Os ydych chi wedi’ch cyflogi gan rywun arall neu gwmni, bydd eich cyflogwr fel arfer yn delio â’ch treth ar eich rhan. Wedi dweud hyn, os ydych chi’n gweithio i chi’ch hun, neu fod gennych chi incwm y tu allan i’ch prif swydd, efallai bydd angen i chi roi gwybod i ni am faint o arian rydych chi wedi’i ennill.
Byddwch chi’n gwneud hyn drwy anfon rhywbeth, o’r enw ‘Ffurflen Dreth Hunanasesiad’, aton ni. Byddwn ni’n esbonio pwy sydd angen llenwi un a sut mae llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Pwy sydd angen llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad?
Hunanasesiad yw’r ffordd byddwn ni’n ei defnyddio i gasglu unrhyw dreth sydd arnoch chi, nad oes modd ei chasglu hi gan eich cyflogwr. Bob blwyddyn, bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich incwm drwy lenwi Ffurflen Dreth. Efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth os yw un o’r canlynol yn wir:
- rydych chi’n hunangyflogedig
- rydych chi’n bartner mewn partneriaeth busnes
- mae angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar rywbeth rydych chi wedi’i werthu am elw
Gallwch chi ddysgu rhagor am Dreth Enillion Cyfalaf ar y dudalen hon. Efallai bydd angen i chi lenwi un hefyd os bydd gennych chi incwm sydd heb ei drethu o bethau fel:
- rhentu eiddo
- cildyrnau (‘tips’) a chomisiynau
- cynilion, buddsoddiadau a difidendau
- arian sy’n dod o wlad arall

Gallai llenwi Ffurflen Dreth godi ychydig o ofn ar rai pobl, ond peidiwch â phoeni. Mae llawer o help ar gael os bydd ei angen ef arnoch chi.
Peth pwysig i’w gofio:
Os nad ydych chi’n siŵr p’un a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu beidio, gwiriwch hyn eich hun gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein ar GOV.UK.
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych chi’n ennill arian o eiddo, neu os unig fasnachwr ydych chi, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm ar fin newid. Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yw’r enw ar hyn. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026.
Os ydych chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n gweithio’n wahanol i Hunanasesiad. Dylech chi wirio a yw’r rheolau gwahanol yn berthnasol i chi.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Dim ond unwaith y flwyddyn mae angen i’r rhan fwyaf o bobl anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad aton ni.
Mae’r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill bob blwyddyn. Felly, dechreuodd blwyddyn dreth 2025 i 2026 ar 6 Ebrill 2025 ac yn gorffen ar 5 Ebrill 2026.
Peth pwysig i’w gofio:
Gallwch chi anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein unrhyw bryd rhwng 6 Ebrill 2026 a 31 Ionawr 2027, ond gorau po gynted.
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Gwirio a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth.
- Os oes angen i chi wneud hynny, cofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru, ond heb anfon Ffurflen Dreth flwyddyn ddiwethaf, dylech chi ailactifadu eich cyfrif.
- Gosod eich hun ar ein gwasanaethau ar-lein. Os nad oes gennych chi gyfrif, gallwch chi greu un ar GOV.UK.
- Casglu gwybodaeth am eich incwm, enillion cyfalaf a threuliau i’ch helpu chi i lenwi’ch Ffurflen Dreth ar-lein.
- Anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein aton ni a thalu unrhyw dreth sydd arnoch chi ar 31 Ionawr neu cyn y dyddiad hwn. 31 Hydref yw’r dyddiad cau ar gyfer Ffurflenni Treth papur.
Awgrym defnyddiol:
Efallai bydd yn well gennych chi lenwi Ffurflen Dreth ar-lein. Mae’n haws i’w chywiro os byddwch chi’n gwneud camgymeriad, bydd unrhyw symiau yn digwydd yn awtomatig, ac mae yna help ar bob cam o’r ffordd.
Mae llawer o bobl hefyd yn cael help gan weithiwr proffesiynol, fel cyfrifydd neu asiant treth, i ddelio â ni ar eu rhan. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.
Mae angen i chi gofrestru yn gyntaf
Os nad ydych chi wedi llenwi Ffurflen Dreth o’r blaen, bydd angen i chi gofrestru gyda ni. Gallwch chi ddysgu sut i gofrestru ar GOV.UK.
