Skip to main content

Beth yw TWE?

 

 

Ystyr TWE yw ‘Talu Wrth Ennill’. Os ydych chi’n gyflogedig, efallai gwelwch chi’r cod hwn ar eich slip cyflog.

Dyma’r enw rydyn ni wedi’i ddewis ar gyfer y system awtomatig byddwn ni’n ei defnyddio i gasglu rhai mathau o dreth o gyflogau pobl. Trethi fel Treth Incwm – dyna’r dreth byddwch chi’n ei thalu ar beth byddwch chi’n ei ennill, ac Yswiriant Gwladol – dyna’r cyfraniadau byddwch chi’n eu talu i ariannu budd-daliadau’r wladwriaeth fel Pensiwn y Wladwriaeth a’r GIG.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu drwy TWE

Mae bron pawb sy’n gweithio i rywun arall yn talu ei drethi a’i Yswiriant Gwladol yn awtomatig drwy’r system TWE. Os ydych chi’n gyflogedig ac yn gweithio’n llawn amser, rhan amser neu mewn swydd dros dro, mae’n debyg bod hyn yn berthnasol i chi a mwy na thebyg i’w weld ar eich slip cyflog.

Pan gewch chi eich talu, bydd eich cyflogwr yn gweithio allan faint sydd arnoch chi, yn rhannol gan edrych ar faint rydych chi’n ei ennill yn ystod blwyddyn. Byddan nhw hefyd yn gweithio hyn allan gan ddefnyddio’ch cod treth personol. Byddwn ni’n esbonio rhagor am hyn yn nes ymlaen.

Nesaf, bydd eich cyflogwr yn tynnu beth sydd arnoch chi oddi wrth eich cyflog cyn eich talu chi. Yna, byddan nhw’n anfon yr arian hwn ymlaen aton ni yn CThEF.

Os cewch chi arian o unrhyw bensiynau gweithle neu bensiynau preifat, bydd darparwr eich pensiwn hefyd yn defnyddio TWE.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae TWE yn golygu nad oes angen i chi lenwi unrhyw ffurflenni na chofio am unrhyw ddyddiadau cau. Bydd eich cyflogwr a darparwr eich pensiwn yn gwneud y cyfan ar eich rhan.

Beth sy’n cael ei dalu drwy TWE?

Treth Incwm yw’r prif fath o dreth byddwch chi’n ei thalu ar beth byddwch chi’n ei ennill.  Mae faint byddwch chi’n ei dalu yn dibynnu ar pa gyfradd dreth sy’n berthnasol i chi, ac rydyn ni’n penderfynu hyn drwy edrych ar faint byddwch chi’n ei ennill.

Gallwch chi ystyried cyfraddau treth i fod yn debyg i risiau ar ysgol. Wrth i chi ennill mwy o arian, byddwch chi’n camu i fyny’r ysgol tuag at y gyfradd dreth uwch. Ond, dim ond rhan uchaf eich enillion – y rhan honno sy’n eistedd ar y ris uwch – fyddwn ni’n ei threthu ar y gyfradd uwch, nid yr arian i gyd.

Cyfraddau Treth Incwm*

Lwfans Personol: Hyd at £12,570 (treth ar 0%).

Cyfradd sylfaenol: Rhwng £12,571 a £50,270 (treth ar 20%).

Cyfradd uwch: Rhwng £50,271 a £125,140 (treth ar 40%).

Cyfradd ychwanegol: Dros £125,140 (treth ar 45%).

*Cyfraddau Treth Incwm ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Tabl yn dangos cyfraddau Treth Incwm y DU ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Incwm hyd at £12,570: 0% (Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth). £12,571–£50,270: 20% ar y Gyfradd Sylfaenol. £50,271–£125,140: 40% ar y Gyfradd Uwch. Dros £125,140: 45% ar y Gyfradd Ychwanegol.

Yr arian arall byddwch chi’n ei dalu drwy TWE yw Yswiriant Gwladol. Mae’r arian hwnnw’n cyfrannu tuag at bethau fel Pensiwn y Wladwriaeth a’r GIG. Mae’r arian hwn ar wahân i Dreth Incwm, ond mae’n cael ei dynnu oddi wrth eich tâl yn yr un ffordd. Dysgwch ragor am hyn ar ein tudalen ‘Yswiriant Gwladol’.

Bydd Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol i’w gweld ar eich slip cyflog, ond ar linellau ar wahân. Gallwch chi weld wedyn faint yn union sydd wedi’i dynnu ar gyfer pob un.

