Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am CThEF. Efallai eich bod chi wedi gweld ein henw ni ar lythyr o’r blaen neu ar eich slip cyflog. Ond efallai eich bod chi’n llai sicr am beth rydyn ni’n ei wneud mewn gwirionedd.
CThEF, neu Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ydyn ni a’n dyletswydd ni yw casglu treth yn y DU a helpu’r cyfan i weithio mor dda â phosibl. Rydyn ni’n rhoi cymorth ariannol anhepgor i unigolion sydd ei angen ef fwyaf drwy ein budd-daliadau. Ac rydyn ni’n rheoli sut mae’r DU yn masnachu â gwledydd eraill, yn ogystal â’r rheolau ychwanegol sydd ynghlwm wrth hyn.
Awn ni drwy’r cyfan yn fanwl yn nes ymlaen.
Casglu arian am y pethau rydyn ni i gyd yn eu defnyddio
Mae treth yn talu am y seilwaith rydyn ni’n dibynnu arno ef – er enghraifft, ein ffyrdd sy’n cysylltu ni â’n gilydd, yr heddlu sy’n cadw pawb yn ddiogel, yn ogystal â nifer fawr o wasanaethau cyhoeddus pwysig fel llyfrgelloedd, parciau a nyrsys.

Ein prif ddyletswydd yw casglu treth fel bod y llywodraeth yn gallu talu am y pethau hyn.
Felly, pan fyddwch chi’n talu treth, fe fyddwch chi’n helpu i ariannu’r pethau sy’n cynnal y DU.
Un o’n prif ddyletswyddau eraill yw casglu Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn helpu i dalu am y GIG a’r pethau o’r enw ‘budd-daliadau’ (‘benefits’), gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Helpu unigolion sydd angen cymorth ariannol
Nid casglu arian yw’n hunig ddyletswydd. Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr unigolion sydd angen cymorth ariannol ychwanegol yn ei gael ef. Mae hyn yn cynnwys pethau fel Budd-dal Plant i deuluoedd sydd â phlant.
Rydyn ni’n gweithio gyda chyflogwyr i symleiddio treth
Os byddwch chi’n gweithio i rywun arall, bydd eich treth mwy na thebyg yn cael ei sortio’n awtomatig. Oherwydd rydyn ni’n gweithio gyda chyflogwyr a busnesau i hwyluso pethau.
I’r rhan fwyaf o bobl sy’n ennill cyflog, bydd eu treth yn cael ei thynnu oddi wrth beth maen nhw wedi’i ennill cyn i’r arian gyrraedd eu cyfrif banc. Mae hyn yn digwydd trwy’r system ‘Talu Wrth Ennill’ (TWE). Ac os ydych chi’n cael eich arian o bensiwn, byddwn ni’n gweithio gyda darparwr eich pensiwn er mwyn casglu’r dreth hefyd. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Beth yw TWE?’.
Ar ben hyn, rydyn ni’n helpu busnesau i ddeall pa dreth sydd angen iddyn nhw ei thalu, fel Treth Ar Werth (TAW), sef treth sy’n cael ei hychwanegu at y rhan fwyaf o bethau byddwch chi’n eu prynu.
Diogelu ffiniau’r DU a helpu masnach
Efallai eich bod chi’n pendroni dros ystyr ‘tollau’ yn ein henw, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Mae’n cyfeirio at y nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU (hynny yw, eu ‘mewnforio’ (‘imported’)) a’r nwyddau sy’n mynd i wledydd eraill o’r DU (hynny yw, eu ‘hallforio’ (‘exported’)). Pan fo nwyddau’n cyrraedd porthladd neu faes awyr yn y DU, ein dyletswydd ni yw gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i wirio bod y rhain yn ddiogel a bod y ‘tollau’ cywir wedi’u talu arnyn nhw.
Mae hyn yn cadw pawb yn ddiogel rhag eitemau peryglus neu anghyfreithlon, ac ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod busnesau yn chwarae eu rhan nhw drwy ddilyn y rheolau wrth fasnachu â gwledydd eraill. Yn ei droi, mae hyn yn cynorthwyo economi’r DU a’r economi fyd-eang.
Eich helpu chi i gael pethau’n iawn
Rhwng sawl gwahanol fathau o dreth a’r gwahanol reolau sydd ynghlwm wrthyn nhw, gall y cyfan deimlo’n ddryslyd. Ond, hoffai’r rhan fwyaf o bobl gael pethau’n iawn, a hoffen ni eu helpu nhw i wneud hynny.
Felly, rydyn ni wedi creu’r ymgyrch ‘Magu’ch hyder o ran treth’ i esbonio treth, ac yn syml, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ar dreth, ond bydd yr wybodaeth welwch yma yn eich helpu chi i lenwi unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth chi.
Os ydych chi wedi ymddeol, os ydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun, yn dechrau swydd newydd, neu’n ceisio deall eich cod treth, rydyn ni yma i’ch helpu i ddeall y cyfan. Gam wrth gam.