Skip to main content

Cael cymorth ychwanegol

 

Os ydych chi wedi darllen ein tudalennau eraill, ond yn dal i fod angen help, rydyn ni yma i chi.

P’un a oes gennych chi gwestiwn sydyn neu fod angen mwy o gymorth trylwyr arnoch chi, mae yna sawl ffordd gallwch chi gysylltu â ni.

Gallwch chi wirio’ch sefyllfa dreth yn hawdd drwy ein ap ni

Ap CThEF yw’r ffordd symlaf o weld eich cod treth, dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol, gwirio faint o dreth sydd arnoch chi, a thalu’r dreth sydd arnoch chi.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r ap i ddiweddaru eich manylion a chadw cofnod o unrhyw beth rydych chi wedi’i anfon aton ni drwy’r post. Hefyd, gallwch chi ofyn i gynorthwyydd digidol CThEF am help os oes angen hynny arnoch chi.

Gallwch chi ddysgu rhagor am ein ap ar GOV.UK.

Lawrlwytho ef yma:

Sut i gysylltu â ni

Mae gennym ni sgwrs dros y we a Gwasanaeth Text Relay UK allwch chi anfon neges atyn nhw bryd bynnag bydd angen cymorth arnoch chi. Gallwch chi ddysgu rhagor am y rhain ar GOV.UK.

A gallwch chi gysylltu â ni drwy eich cyfrif ar-lein hefyd. Os nad oes gennych chi gyfrif ar hyn o bryd, gallwch chi greu un ar GOV.UK yn hawdd ac am ddim.

Gallwch chi hefyd gysylltu â ni gan ddefnyddio ein llinellau cymorth rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Dewch o hyd i’r rhif ffôn sydd fwyaf addas i ddiwallu eich anghenion chi ar GOV.UK.

Mae cymorth ychwanegol ar gael os oes ei angen ef arnoch chi

Rydyn ni’n gwybod gall bywyd gyflwyno heriau annisgwyl i chi, a phan fyddwch chi’n wynebu anawsterau bydd y dasg o gadw trefn ar eich treth cymaint yn anoddach.

Dyna pam mae gennym ni dîm cymorth ychwanegol wrth law i roi rhagor o amser i chi os oes angen hynny arnoch chi. Bydd y tîm hefyd yn gallu’ch helpu chi i lenwi ffurflenni neu drefnu sgwrs â chi mewn ffordd sydd orau gennych chi.

Efallai bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych chi’n niwroamrywiol
  • rydych chi’n anabl
  • mae gennych chi broblemau iechyd meddwl
  • rydych chi newydd golli rhywun agos atoch chi

Gallwch chi gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi ar GOV.UK.

Weithiau, bydd angen i ni wirio eich sefyllfa dreth – rhywbeth rydyn ni’n ei alw’n ‘wiriad cydymffurfio’. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi gyda’r broses hon, gallwch chi weld popeth sydd ei angen arnoch chi ar GOV.UK.

Gall rhywun arall gysylltu â ni ar eich rhan

Gall treth deimlo’n ddryslyd, felly rydyn ni’n deall weithiau bydd angen help arnoch chi gan rywun arall. Os hoffech chi wneud hyn, bydd angen i chi roi eich caniatâd i ni fel bod eich ffrind, aelod o’r teulu, asiant treth neu gyfrifydd yn gallu cysylltu â ni ar eich rhan.

Efallai bydd hyn hefyd yn berthnasol os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf, a bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi gan gyfieithydd/cyfieithydd ar y pryd.

Peth pwysig i’w gofio:

Os hoffech fod rhywun arall yn delio â ni ar eich rhan, bydd angen i chi roi eich caniatâd yn gyntaf.