Os ydych chi wedi llenwi Ffurflen Dreth o’r blaen, ond wnaethoch chi ddim llenwi un y llynedd, yna bydd angen i chi ailactifadu’ch cyfrif.
Peth pwysig i’w gofio:
Os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i ni ar 5 Hydref neu cyn y dyddiad hwn, a hynny’n dilyn y flwyddyn dreth gyntaf pan oedd arnoch chi dreth o bosibl. Felly, ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi gofrestru neu ailactifadu’ch cyfrif ar 5 Hydref 2026 neu cyn y dyddiad hwn. Os wnewch chi ddim, gallech chi wynebu dirwy.
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwn ni’n anfon Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (‘Unique Taxpayer Reference’ neu ‘UTR’). Bydd y rhif 10 digid yw hwn yn mynd ar bob Ffurflen Dreth byddwch chi’n ei llenwi yn y dyfodol, fel ein bod ni’n gwybod mai gennych chi mae’r Ffurflen Dreth. Cadwch ef rywle diogel pan gewch chi’r rhif.
Peth pwysig i’w gofio:
Gallwch chi wastad ddod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar GOV.UK. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ap CThEF. Dysgwch sut i’w lawrlwytho ar GOV.UK.
Ambell ddyddiad pwysig
Cyn belled â’ch bod chi’n deall y dyddiadau cau pwysig hyn, ac yn glynu wrthyn nhw, byddwch chi’n ei chael hi’n hawdd i gadw ar ben eich pethau.
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- cofrestru ar gyfer Hunanasesiad ar 5 Hydref neu cyn y dyddiad hwn
- gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael eich Ffurflen Dreth bapur erbyn 31 Hydref, neu anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 31 Ionawr
- talu unrhyw dreth sydd arnoch chi ar 31 Ionawr neu cyn y dyddiad hwnnw
Pan fo angen taliadau ar gyfrif (‘payments on account’), mae’r rhain yn daladwy mewn dau randaliad:
- 31 Ionawr (taliad cyntaf ar gyfrif)
- 31 Gorffennaf (ail daliad ar gyfrif)
Awgrym defnyddiol:
Wrth gwrs, gallwch chi wneud pob un o’r pethau hyn yn gynt. A dweud y gwir, gorau po gynted, oherwydd bydd gennych chi fwy o amser i gynllunio sut byddwch chi’n talu unrhyw dreth efallai sydd arnoch chi ac osgoi unrhyw gosbau. Mae hefyd yn golygu pe baech chi’n canfod eich bod chi wedi talu gormod o dreth, cewch chi ad-daliad yn gynt.
Nid Asesiad Syml mo Hunanasesiad
Nid oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth wrth ddilyn Asesiad Syml. Yn y bôn, byddwn ni’n cysylltu â chi er mwyn rhoi gwybod i chi faint o dreth sydd arnoch chi, yn ogystal â sut a phryd bydd angen i chi ei thalu hi.
Mae ganddyn nhw enwau tebyg, felly mae sawl un yn cymysgu’r ddau. Ond mewn gwirionedd, maen nhw’n wahanol iawn i’w gilydd.
Mae hyn oherwydd bod yr wybodaeth eisoes gennym ni gan eich cyflogwyr, banciau ac Adran Gwaith a Phensiynau wrth ddilyn Asesiad Syml. Felly, gallwn ni weithio allan faint o dreth sydd arnoch chi. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Asesiad Syml’.
Mae cymorth ar gael os oes ei angen ef arnoch chi
Hoffen ni eich bod chi’n teimlo’n hyderus o ran treth. Dyma gyfres o fideos CThEF yn Gymraeg. Dyma ragor o wybodaeth a fideos defnyddiol i’ch helpu chi gyda deall beth yw beth:
Os ydych chi’n poeni am dalu eich bil treth mewn pryd, efallai bydd modd i chi rannu’r gost drwy drefnu cynllun talu wythnosol neu fisol gyda ni. Gallwch chi hefyd gael cymorth ychwanegol os yw’ch cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anodd i chi gysylltu â ni. Dysgwch ragor ar GOV.UK.