi pryd mae angen i chi dalu unrhyw dreth sydd arnoch chi a sut i’w thalu.

Nid Hunanasesiad mo Asesiad Syml

Yn achos Hunanasesiad, byddwch chi’n llenwi Ffurflen Dreth eich hun. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.

Ond yn achos Asesiad Syml, byddwn ni’n gwneud yr holl waith cyfri ar eich rhan ac yn anfon y canlyniad atoch chi. Y bwriad yw gwneud bywyd yn haws i bobl sydd â sefyllfaoedd treth syml.

Bydd popeth sydd angen i chi ei wybod yn eich llythyr – faint o dreth sydd arnoch chi, sut i dalu’r dreth ac erbyn pryd bydd angen i chi dalu’r dreth. Gallwch chi ddysgu rhagor am Asesiad Syml ar GOV.UK.