Skip to main content

Cynilion, buddsoddiadau a threth ar ôl i chi ymddeol

Pan fyddwch chi’n ymddeol, efallai bydd eich prif incwm yn dod o’ch pensiynau. Ond os byddwch chi hefyd yn cael arian o gynilion neu fuddsoddiadau, gallai hynny effeithio ar faint o Dreth Incwm byddwch chi’n ei thalu.

Caiff eich holl incwm ei adio at ei gilydd

Nid ydyn ni’n edrych ar bob rhan o’r incwm ar wahân i’w gilydd. Rydyn ni’n adio’r cyfan at ei gilydd – hynny yw, eich Pensiwn y Wladwriaeth, pensiynau gweithle a phensiynau preifat, llog a gewch chi ar gynilion, buddsoddiadau a mwy.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl hawl i swm penodol o incwm bob blwyddyn fyddan nhw ddim yn gorfod talu unrhyw dreth arno ef. Dyma yw eich Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth. Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth arferol.

Os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na £12,570, yna byddwch chi’n dechrau talu treth ar unrhyw arian sy’n uwch na’r swm hwn.

Cewch chi log sy’n rhydd o dreth ar gynilion

Yn ogystal â Lwfans Personol, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael Lwfans Cynilion Personol. Dyma swm yr arian gallwch chi ei gael fel llog ar gynilion yn rhydd o dreth.

 Mae’ch Lwfans Cynilion Personol yn dibynnu ar eich incwm:

  • os yw’ch incwm rhwng £12,571 a £50,270, byddwch chi’n talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol, sef 20%. Mae hyn yn golygu mai £1,000 y flwyddyn yw eich Lwfans Cynilion Personol
  • os yw’ch incwm rhwng £50,271 a £125,140, byddwch chi’n talu Treth Incwm ar y gyfradd uwch, sef 40%. Mae hyn yn golygu mai £500 y flwyddyn yw eich Lwfans Cynilion Personol
  • os yw’ch incwm yn fwy na £125,140, cewch chi ddim Lwfans Cynilion Personol

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae pethau ychydig yn wahanol. Gallwch chi ddysgu am gyfraddau’r Alban o Dreth Incwm ar GOV.UK.

Peth pwysig i’w gofio:

Bydd rhywfaint o’r arian a gewch chi fel llog ar Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) wastad yn rhydd o dreth. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.

Beth am incwm o fuddsoddiadau?

Gallech chi fod yn berchen ar gyfranddaliadau a buddsoddiadau sy’n talu rhywbeth o’r enw difidendau. Dyma pryd bydd cwmni yn gwneud elw, ac yna’n talu cyfran o’r elw i chi.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl lwfans o ran difidendau. Mae’n caniatáu i chi ennill £500 o ddifidendau’r flwyddyn yn rhydd o dreth. Bydd unrhyw ddifidendau sy’n uwch na £500 yn cyfrif tuag at gyfanswm eich incwm blynyddol. Felly, gall y difidendau hyn godi’ch incwm yn uwch na’ch Lwfans Personol rhydd o dreth.

Gallwch chi ddysgu rhagor am dreth a lwfansau o ran difidendau ar GOV.UK.

Gwerthu buddsoddiad a Threth Enillion Cyfalaf

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn wahanol i Dreth Incwm. Fel arfer, byddwch chi’n talu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch chi’n gwerthu rhywbeth rydych chi’n berchen arno ef am fwy o arian na wnaethoch chi dalu amdano ef yn y lle cyntaf. Dyma fyddwn ni’n ei alw’n ‘enillion’. Gallech chi fod yn gwerthu un o’r canlynol:

  • ail gartref
  • cyfranddaliadau mewn cwmni (os nad ydynt yn cael eu dal mewn ISA stociau a chyfranddaliadau)
  • gemwaith gwerthfawr

Fyddwch chi ddim yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar bopeth. Yn union fel gyda’ch incwm a’ch cynilion, gallwch chi wneud hyn a hyn o elw neu ‘enillion’ yn rhydd o dreth.