Mae gan bawb ar y system TWE god treth

Casgliad o rifau a llythrennau yw eich cod treth, ac efallai eich bod chi hefyd wedi’i weld ef ar eich slip cyflog. Mae’n god sy’n dweud wrth eich cyflogwr faint o arian mae gennych chi’r hawl i’w ennill yn ystod blwyddyn cyn dechrau talu treth arno ef.

Mae hawl gan y rhan fwyaf o bobl i ennill hyn a hyn o incwm bob blwyddyn heb dalu treth arno ef. Dyma’ch Lwfans Personol rhydd o dreth. £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol arferol. Byddwch chi’n talu Treth Incwm ar unrhyw arian sy’n uwch na hynny – gan gynnwys unrhyw log neu gildyrnau (‘tips’), felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i ni am y rhain. 1257L yw’r cod treth ar gyfer y lwfans hwn.

Diagram yn dangos Lwfans Personol o £12,570 y flwyddyn yn rhydd o dreth, a bod incwm sy’n uwch na’r swm hwn yn drethadwy.

Nid oes angen i chi wneud dim i gael cod treth. Byddwn ni’n gweithio hyn allan pan fyddwch chi’n dechrau swydd newydd ac yn anfon y cod at eich cyflogwr. Os bydd eich amgylchiadau’n newid – er enghraifft, byddwch chi’n cael ail swydd neu’n dechrau cael budd-dal penodol – gallai fod angen i ni newid eich cod treth hefyd. Mae’n bwysig felly eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Awgrym defnyddiol: 

Er bod hwn yn cael ei weithio allan drwy system manwl gywir, awtomatig, mae’n syniad da i chi wirio’ch cod treth bob hyn a hyn. Os yw eich cod treth yn anghywir, efallai byddwch chi’n talu gormod o dreth neu ddim digon o dreth. Gallwch chi wirio eich un chi’n hawdd ac yn sydyn ar GOV.UK neu ar ap CThEF.

Mae TWE hefyd yn berthnasol i incwm o bensiwn

Fel rydyn ni wedi sôn gynnau, oherwydd ystyr TWE yw ‘Talu Wrth Ennill’, mae hefyd yn casglu Treth Incwm yn awtomatig o unrhyw ‘enillion’ neu incwm arall byddwch chi’n ei gael – er enghraifft arian gewch chi o unrhyw bensiynau gweithle neu bensiynau preifat.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol. Byddwch chi wastad yn ei gael ef heb unrhyw dreth wedi’i thynnu – ond nid yw’n cyfri fel incwm trethadwy. Os yw cyfanswm eich incwm, gan gynnwys eich Pensiwn Gwladwriaeth, yn fwy na’r Lwfans Personol rydyn ni wedi ei grybwyll gynnau, bydd arnoch chi dreth.

Os bydd arnoch chi dreth, byddwn ni’n ceisio ei thynnu hi oddi wrth eich cyflog drwy’r system TWE yn gyntaf (os ydych chi’n dal i fod yn gyflogedig), neu drwy unrhyw bensiynau eraill sydd gennych chi.

Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Agosáu at ymddeol’.

Nid yw pawb yn defnyddio’r system TWE

Os nad oes gennych chi gyflogwr, byddwch chi mwy na thebyg yn talu treth rhyw ffordd arall.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn a thalu eich bil treth yn uniongyrchol. Mae hyn oherwydd nad oes gennych chi gyflogwr sy’n delio â hyn ar eich rhan.

Gallai fod angen i chi lenwi Ffurflen Dreth hefyd os cewch chi incwm o rywle arall, ar ben eich cyflog arferol. Er enghraifft, os cewch chi fwy na £2,500 o rentu eiddo, neu fwy na £1,000 o hunangyflogaeth.

Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.

Mae TWE yn symleiddio’r broses o dalu treth

Bwriad TWE yw hwyluso’r broses o ddelio â threth. Byddwch chi’n talu beth sydd arnoch chi wrth i chi fynd yn eich blaen, drwy gydol y flwyddyn, heb orfod gwneud dim. Dim symiau cymhleth nac unrhyw ffurflenni i’w llenwi. Rydyn ni’n gweithio gyda’ch cyflogwr i wneud y cyfan ar eich rhan – er bydd yn dal i fod angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n gwirio’ch cod treth a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Os byddwch chi byth yn amau rhywbeth am eich sefyllfa dreth, gallwch chi wirio’ch cofnodion ar-lein drwy greu cyfrif treth personol ar GOV.UK neu drwy ap CThEF ar GOV.UK.

Cofiwch, rydyn ni wastad yma i’ch helpu chi.