Rydyn ni’n deall bod treth yn gallu teimlo’n gymhleth, yn enwedig oherwydd bod gwahanol fathau i’w cael a phob un â’u rheolau eu hunain. Ond peidiwch â phoeni, dim ond ychydig o’r rhain bydd y rhan fwyaf o bobl yn delio â nhw. Felly, nid oes angen i chi wybod popeth. Efallai bydd rhai mathau yn effeithio arnoch chi nawr, a gallai rhai eraill effeithio arnoch chi yn y dyfodol.
Yn y dudalen hon, bydd yr wybodaeth yn eich helpu chi i ddeall y chwe math o dreth a chyfraniadau byddwch chi’n dod ar eu traws nhw gyda ni. Wedyn, byddwch chi’n deall beth yw beth pan fyddwch chi’n wynebu’r trethi hyn.
Byddwn ni’n edrych dros y canlynol: Treth Incwm, Yswiriant Gwladol, Treth Ar Werth (TAW), Treth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant, a Threth Dir y Tollau Stamp. Mae pob un yn ymddwyn yn wahanol ac yn berthnasol o dan wahanol amgylchiadau.

Treth Incwm: ar yr arian byddwch chi’n ei ennill
Os byddwch chi’n ennill arian drwy weithio neu drwy gael pensiwn, byddwch chi mwy na thebyg yn talu’r math mwyaf cyffredin o dreth eisoes – hynny yw, Treth Incwm. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich cyflogwr yn tynnu’r dreth hon oddi wrth eich cyflog yn awtomatig cyn i chi gael eich talu. ‘Talu Wrth Ennill’ (TWE) yw’r enw ar y system hon, a gallwch chi ddarllen rhagor amdani hi ar ein tudalen ‘TWE’. Yn yr achosion eraill, efallai byddwch chi’n talu drwy Asesiad Syml neu Hunanasesiad.
Hefyd, mae pobl yn talu Treth Incwm ar incwm arall maen nhw’n ei gael, er enghraifft arian o bensiwn, rhentu eiddo neu log ar gynilion. Mae faint byddwch chi’n ei dalu yn dibynnu ar gyfanswm eich enillion o’r pethau hyn.
Peth pwysig i’w gofio:
Mae hawl gan y rhan fwyaf o bobl i ennill hyn a hyn o incwm bob blwyddyn heb dalu treth arno ef. Dyma’ch Lwfans Personol rhydd o dreth. Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol rhydd o dreth arferol.

Felly, os yw cyfanswm eich incwm yn is na’r swm hwn, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw Dreth Incwm. Os yw cyfanswm eich incwm yn uwch na’ch Lwfans Personol, dim ond yr arian sy’n uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n talu treth arno ef.
Os ydych chi’n hunangyflogedig neu fod gennych chi incwm arall o’r tu allan i’ch gwaith arferol, fel llog ar unrhyw gynilion, efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth. Bydd hyn yn ein helpu ni i wneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol (a byddwn ni’n trafod hwn yn nes ymlaen).
Yn dibynnu ar eich sefyllfa chi, byddwch chi naill ai’n llenwi Ffurflen Dreth unwaith y flwyddyn neu’n anfon diweddariadau syml bob chwarter ynghyd â’ch Ffurflen Dreth flynyddol gan ddefnyddio meddalwedd ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol.
Gallwch chi ddysgu rhagor am Ffurflenni Treth ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’ a’n tudalen ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.
Yswiriant Gwladol: mae’n talu am rai o fudd-daliadau’r wladwriaeth
Efallai eich bod chi wedi gweld Yswiriant Gwladol ar eich slip cyflog neu fel rhan o’ch Ffurflen Dreth ac wedi pendroni dros beth yn union yw ef.
Byddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol i helpu i ariannu pethau o’r enw budd-daliadau’r wladwriaeth – fel Pensiwn y Wladwriaeth, y GIG a chymorth ychwanegol i bobl sydd ei angen ef. Byddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol ar ffurf ‘cyfraniadau’ (‘contributions’).
