Os mai unig fasnachwr ydych chi, neu os ydych chi’n ennill arian o eiddo, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm ar fin newid.
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yw’r enw ar hyn. Bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026 ymlaen i rai pobl.
Ar y dudalen hon, byddwn ni hefyd yn egluro beth bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ei olygu i chi, pryd bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun, o bosib, a sut gallwch chi baratoi eich hun.
Pryd bydd angen i chi ddechrau?
Er mwyn sicrhau bod gan bawb amser i baratoi, rydyn ni’n cyflwyno Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fesul cam. Bydd y dyddiad pan fydd angen i chi ddechrau ei ddefnyddio yn dibynnu ar gyfanswm eich ‘trosiant’ o unrhyw hunangyflogaeth ac arian o unrhyw eiddo. ‘Trosiant’ yw’r enw ar yr arian mae’ch busnes yn ei ennill, cyn i chi dynnu unrhyw dreuliau neu dreth.
Dyma’r dyddiadau dechrau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:
- 6 Ebrill 2026 os yw’ch trosiant dros £50,000
- 6 Ebrill 2027 os yw’ch trosiant dros £30,000
- 6 Ebrill 2028 os yw’ch trosiant dros £20,000
Peth pwysig i’w gofio:
Byddwn ni’n defnyddio’ch Ffurflen Dreth ddiwethaf i benderfynu ar eich dyddiad dechrau. Hefyd, rhown wybod i chi pryd y bydd angen i chi gofrestru. Gallwch chi ddysgu rhagor am baratoi ar ein gwefan Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Mae Troi Treth yn Ddigidol yn rhannu eich gwaith gweinyddol dros gyfnod o amser
Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn golygu fyddwch chi ddim yn llenwi’ch Ffurflen Dreth i gyd ar unwaith. Yn lle hynny, byddwch chi’n rhannu ac yn lledaenu’r gwaith gweinyddol drwy gydol y flwyddyn.
Byddwch chi’n defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu (‘compatible’), fel ap ar eich ffôn neu gyfrifiadur, er mwyn gwneud y canlynol:
- cofnodi eich incwm a’ch treuliau o hunangyflogaeth ac eiddo
- anfon diweddariadau aton ni bedair gwaith y flwyddyn (hynny yw, bob tri mis, neu yn ‘chwarterol’)
- ychwanegu unrhyw incwm arall y byddwch chi’n ei gael yn ystod y flwyddyn honno (dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn)
- anfon eich Ffurflen Dreth aton ni
Er y byddwch chi’n anfon diweddariadau aton ni’n fwy rheolaidd, mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wedi’i gynllunio er mwyn hwyluso’r broses yn y tymor hir.
Tri pheth pwysig i’w cofio
Nid Ffurflenni Treth mo’r diweddariadau chwarterol. Dim ond cipolwg sydyn ar sut mae’ch busnes yn dod yn ei flaen ydyn nhw
Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r system newydd
Byddwch chi’n dal i anfon Ffurflen Dreth aton ni a thalu eich bil ar ddiwedd y flwyddyn. Ond erbyn hyn, mae’ch meddalwedd yn creu crynodeb er mwyn hwyluso’r broses hon
Mae’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch chi i’w gweld ar ein gwefan Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i chi gael ymgyfarwyddo â’r cyfan. Dysgwch ragor am sut mae’r cyfan yn gweithio, yn ogystal â dewis y feddalwedd gywir i chi.