Skip to main content

Magu’ch hyder o ran treth i fusnesau bach

 

Gallai fod yn adeg gyffrous pan fo gennych chi fusnes eich hun i’w redeg a’ch bod chi’n hunangyflogedig hefyd. Gallech chi hefyd deimlo fel bo gennych chi dipyn i’w ddysgu am dreth.

Dyna pam rydyn ni wedi creu’r ymgyrch ‘Magu’ch hyder o ran treth’ – bydd y cyfan yn eich helpu chi i ddeall sut mae popeth yn gweithio. Rydyn ni wedi casglu rhai canllawiau clir a syml ynghyd, sy’n edrych ar bopeth fesul tipyn, heb ddefnyddio unrhyw jargon.

P’un a ydych chi newydd ddechrau arni, neu wedi bod yn rhedeg eich busnes ers tro, fe fyddwch chi’n dod o hyd i beth sydd ei angen arnoch chi.

Beth byddwn ni’n ei drafod yma

Mathau cyffredin o dreth busnesau bach

Cyfle i ddarganfod y prif fathau o dreth byddwch chi’n debygol o’u gweld, dysgu am sut mae’r trethi hyn yn gweithio, a gweld pa rai mae’n bosibl bydd angen i’ch busnes chi eu talu.

Dechrau arni

Ydych chi’n meddwl am fod yn hunangyflogedig neu am sefydlu cwmni? Byddwn ni’n trafod sut i ddechrau arni, cofrestru, a dewis strwythur ar gyfer eich busnes.

Rheoli eich busnes

Unwaith i chi gael popeth at ei gilydd ac yn barod i fynd, dysgwch am sut mae delio â’ch treth trwy gydol y flwyddyn – o gadw cofnodion da i sut mae treuliau busnes yn gweithio – er mwyn cadw ar ben eich pethau.

Y gwahanol ffyrdd rydyn ni’n casglu treth gan fusnesau bach

Dysgwch am y gwahanol ffyrdd gallai fod angen i chi eu defnyddio i dalu treth i ni. Hunanasesiad a Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, llenwi Ffurflen TAW, dod i ddeall Treth Gorfforaeth – rydyn ni’n ymdrin â phopeth yn glir, fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl.

Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar dreth – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw deall y sylfeini. Mae’r tudalennau hyn yma i’ch helpu chi i ddeall rhagor am dreth, magu’ch hyder, a llenwi unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth.

Cymerwch eich amser a dim ond darllen beth sydd angen i chi ei ddarllen. Os byddwch chi’n dal i deimlo’n ansicr ar ôl darllen yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, bydd yna ddolenni at ragor o gymorth.