Skip to main content

Sylfeini treth

 

 

Treth wedi mynd yn drech? Peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i helpu i newid hynny.

Yn adran hon o’n hymgyrch ‘Magu’ch hyder o ran treth’, rydyn ni’n troi yn ôl at y sylfeini ac yn dweud wrthoch chi bopeth sydd angen i chi ei wybod. Fyddwn ni ddim yn barnu, fyddwn ni ddim yn defnyddio jargon.

Beth byddwn ni’n ei drafod

Cyflwyniad i dreth

Nid oes cwestiwn twp yn bodoli. Rydyn ni’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin – er enghraifft, beth yw treth? Pwy yw CThEF? Beth yw Yswiriant Gwladol? A beth yw Lwfans Personol? Hefyd, byddwn ni’n edrych ar y mathau o drethi mwyaf cyffredin.