Skip to main content

Magu’ch hyder o ran treth yn eich bywyd gwaith

Drwy gydol eich bywyd gwaith, bydd treth yn rhan o’r darlun ehangach.

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddeall sut mae’n gweithio, a phryd a sut mae’n bosibl i’ch sefyllfa dreth newid.

Byddwn ni’n esbonio popeth mor syml â phosibl, fel gallwch chi deimlo’n hyderus o ran treth drwy gydol eich gyrfa – beth bynnag fo’ch gyrfa i chi.

Dyma’r tudalennau a welwch yma

Newydd ddechrau gweithio

Pan gewch chi eich slip cyflog cyntaf, efallai bydd yr wybodaeth ychydig yn ddryslyd i chi. Rydyn ni’n esbonio beth byddwch chi’n ei weld arno ef, sut mae’n gweithio yn eich swydd gyntaf, a phopeth am godau treth a pham maen nhw’n newid.

Newid eich gwaith neu’ch incwm

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn newid swydd ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Byddwn ni’n eich tywys chi trwy beth mae hynny’n ei olygu ar gyfer treth, beth i’w wneud os oes gennych chi fwy nag un swydd neu brosiect pres poced, beth sy’n digwydd os byddwch chi’n troi’n hunangyflogedig, a phryd mae angen i chi lenwi Ffurflen Dreth.

Eich treth a newidiadau mawr yn ystod eich bywyd

O briodi i gael plant a phrynu tŷ, gall pob un o’r rhain nodi carreg filltir bwysig yn eich bywyd chi sy’n effeithio ar eich sefyllfa dreth. Byddwn ni’n eich tywys chi trwy’r cyfan.