Skip to main content

Cyflwyniad i dreth

 

 

Nid oes angen i dreth fod yn benbleth. Mae’r sylfeini’n syml, ac unwaith eich bod chi’n hyderus wrth ddelio â’r hanfodion hyn, yn fuan iawn bydd popeth arall yn dechrau gwneud synnwyr.

P’un a ydych chi’n hollol newydd i dreth, neu hoffech chi gael darlun cliriach, dyma’r lle i chi ddechrau.

Beth byddwch chi’n eu gweld yma

Nid oes angen i fod yn arbenigwr ar dreth, cymerwch eich amser.

Bydd y tudalennau hyn yn esbonio pethau gan ddefnyddio termau clir a heb ddefnyddio jargon. Ewch drwy bopeth wrth eich pwysau eich hun ac mewn pa bynnag drefn sydd orau gennych chi. Ac os ydych chi’n dal i deimlo’n ansicr am rywbeth, rydyn ni yma i’ch helpu chi.