Os ydych chi’n gyflogedig, bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel arfer yn cael eu casglu yn awtomatig drwy’r system TWE, yr un gwnaethon ni ei chrybwyll gynnau. Mae’r un broses â chasglu Treth Incwm.
Os ydych chi’n hunangyflogedig, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth er mwyn gweld a oes arnoch chi unrhyw Dreth Incwm, fel gwnaethon ni sôn amdano yn yr adran uchod. Bydd hyn hefyd yn dangos i ni oe oes arnoch chi unrhyw Yswiriant Gwladol.
Awgrym defnyddiol:
Unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fyddwch chi ddim yn talu Yswiriant Gwladol rhagor. Gallwch chi wirio’ch oedran Pensiwn Gwladwriaeth ar GOV.UK yn hawdd. Os byddwch chi’n dal i fod yn gweithio pan fyddwch chi’n cyrraedd yr oedran hwn, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dangos tystiolaeth o’ch oedran i’ch cyflogwr. Gall wedyn stopio tynnu hyn oddi wrth eich cyflog. Peidiwch â phoeni, os byddwch chi’n gordalu, byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n anfon ad-daliad atoch chi.
TAW: ar bethau byddwch chi’n eu prynu
Mae TAW yn sefyll am ‘Treth Ar Werth’. Pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth – er enghraifft, mewn apwyntiad trin gwallt – bydd TAW wedi’i chynnwys fel rhan o’r pris yn awtomatig.
I’r rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau, 20% yw’r gyfradd TAW. Ond bydd gan rai pethau, fel biliau ynni i’r tŷ, gyfradd is o 5%. Nid oes TAW o gwbl ar rai pethau eraill, fel y rhan fwyaf o fwyd o siopau, dillad plant a llyfrau.

Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth i dalu TAW. Bydd y siop neu fusnes yn casglu’r TAW a’i hanfon hi ymlaen aton ni.
Treth Etifeddiant: ar roddion byddwch chi’n eu rhoi i rywun arall
Pan fyddwch chi’n marw, bydd unrhyw arian, eiddo (‘property’) ac eiddo personol (‘belongings’) yn ffurfio cyfanswm eich ‘ystâd’. Os yw cyfanswm eich ystâd yn fwy na £325,000, efallai bydd angen i chi dalu Treth Etifeddiant. Mae angen i chi dalu’r dreth hon cyn bod modd i’ch ystâd gael ei throsglwyddo i’ch anwyliaid.
Os byddwch chi’n gadael eich ystâd i’ch priod (hynny yw’r partner rydych chi wedi’i briodi) neu bartner sifil, fel arfer nid oes unrhyw Dreth Etifeddiant i’w thalu. Ac mae yna lwfans rhydd o dreth ychwanegol os byddwch chi’n gadael eich cartref teuluol i’ch plant neu wyrion (‘grandchildren’). Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae’r lwfansau yn gweithio ar ein tudalen ‘Treth Etifeddiant’.
Ond peidiwch â phoeni, os ydych chi’n cael etifeddiant, fydd ddim angen i chi weithio unrhyw beth allan. Y bobl sy’n rheoli’r ystâd sy’n gyfrifol am hyn.
Treth Dir y Tollau Stamp: ar eiddo
Pan fyddwch chi’n prynu tŷ neu ddarn o dir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, efallai bydd angen i chi dalu Treth Dir y Tollau Stamp.
Mae gan Gymru a’r Alban eu fersiynau eu hunain o’r dreth hon, gydag enwau a chyfraddau gwahanol. Gallwch chi ddysgu sut mae pethau’n gweithio yng Nghymru ar LLYW.CYMRU a sut mae pethau’n gweithio yn yr Alban ar GOV.SCOT.