Gallwch chi ddarllen rhagor am werthu asedion, y rheolau ynghylch Treth Enillion Cyfalaf a’r lwfansau ar y dudalen hon.

Pryd i lenwi Ffurflen Dreth

Os yw’ch incwm o gynilion a buddsoddiadau’n uwch na £10,000, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Peidiwch â phoeni, mae’n symlach nag ydych chi’n meddwl. Gallwch chi ddysgu am bopeth sydd angen i chi ei wybod ar ein tudalen Hunanasesiad.

Bydd angen i chi gynnwys unrhyw elw rydych chi wedi’i wneud a’r Dreth Enillion Cyfalaf sydd arnoch chi yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad hefyd.

Os yw’ch incwm yn llai na £10,000

Os yw’ch incwm o gynilion a buddsoddiadau yn llai na £10,000, fydd ddim angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad aton ni.

Os ydych chi’n gyflogedig ac yn cael salari – neu os ydych chi’n cael pensiwn gweithle neu bensiwn preifat – byddwn ni’n casglu unrhyw dreth sydd arnoch chi yn awtomatig. Byddwn ni’n ei chasglu drwy eich cyflog neu’ch pensiwn cyn i chi gael eich talu. Gwnawn ni hyn drwy newid eich cod treth. Mae’r cyfan yn digwydd tu ôl i’r llen, felly nid oes angen i chi wneud dim.

Os allwn ni ddim casglu beth sydd arnoch chi fel hyn, efallai byddwn ni’n anfon llythyr Asesiad Syml atoch chi yn lle.

Llythyr oddi wrthon ni yw Asesiad Syml. Mae’n rhoi gwybod i chi faint o dreth sydd arnoch chi a sut i’w thalu. Mae’n broses hollol naturiol ac yn digwydd yn aml os yw’ch incwm o gynilion yn eithaf uchel, neu os oes gennych chi incwm o fuddsoddiadau sydd heb gael ei drethu hyd yn hyn.

Dyma enghraifft:

Mae gan Alan Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth o £12,570 y flwyddyn.

Eleni, mae’n cael cyfanswm o £18,000 o’i Bensiwn y Wladwriaeth a’i bensiwn preifat.

Dyna £5,430 yn uwch na’i Lwfans Personol, felly byddwn ni’n codi treth ar y swm ychwanegol hwnnw.

Mae Alan yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol, sef 20%, felly mae ganddo ef Lwfans Cynilion Personol o £1,000.

Mae cael £800 o log ar ei gynilion. Mae hynny’n dod o fewn ei Lwfans Cynilion Personol o £1,000 – felly nid oes angen iddo ef dalu unrhyw dreth ychwanegol.

Wedi dweud hyn, pe bai Alan wedi ennill £1,500 o log, byddai wedi bod angen iddo ef dalu treth ar y £500 sy’n uwch na’i Lwfans Cynilion Personol o £1,000.

Y gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion

Pe bai Alan wedi ennill llai na £17,570 o’i bensiynau, byddai hefyd wedi bod yn gymwys i ddefnyddio rhywbeth o’r enw’r gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion. Mae hyn yn golygu y gallech gael hyd at £5,000 o log a pheidio â thalu treth arno. Gallwch chi ddysgu rhagor am am sut mae’r gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion yn gweithio ar GOV.UK.

4 peth pwysig i’w gofio

Rydyn ni’n gwybod bod yna dipyn i’w brosesu yma, ond peidiwch â phoeni. Unwaith byddwch chi’n deall y sylfeini, bydd y cyfan yn dod dipyn yn haws i’w reoli.

Dysgwch ragor am Asesiad Syml ar y dudalen hon.

Dysgwch am bopeth sydd angen i chi ei wybod am Hunanasesiad ar y dudalen hon.