Mae’n achlysur arbennig pan fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwysol ar eich cofnod Yswiriant Gwladol, dylech chi ddechrau cael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth.
Byddwn ni’n esbonio beth mae hyn yn ei olygu, pryd bydd taliadau’n dechrau, faint gallech chi ei gael, sut i hawlio, a sut mae treth yn gweithio ar ôl i chi ymddeol.
Bant â ni.
Pryd mae taliadau i chi yn dechrau?
Rhwng mis Ebrill 2026 a mis Mawrth 2028, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu o 66 oed i 67 oed.
Mae’r union ddyddiad ar sail pen-blwydd rhywun a bydd hyn yn rhan o newid graddol. Gallwch chi ddysgu beth yw eich oedran Pensiwn Gwladwriaeth ar GOV.UK – neu ar ap CThEF
O dan Ddeddf Pensiynau 2007, oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 67 i rywun oedd wedi’i eni ar ôl 5 Ebrill 1969, ond cyn 6 Ebrill 1977.
Faint fyddwch chi’n ei gael?
Ar gyfer 2026 i 2027, £241.30 yr wythnos yw cyfradd lawn Pensiwn y Wladwriaeth newydd – dyna £12,547.60 y flwyddyn. Fel arfer, mae Pensiwn y Wladwriaeth yn codi ychydig bob mis Ebrill, ar ddechrau’r flwyddyn dreth newydd. Mae hyn o ganlyniad i’r Clo Triphlyg (‘Triple Lock’).
Os oeddech chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, rydych chi’n dilyn yr hen system o’r enw Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. £176.45 yr wythnos yw’r gyfradd lawn ar gyfer hwn.
Peth pwysig i’w gofio:
Nid yw pawb yn cael cyfradd lawn Pensiwn y Wladwriaeth newydd. Mae’r swm gwirioneddol gewch chi ar sail pryd byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. I ddysgu faint o Bensiwn y Wladwriaeth gallech chi ei gael, gallwch chi wirio rhagolwg o’ch Pensiwn Gwladwriaeth ar GOV.UK.
Fel arfer, bydd angen 10 mlynedd gymhwysol ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth newydd.
Os oes gennych chi fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, efallai bydd modd i chi lenwi’r rhain drwy rywbeth o’r enw ‘credydau Yswiriant Gwladol’. Dysgwch am bopeth sydd angen i chi ei wybod ar GOV.UK.
Awgrym defnyddiol:
Os allwch chi ddim llenwi’r bylchau hyn â chredydau, efallai bydd modd i chi lenwi’r rhai sy’n dod o fewn y 6 blwyddyn dreth lawn ddiwethaf drwy dalu rhywbeth o’r enw ‘cyfraniadau gwirfoddol’.
Gallwch chi wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ar GOV.UK a dysgu rhagor am sut mae Yswiriant Gwladol yn gweithio ar y dudalen hon.
Sut i hawlio’ch Pensiwn Gwladwriaeth
Fyddwch chi ddim yn dechrau cael eich Pensiwn Gwladwriaeth yn syth.
Tua 4 mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dylech chi gael llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos i chi sut mae hawlio. Gallwch chi hefyd ddysgu sut mae hawlio ar GOV.UK.
Mae eich Pensiwn Gwladwriaeth yn cyfrif tuag at dreth
Efallai nad ydych chi’n ymwybodol ohono fe, ond mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cyfrif fel incwm ac felly’n cael ei ystyried wrth weithio allan a oes arnoch chi unrhyw Dreth Incwm.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl hawl i swm penodol o incwm fyddan nhw ddim yn gorfod talu unrhyw dreth arno ef. Dyma’ch Lwfans Personol rhydd o dreth. Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol arferol. Mae Pensiwn y Wladwriaeth llawn newydd, sef £11,973 y flwyddyn, ychydig yn is na hwn. Felly, os dyna’r unig incwm a gewch chi, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw dreth.
Ar y llaw arall, os oes gennych chi incwm arall – er enghraifft pensiynau gweithle neu bensiynau preifat, llog ar gynilion, neu waith rhan amser – efallai bydd cyfanswm hyn i gyd yn mynd â chi yn uwch na’ch Lwfans Personol. Dim ond yr incwm sy’n uwch na’r lwfans hwn y byddwch chi’n talu unrhyw dreth arno ef.
Peth pwysig i’w gofio:
Byddwch chi wastad yn cael eich Pensiwn Gwladwriaeth heb i unrhyw dreth gael ei thynnu oddi wrtho ef. Ond mae’n cael ei adio at unrhyw incwm arall sydd gennych chi ac yn cyfrif tuag at eich Lwfans Personol.
Sut byddwn ni’n casglu treth ar ôl i chi ymddeol
Fel rydych chi newydd ddarllen, cewch chi Bensiwn y Wladwriaeth heb i unrhyw dreth gael ei thynnu oddi wrtho ef. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gasglu unrhyw dreth sydd arnoch chi yn nes ymlaen.
Os ydych chi’n gyflogedig ac yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, byddwn ni’n ceisio cymryd unrhyw dreth sydd arnoch chi yn awtomatig drwy’r system Talu Wrth Ennill (TWE). Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi wneud dim byd.
Os ydych chi wedi ymddeol a’ch bod chi’n cael unrhyw bensiynau gweithle neu bensiynau preifat, byddwn ni fel arfer yn casglu treth drwy’r rhain. Eto, bydd hyn yn digwydd yn awtomatig. Byddwn ni’n newid eich cod treth fel ei fod ef yn cynnwys eich Pensiwn Gwladwriaeth. O ganlyniad, dylai darparwr eich pensiwn dynnu’r swm cywir o dreth.
Os nad oes gennych chi bensiwn arall neu incwm o waith, a bod arnoch chi dreth ar eich Pensiwn Gwladwriaeth, efallai byddwn ni’n anfon llythyr Asesiad Syml atoch chi. Y cyfan bydd hwn yn ei ddangos i chi yw faint o dreth sydd arnoch chi a sut i’w dalu. Mae’n broses arferol ac nid oes angen i chi boeni.
Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Asesiad Syml’.
Os byddwch chi’n cael arian drwy ffyrdd gwahanol – er enghraifft o eiddo rhent neu o hunangyflogaeth – efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle.
Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.
Beth am Yswiriant Gwladol?
Unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fyddwch chi ddim yn talu Yswiriant Gwladol rhagor – hyd yn oed os byddwch chi’n parhau i weithio. Felly, byddwch chi’n cadw mwy o arian yn eich poced.
Pethau pwysig i’w cofio:
- efallai chewch chi ddim cyfradd lawn Pensiwn y Wladwriaeth newydd. Ond efallai bydd modd i chi lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael rhagor. Mae’n werth deall eich sefyllfa
- cewch chi eich Pensiwn Gwladwriaeth heb i unrhyw dreth gael ei thynnu oddi wrtho ef. Mae’n cyfrif tuag at eich Lwfans Personol, felly mae’n bosibl bydd angen i chi dalu treth arno ef os bydd eich incwm yn mynd yn uwch na’ch lwfans
- os oes arnoch chi Dreth Incwm, byddwn ni’n defnyddio ambell ffordd wahanol i geisio casglu’r dreth
Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Yswiriant Gwladol’.