Skip to main content

Beth yw eich Lwfans Personol rhydd o dreth?

 

Mae angen i bawb sy’n ennill arian dalu rhywbeth o’r enw ‘Treth Incwm’. Dyma’r drefn waeth o ble daw eich incwm, er enghraifft:

  • eich swydd
  • hunangyflogaeth
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau gweithle neu bensiynau preifat
  • llog ar gynilion
Graffeg yn dangos Treth Incwm sy’n cael ei thalu ar enillion o gyflogaeth, hunangyflogaeth, Pensiwn y Wladwriaeth, pensiynau gweithle neu breifat, a llog o gynilion.

Ond fyddwch chi ddim yn talu treth ar yr holl arian byddwch chi’n ei ennill. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael ennill swm penodol o incwm bob blwyddyn cyn iddyn nhw ddechrau talu unrhyw dreth o gwbl. Eich Lwfans Personol yw’r enw ar y swm hwn sy’n rhydd o dreth.

£12,570 yw’r Lwfans Personol arferol ar gyfer pob blwyddyn dreth.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae’r flwyddyn dreth wastad yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Os oes gennych chi Lwfans Personol a’ch bod chi’n ennill mwy na £12,570 yn ystod y flwyddyn, dim ond talu treth ar y rhan o’r arian sydd uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n ei wneud.

Dyma enghraifft:

Mae Rebecca yn ennill £20,000 y flwyddyn.

Mae ganddi hi Lwfans Personol o £12,570, sy’n rhydd o dreth.

Mae hyn yn gadael £7,430 yn weddill.

Dim ond ar y swm hwn o arian bydd Rebecca yn talu treth.

Enghraifft o Lwfans Personol: mae Rebecca yn ennill £20,000, mae £12,570 yn rhydd o dreth, ac mae hi’n talu Treth Incwm ar y £7,430 sy’n weddill.

Y gwahanol fathau o dreth pan fyddwch chi’n ennill mwy o arian

Mae swm y dreth byddwch chi’n ei dalu ar unrhyw arian sydd uwch na’ch Lwfans Personol rhydd o dreth yn dibynnu ar faint byddwch chi’n ei ennill yn ystod y flwyddyn honno.

Gallwch chi ystyried cyfraddau treth i fod yn debyg i risiau ar ysgol. Wrth i chi ennill mwy o arian, byddwch chi’n camu i fyny’r ysgol tuag at y gyfradd dreth uwch. Ond, dim ond rhan uchaf eich enillion – y rhan honno sy’n eistedd ar y ris uwch – fyddwn ni’n ei threthu ar y gyfradd uwch, nid yr arian i gyd.

Cyfraddau Treth Incwm*

Eich incwmEich cyfradd Treth Incwm
Hyd at £12,5700% (Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth)
Rhwng £12,571 a £50,27020%
Rhwng £50,271 a £125,14040%
Dros £125,14045%

*Cyfraddau Treth Incwm ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Peth pwysig i’w gofio:

Mae gan yr Alban gyfraddu Treth Incwm ei hun, felly os ydych chi’n byw yno, bydd y bandiau yn berthnasol i chi mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol. Gallwch chi ddysgu rhagor am gyfraddau’r Alban ar GOV.UK.

Nid yw pob incwm yn cael ei drethu yn yr un ffordd

Rhywbeth cyffredin sy’n poeni pobl yw symud i fand â chyfradd dreth uwch, oherwydd maen nhw’n ofni bydd ei holl incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd uwch honno. Peidiwch â phoeni, nid dyma’r achos.

Dyma enghraifft:

Mae Jake yn ennill £30,000 y flwyddyn.

Mae’r £12,570 cyntaf bydd ef yn eu hennill yn rhydd o dreth (hynny yw, ei Lwfans Personol).

Bydd y £17,430 sy’n weddill yn cael eu trethu ar 20%.

Cyfanswm ei Dreth Incwm ar gyfer y flwyddyn yw £3,486.

Mae Kate yn ennill £70,000 y flwyddyn.

Mae’r £12,570 cyntaf bydd hi’n eu hennill yn rhydd o dreth (hynny yw, ei Lwfans Personol).

Bydd y £37,700 nesaf yn cael eu trethu ar 20% – sy’n hafal i £7,540.

Bydd y £19,730 sy’n weddill yn cael eu trethu ar 40% – sy’n hafal i £7,892.

Cyfanswm ei Threth Incwm am y flwyddyn yw £15,432.

Ffeithlun yn dangos dwy enghraifft o incwm trethadwy. Mae Jake yn ennill £30,000: mae £12,570 yn rhydd o dreth ac mae £17,430 yn cael ei drethu ar 20%. Mae Kate yn ennill £70,000: mae £12,570 yn rhydd o dreth, mae £37,700 yn cael ei drethu ar 20% ac mae £19,730 yn cael ei drethu ar 40%.

Mae gan bobl sy’n ennill mwy o arian Lwfans Personol is

Mae’r Lwfans Personol yn eich helpu i gadw rhywfaint o’r incwm yn rhydd o dreth. Ond, os byddwch chi’n dechrau ennill mwy na £100,000, bydd eich Lwfans Personol yn dechrau gostwng.

A dweud y gwir, am bob £2 byddwch chi’n eu hennill dros £100,000, byddwch chi’n colli £1 o’ch lwfans chi. Erbyn i chi ennill mwy na £125,140, fydd gennych chi ddim lwfans ar ôl. Felly, byddwch chi’n talu treth ar yr holl arian byddwch chi’n ei ennill.

Bydd eich cod treth yn dangos eich lwfans

Os ydych chi’n gyflogedig, byddwch chi’n cael slip cyflog bob tro cewch chi eich talu. Un o’r pethau byddwch chi’n ei weld arno ef yw eich cod treth. Mae’n gymysgedd o rifau a llythrennau sy’n dweud wrth eich cyflogwr faint o Lwfans Personol sydd gennych chi.

Peth pwysig i’w gofio:

Y cod mwyaf cyffredin yw 1257L, oherwydd dyma sy’n dangos y Lwfans Personol rhydd o dreth arferol, sef £12,570 y flwyddyn.

Os eich cod treth chi yw hwn, bydd eich cyflogwr yn ei weld ef ac yn gwybod gallwch chi ennill £12,570 o’ch swydd cyn talu unrhyw Dreth Incwm.

Gallwch chi ddysgu sut mae’n gweithio ar ein tudalen ‘Dod i ddeall eich cod treth’.

Gallech chi fod yn cael lwfansau eraill hefyd

Dim ond un math o lwfans rhydd o dreth sydd ar gael yw Lwfans Personol. Os byddwch chi’n ennill arian y tu allan i’ch prif swydd, gallech chi fod yn cael mantais o lwfansau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lwfans Cynilion Personol – am arian gewch chi o log ar gynilion
  • Lwfans Masnachu – am arian gewch chi o brosiect pres poced
  • Lwfans Difidendau – am arian gewch chi o ddifidendau
  • Swm Blynyddol wedi’i Esemptio (Treth Enillion Cyfalaf) – am elw gewch chi o bethau byddwch chi’n eu gwerthu
  • Lwfans Priodasol – mae’n eich galluogi chi i rannu’ch Lwfans Personol sydd heb ei ddefnyddio â’ch partner

Efallai fod hyn i gyd yn swnio fel tipyn i’w ddeall ar y dechrau, ond ar ddiwedd y dydd, mae lwfansau rhydd o dreth yma i’ch helpu chi. Felly, drwy ddod i ddeall sut maen nhw’n gweithio dylech chi deimlo’r buddion yn y pen draw.