Bydd faint rydych yn ei dalu’n dibynnu ar gost yr eiddo. Gan amlaf, bydd pobl sy’n prynu eu tŷ cyntaf yn talu llai o dreth, neu ddim treth o gwbl. Wedi dweud hyn, bydd unrhyw un sy’n prynu ail gartref, er enghraifft cartref gwyliau neu eiddo i’w roi ar osod, fel arfer yn talu cyfradd uwch.
Bydd eich cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo fel arfer yn rhoi gwybod i chi faint o Dreth Dir y Tollau Stamp sydd arnoch chi a phryd bydd angen i chi ei thalu hi. Byddan nhw’n gwneud hyn fel rhan o’r broses brynu. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn a defnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp ar GOV.UK.
Treth Enillion Cyfalaf: ar bethau byddwch chi’n eu gwerthu
Os byddwch chi’n gwerthu rhywbeth am fwy na gwnaethoch chi ei brynu ef, rydych chi wedi cael ‘elw’ neu ‘enillion’. Treth Enillion Cyfalaf yw treth sy’n cael ei chodi ar yr enillion hynny. Er enghraifft, os byddwch chi’n gwerthu rhai cyfranddaliadau, ail eiddo neu eitemau gwerthfawr nad oes eu heisiau arnoch chi ragor o bryd i’w gilydd – fel celf neu emwaith. Fyddwch chi ddim yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar bopeth. Yn gyffredinol, fyddwch chi ddim yn talu’r dreth hon ar eich prif dŷ, eich car na’ch eiddo personol sydd werth llai na £6,000.
Peth pwysig i’w gofio:
Os oes gennych chi brosiect pres poced a’ch bod chi’n creu neu brynu pethau er mwyn eu gwerthu nhw am elw, byddwn yn ystyried yr arian hwn i fod yn incwm. Felly, byddwch chi’n talu Treth Incwm ar yr arian hwnnw, nid Treth Enillion Cyfalaf.
Yn union fel yn achos Treth Incwm, bydd gan y rhan fwyaf o bobl lwfans rhydd o dreth bob blwyddyn. Felly, byddwch chi ond yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw dros y swm hwnnw. Gallwch chi ddarllen rhagor am Dreth Enillion Cyfalaf ar ein tudalen ‘Gwerthu Asedion’.
Awgrym defnyddiol:
Fydd ddim angen i’r rhan fwyaf o bobl feddwl am Dreth Enillion Cyfalaf. Ond os byddwch chi’n gwerthu rhywbeth gwerthfawr, mae’n syniad da gwirio os oes angen i chi roi gwybod i ni.
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr
Nid oes angen gwybod popeth dan haul. Bydd y sylfeini hyd yn oed yn ddigon i’ch helpu chi i ddeall beth i’w ddisgwyl yn ystod gwahanol adegau o’ch bywyd – p’un a ydych chi’n dechrau ar swydd newydd, prynu tŷ, neu’n cynllunio at y dyfodol.
Fel arfer, bydd y system dreth yn mynd ati’n dawel fach i weithio pethau allan i chi. Bydd y system TWE yn delio â’ch Treth Incwm ac mae TAW wedi’i chynnwys yn rhan o’r pris. Os oes angen i chi roi sylw i drethi, er enghraifft Treth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Enillion Cyfalaf, mae wastad help ar gael.
Cofiwch, os bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, gallwch chi gael arweiniad ac offer ar-lein ar GOV.UK.
Ac os bydd angen i chi ddefnyddio ein gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gallwch chi ddysgu rhagor am y gwasanaeth hwn ar ein gwefan.
Os hoffech chi chwilio drwy unrhyw un o’r trethi eraill rydyn ni wedi’u trafod yma, byddwch chi’n cael hyd i fanylion ychwanegol ar ein tudalennau ‘Magu’ch hyder o ran treth’ eraill.
Ewch i chwilio drwy’r tudalennau – po fwyaf fyddwch chi’n ei ddysgu, po symlaf fydd treth i chi.