Skip to main content

Beth yw treth?

 

 

Treth yw’r arian mae gofyn i unigolion a busnesau ei dalu i’r llywodraeth yn ôl y gyfraith. Mae’n helpu i dalu am (neu ariannu) gwasanaethau cyhoeddus a phethau eraill rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw.

Byddwch chi’n talu treth mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft pan fyddwch chi’n ennill arian neu pan fyddwch chi’n prynu pethau. Gan amlaf, bydd hyn yn digwydd yn awtomatig.

Ar gyfer Treth Ar Werth (TAW), bydd hi wedi’i chynnwys yn y pris fel arfer pan fyddwch chi’n prynu pethau neu’n talu am wasanaethau. Os ydych chi’n gyflogedig, bydd Treth Incwm fel arfer yn cael ei thynnu oddi wrth eich cyflog drwy’r system ‘Talu Wrth Ennill’ (TWE). A bydd rhai busnesau ac unigolion yn talu treth i ni yn uniongyrchol pan fyddan nhw’n anfon Ffurflen Dreth aton ni.

Beth mae treth yn talu amdano ef?

Dyma sut mae’r llywodraeth yn talu am ein gwasanaethau ni, ac i wneud y siŵr bod y rhain yn gweithredu’n llwyddiannus. Pan fyddwch chi’n talu treth, byddwch chi’n helpu i ariannu pethau fel y canlynol:

Iechyd

Mae treth yn helpu i dalu am y GIG, gan gynnwys ysbytai, doctoriaid, nyrsys a meddyginiaeth.

Addysg

Mae treth yn talu am ysgolion, athrawon a llefydd yn y coleg.

Diogelwch y cyhoedd

Mae treth yn helpu i dalu am yr heddlu, gwasanaethau tân a’r llysoedd.

Trafnidiaeth

Mae treth yn helpu i edrych ar ôl ein ffyrdd, bysiau, trenau a thrafnidiaeth arall.

Cymorth i unigolion a theuluoedd

Bydd rhai unigolion angen cymorth ychwanegol, felly mae treth yn helpu i dalu am fudd-daliadau a chymhorthdaliadau.

Gwasanaethau lleol

Mae treth yn helpu gyda phethau fel parciau, biniau ac edrych ar ôl yr amgylchedd.

Heb dreth, fyddai’r gwasanaethau hyn rydyn ni i gyd yn eu rhannu, heb os, ddim yn gweithio.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y mathau mwyaf cyffredin o dreth ar y dudalen hon.

Sut byddwn ni’n casglu treth?

Mae sawl ffordd wahanol o gasglu treth. Os ydych chi’n gyflogedig, byddwn ni’n ceisio’i chasglu o’ch cyflog drwy’r system TWE. Y system drafodon ni gynnau. Os allwn ni ddim casglu’r dreth sydd arnoch chi fel hyn, efallai byddwn ni’n anfon llythyr Asesiad Syml atoch chi neu’n gofyn i chi lenwi Ffurflen Dreth.

Ewch i chwilio drwy ein hadran ar gasglu treth i ddysgu rhagor.

Pwy yw CThEF?

Yn y DU, ni sy’n gyfrifol am gasglu’r rhan fwyaf o drethi a’u rheoli nhw. Ein henw ni yw ‘Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi’ neu CThEF. Rydyn ni’n cynnig arweiniad a chymorth i helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn talu’r dreth dylen nhw fod yn ei thalu.

Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu ar yr adeg gywir, rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth ariannol anhepgor i unigolion sydd ei angen ef fwyaf. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ein systemau budd-daliadau a chredydau, fel Budd-dal Plant i deuluoedd.

Magu’ch hyder o ran treth

Bydd bron pawb yn talu treth ar ryw bwynt yn ystod ei fywyd – gan amlaf bydd hyn yn dechrau o’ch swydd gyntaf. Efallai fe welwch chi hyn ar eich slip cyflog neu ar dderbynneb pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth. Pan fyddwch chi’n gweld y dreth, mae’n golygu eich bod chi’n helpu eich cymuned a’ch gwlad i weithio ar eu gorau.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld bod eu sefyllfa dreth yn newid drwy gydol eu bywyd. Gallai hyn ddigwydd pan fyddwch chi’n dechrau gwaith, newid swydd, astudio, rhentu, cynilo, neu ddechrau ennill arian mewn ffordd newydd. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ar dreth, ond trwy ddeall y sylfeini gallwch chi helpu eich hun i deimlo’n fwy hyderus o ran treth, a theimlo bod eich arian o dan eich rheolaeth.

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i lenwi unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth chi. P’un a oes angen help arnoch chi i ddeall eich treth, rheoli eich taliadau, neu gael cymorth ychwanegol fel Budd-dal Plant.

Wrth i chi fagu’ch hyder, byddwch chi’n ei chael hi’n haws i reoli eich treth eich hun ar-lein. Beth am lawrlwytho ap CThEF neu ewch i chwilio drwy ein gwasanaethau ar-lein ar GOV.UK.