Skip to main content

Beth yw Yswiriant Gwladol?

 

Efallai eich bod chi wedi gweld Yswiriant Gwladol ar eich slip cyflog neu fel rhan o’ch Ffurflen Dreth a phendroni dros beth yn union yw ef. Yn syml, mae Yswiriant Gwladol yn helpu i ariannu rhai ‘budd-daliadau’r wladwriaeth’ (‘state benefits’). Bant â ni.

Mae Yswiriant Gwladol yn cyfrannu tuag at eich Pensiwn Gwladwriaeth

Nid yw Yswiriant Gwladol yn debyg i’r trethi eraill. Byddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol ar ffurf ‘cyfraniadau’ (‘contributions’).

Caiff eich cyfraniadau eu cofnodi ar hyd y blynyddoedd ar eich cofnod Yswiriant Gwladol personol. Bydd eich cofnod yn pennu faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi, neu os cewch chi unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth o gwbl. Dyna un enghraifft o’r ‘budd-daliadau’r wladwriaeth’ gwnaethon ni eu crybwyll gynnau.

Peth pwysig i’w gofio:

Fel arfer, bydd angen 10 mlynedd gymhwysol ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth newydd. I ddysgu faint o Bensiwn y Wladwriaeth gallech chi ei gael, gallwch chi wirio rhagolwg o’ch Pensiwn Gwladwriaeth ar GOV.UK.

Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, gallwch chi wirio’ch cofnod ar unrhyw bryd ar GOV.UK neu ar ap CThEF. Os nad oes gennych chi’r naill neu’r llall o’r rhain, gallwch chi ofyn am ddatganiad o’ch cofnod Yswiriant Gwladol ar GOV.UK.

Awgrym defnyddiol: 

Os oes gennych chi fylchau yn eich cofnod, efallai bydd modd i chi lenwi’r rhain drwy ddefnyddio ‘credydau Yswiriant Gwladol’ – gallwch chi ddysgu am bopeth sydd angen i chi ei wybod ar GOV.UK. Gan amlaf, os allwch chi ddim llenwi’r bylchau hyn gan ddefnyddio credydau, bydd modd i chi lenwi unrhyw fylchau sydd o fewn y 6 blwyddyn dreth ddiwethaf drwy dalu rhywbeth o’r enw ‘cyfraniadau gwirfoddol’. Dysgwch ragor ar GOV.UK.

Bydd cyfraniadau pawb yn helpu ei gilydd hefyd

Mae rhan o’ch Yswiriant Gwladol yn helpu i ariannu’r GIG. Bydd y gweddill yn cyfrannu at fudd-daliadau eraill y wladwriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth ariannol i bobl sydd ei angen ef, er enghraifft pobl sydd ddim yn gweithio (‘unemployed’), pobl sydd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl neu bobl sydd ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Dim ond pan fyddwch chi’n ennill digon byddwch chi’n talu tuag at hyn

Dim ond os ydych chi’n 16 oed ac yn ennill mwy na hyn a hyn o arian byddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol. Byddwch chi’n dechrau talu pan fyddwch chi’n ennill mwy na £242 yr wythnos o un o’ch swyddi. Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch chi’n talu pan fyddwch chi’n ennill mwy na £12,570 y flwyddyn.

Siart yn dangos y trothwyon ar gyfer Yswiriant Gwladol yn ôl oedran rhywun, ei statws cyflogaeth a lefel ei incwm.

Sut mae talu Yswiriant Gwladol?

Os ydych chi’n gyflogedig, nid oes angen i chi wneud dim. Bydd eich cyflogwr yn tynnu Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflog yn awtomatig cyn eich talu chi. Caiff hyn ei wneud drwy system, o’r enw ‘Talu Wrth Ennill’ (neu TWE). Efallai eich bod chi wedi gweld y llythrennau hyn o’r blaen ar eich slipiau cyflog. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Beth yw TWE?’.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwch chi’n talu’r Yswiriant Gwladol sydd arnoch chi pan fyddwch chi’n anfon eich Ffurflen Dreth aton ni bob blwyddyn. Dysgwch ragor am beth sydd ynghlwm wrth ‘Hunanasesiad’ a ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’ ar ein tudalennau neilltuol.

Gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth am dalu Yswiriant Gwladol ar GOV.UK.

Fyddwch chi ddim yn talu Yswiriant Gwladol am byth

Efallai fod tipyn o amser i fynd eto, ond yn y pen draw fyddwch chi’n stopio talu Yswiriant Gwladol yn gyfan gwbl. Dysgwch sut mae treth ac Yswiriant Gwladol yn gweithio ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Eich rhif Yswiriant Gwladol – gyda chi am weddill eich oes

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael ei rif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fyddan nhw’n troi’n 16 oed. Bydd y rhif hwn yn eich dilyn chi i bob swydd gewch chi, gan wneud yn siŵr bod eich holl gyfraniadau yn cael eu cofnodi. Cadwch y rhif hwn yn ddiogel oherwydd bydd ei angen ef arnoch chi bryd bynnag byddwch chi’n dechrau swydd newydd, yn ogystal â phan fyddwch chi’n gwneud cais am fenthyciad myfyriwr, budd-daliadau a hyd yn oed gofrestru ar gyfer pleidleisio.

Awgrym defnyddiol: 

Y ffordd hawsaf i chi ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol yw drwy ddefnyddio ap CThEF. Bydd ef hefyd ar eich Ffurflenni Treth – ac efallai bydd ef i’w weld ar eich slip cyflog hefyd.

Erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol? Gallwch chi ddysgu sut i wneud cais am un ar GOV.UK.