Skip to main content

Beth yw Asesiad Syml?

 

 

Weithiau, gwelwch chi ein bod ni wedi anfon llythyr Asesiad Syml atoch chi. PA302 byddwn ni’n ei alw ef.

Nid oes angen i chi boeni dim. Mae’n broses hollol naturiol ac yn golygu ein bod ni eisoes ‘wedi asesu’ (neu wedi gweithio allan) faint o Dreth Incwm sydd arnoch chi fel nad oes angen i chi wneud hynny eich hun.

Gadewch i ni ddysgu ychydig mwy am Asesiad Syml, er enghraifft pwy sy’n cael un, a beth bydd angen i chi ei wneud pan gewch chi’r llythyr.

Bil treth syml yw ef, sy’n awtomatig

Asesiad Syml yw’r ffordd fwyaf hwylus i ni roi gwybod i chi am unrhyw dreth sydd arnoch chi.

Mae’n digwydd os allwn ni ddim casglu’r dreth sydd arnoch chi drwy eich cyflogau neu bensiynau. Mae’n golygu nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth.

Er mwyn gweithio allan beth sydd arnoch chi, byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth sydd eisoes gennym ni amdanoch chi gan eich cyflogwyr, banciau a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Byddwn ni wedyn yn anfon llythyr atoch chi i roi gwybod i chi faint sydd arnoch chi a sut i’w dalu.

Cewch chi eich llythyr Asesiad Syml drwy’r post, neu ar-lein os ydych chi wedi dewis bod yn ddi-bapur.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw symiau. Byddwn ni’n gwneud hynny ar eich rhan.

Nid Hunanasesiad mo Asesiad Syml

Mae ganddyn nhw enwau tebyg, felly mae sawl un yn cymysgu’r ddau. Ond mewn gwirionedd, maen nhw’n wahanol iawn i’w gilydd.

Byddwch chi’n rhoi gwybod i ni am eich incwm a’ch treuliau drwy anfon Ffurflen Dreth aton ni bob blwyddyn wrth ddilyn Hunanasesiad. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.

Yn achos Asesiad Syml, byddwn ni’n gwneud yr holl waith cyfri ar eich rhan ac yn anfon y canlyniad atoch chi. Y bwriad yw gwneud bywyd yn haws i bobl sydd â sefyllfaoedd treth syml.

Pam byddwch chi’n cael Asesiad Syml?

Byddwn ni’n anfon Asesiad Syml atoch chi pan allwn ni ddim casglu’r dreth sydd arnoch chi yn awtomatig, neu drwy ryw ffordd arall.

Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

  • mae arnoch chi dreth ar eich Pensiwn Gwladwriaeth
  • rydych chi’n ennill arian o log ar gynilion
  • mae arnoch chi dreth allen ni ddim ei chasglu drwy’ch cod treth
  • mae arnoch chi £3,000 neu fwy o flwyddyn dreth flaenorol

Peth pwysig i’w gofio:

Os oes gennych chi gynilion, gall y rhan fwyaf o bobl gael rhywfaint o log bob blwyddyn, yn rhydd o dreth. Lwfans Cynilion Personol yw’r enw ar hyn. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar GOV.UK ac ar ein tudalen ‘Cynilion a buddsoddiadau’.

Mae’r llythyr yn rhoi’r cyfan i chi

Bydd eich llythyr Asesiad Syml (PA302) yn dangos y canlynol:

  • dadansoddiad o’ch incwm (enillion, pensiynau, llog ar gynilion)
  • y swm sydd arnoch chi
  • y dyddiad cau ar gyfer talu
  • eich cyfeirnod talu

Gallwch chi hefyd weld eich Asesiad Syml ar-lein ac ar ap CThEF. Dysgwch sut i lawrlwytho ap CThEF ar GOV.UK.

Mae wastad werth gwirio

Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu gan gyflogwyr, banciau a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ofalus. Felly, bydd eich llythyr Asesiad Syml yn gywir iawn fel arfer. Ond mae’n syniad da i chi wirio’r wybodaeth, rhag ofn bod rhywfaint ohoni hi yn anghyflawn neu’n wybodaeth hen.

Awgrym defnyddiol:

Cyn i chi dalu’r dreth sydd arnoch chi, cymharwch y symiau yn eich llythyr â’ch cofnodion eich hun – er enghraifft cyfriflenni banc, llythyrau am eich pensiynau a’ch P60 (sef crynodeb blynyddol o’ch treth a ddaw law yn llaw â’ch slip cyflog ym mis Ebrill). Gwnewch yn siŵr ein bod ni wedi cynnwys popeth rydych chi wedi’i ennill ac unrhyw dreth rydych chi wedi’i thalu eisoes.

Os yw rhywbeth yn edrych yn anghywir, bydd angen i chi roi gwybod i ni o fewn 60 diwrnod i’r dyddiad ar eich llythyr chi.

Pryd mae angen i chi dalu

Os byddwn ni’n anfon eich llythyr Asesiad Syml cyn 31 Hydref, bydd angen i chi dalu’r swm sydd i’w weld arno ef cyn 31 Ionawr yn y flwyddyn nesaf. Bydd gennych chi 3 mis i’r dyddiad ar y llythyr i dalu os byddwn ni’n anfon y llythyr atoch chi ar ôl 31 Hydref. Peidiwch â phoeni, bydd y dyddiad cau i’w weld yn glir ar eich llythyr chi.

Gallwch chi dalu mewn sawl ffordd:

Gallwch chi hefyd dalu mewn symiau llai cyn y dyddiad cau os yw hynny’n haws i chi.

Gwneud treth yn syml

Pan fydd llythyr am dreth yn eich cyrraedd chi, gallwch chi’n teimlo’n bryderus. Ond, mae Asesiad Syml wedi’i gynllunio i symleiddio treth a chadw popeth yn glir. Ac os oes angen unrhyw help arnoch chi gyda hyn, rydyn ni yma i’ch helpu chi.