Skip to main content

Agosáu at ymddeol

 

 

Mae ymddeol yn achlysur trawsnewidiol.

Un peth efallai byddwch chi’n gweld yn wahanol yw bod y ffordd cewch chi eich arian a’i reoli yn newid. Yn lle cael arian yn rheolaidd drwy’r gwaith, efallai cewch chi arian o sawl ffynhonnell wahanol – gan gynnwys pensiynau, cynilion ac o bosibl ffynonellau eraill hefyd.

 Y newyddion da – unwaith eich bod chi’n deall sut mae pethau’n gweithio, bydd edrych ar ôl eich arian yn syml.

Mae arian yn gweithio yn ôl yr arfer ar ôl i chi ymddeol

Yn y bôn, byddwch chi’n adio’r holl arian byddwch chi’n ei gael bob blwyddyn (hynny yw, eich incwm) o bethau fel eich Pensiwn y Wladwriaeth, unrhyw bensiynau gweithle neu bensiynau preifat, buddsoddiadau, eiddo rhent a hunangyflogaeth.

Byddwch chi’n defnyddio hyn i weithio mas a oes arnoch chi unrhyw dreth. I rai pobl, bydd rhan o’u hincwm yn rhydd o dreth. Caiff y swm hwn ei alw’n Lwfans Personol.

Ar hyn o bryd, £12,570 y flwyddyn yw’r Lwfans Personol rhydd o dreth arferol.

Os cewch chi Lwfans Personol a bod eich incwm yn mynd dros y swm hwnnw, byddwch chi’n dechrau talu treth arno ef. Mae’r cyfraddau byddwch chi’n eu talu wedi’u gwahanu i ‘drothwyon’ (‘thresholds’). Terfyn ariannol yw ‘trothwy’.

Cyfraddau Treth Incwm

Eich incwmEich cyfradd Treth Incwm
Hyd at £12,5700% (Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth)
Rhwng £12,571 a £50,07020%
Rhwng £50,071 a £125,14040%
Dros £125,14045%

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae’r cyfraddau ychydig yn wahanol. Gallwch chi ddysgu am gyfraddau’r Alban o Dreth Incwm ar GOV.SCOT.

Awgrym defnyddiol:

Dim ond swm yr arian sy’n uwch na phob trothwy yn unigol, ac nid cyfanswm eich incwm, fydd yn cael ei drethu ar y gyfradd uwch.

Dyma enghraifft:

Mae Jenny yn cael £53,000 o’i Phensiwn y Wladwriaeth a phensiwn preifat.

 £12,570 yw ei Lwfans Personol. Mae hyn yn rhydd o dreth.

 Bydd faint bynnag o’i hincwm sydd rhwng £12,571 a £50,070 yn cael ei drethu ar 20%. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n talu £7,500 o Dreth Incwm ar y rhan honno o’i hincwm.

 Bydd faint bynnag o’i hincwm sydd rhwng £50,071 a £53,000 yn cael ei drethu ar 40%. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n talu £1,171.60 o Dreth Incwm ar y rhan honno o’i hincwm.

At ei gilydd, felly, fydd Jenny yn talu £8,671.60 o Dreth Incwm.

Edrych ar y broses o weithio mas Treth Incwm ar gyfer incwm blynyddol o £53,000 fesul cam, gan ddangos £12,570 yn rhydd o dreth, incwm sydd wedi’i drethu ar gyfradd o 20% a 40%, yn ogystal â chyfanswm bil Treth Incwm o £8,671.60.

Sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio

Unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Dyma daliad rheolaidd oddi wrth y llywodraeth. Rhwng mis Ebrill 2026 a mis Mawrth 2028, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu o 66 blwydd oed i 67 mlwydd oed. Gallwch chi wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn hawdd ar ap CThEF neu gan ddefnyddio ein cyfrifiannell rhad ac am ddim ar GOV.UK.

Ar gyfer 2026 i 2027, £241.30 yr wythnos yw cyfradd lawn Pensiwn y Wladwriaeth newydd – dyna £12,547.60 y flwyddyn. Fel arfer, mae Pensiwn y Wladwriaeth yn codi ychydig bob mis Ebrill, ar ddechrau’r flwyddyn dreth newydd. Mae hyn o ganlyniad i’r Clo Triphlyg (‘Triple Lock’).

Peth pwysig i’w gofio:

Nid yw pawb yn cael cyfradd lawn Pensiwn y Wladwriaeth newydd. Mae’r swm gwirioneddol gewch chi ar sail pryd byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. I ddysgu faint o Bensiwn y Wladwriaeth gallech chi ei gael, gallwch chi wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Fel arfer, bydd angen 10 mlynedd gymhwysol ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth newydd.

Os oes gennych chi fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, efallai bydd modd i chi lenwi’r rhain drwy rywbeth o’r enw ‘credydau Yswiriant Gwladol’. Dysgwch am bopeth sydd angen i chi ei wybod ar GOV.UK.

Awgrym defnyddiol:

Os allwch chi ddim llenwi’r bylchau hyn â chredydau, efallai bydd modd i chi lenwi’r rhai sy’n dod o fewn y 6 blwyddyn dreth lawn ddiwethaf drwy dalu rhywbeth o’r enw ‘cyfraniadau gwirfoddol’.

Sut byddwn ni’n trethu eich Pensiwn y Wladwriaeth?

Dyma enghraifft:

Mae gan Sid £12,570 o Lwfans Personol y flwyddyn – mae’r cyfan yn rhydd o dreth.

Mae ef wedi ymddeol ac yn cael £14,000 o’i Bensiwn y Wladwriaeth a phensiwn preifat. Dyma yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno.

Bydd Sid yn talu treth ar y gwahaniaeth rhwng cyfanswm ei incwm (£14,000) a’i Lwfans Personol (£12,570).

Felly, bydd ef yn talu treth ar £1,430 ar y gyfradd sylfaenol o 20%, sef £286 y flwyddyn.

Pensiynau gweithle a phensiynau preifat

Mae’n bosibl bod gan lawer o bobl bensiynau gweithle a phensiynau preifat. Mae yna dri phrif fath o bensiwn. Enwau’r rhain yw cynllun Cyfraniadau Diffiniedig, Buddiannau Diffiniedig a Chyfraniadau Diffiniedig ar y cyd.

Cyfraniadau Diffiniedig

Yn y bôn, rhywle i chi gael cynilo arian yw’r pensiynau hyn. Byddwch chi a’ch cyflogwr wedi talu arian i’r pot hwn ar hyd y blynyddoedd. Pan fyddwch chi eisiau tynnu arian, mae yna sawl ffordd i wneud hyn yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn. Gallwch chi wneud y canlynol:

  • dewis cael cyfandaliad (‘lump sum’)
  • tynnu symiau rheolaidd (enw arall am hyn yw ‘drawdown’)
  • defnyddio rhan o’ch pot o gynilion, neu’r cyfan ohono, i brynu rhywbeth o’r enw ‘blwydd-dal’ (‘annuity’). Mae hyn yn ymddwyn fel salari sydd wedi’i gwarantu, fel eich bod chi’n cael taliadau rheolaidd a sefydlog am gyfnod o amser byddwch chi wedi’i ddewis
  • prynu ‘pensiwn cynllun’, sef incwm misol rheolaidd

Buddiannau Diffiniedig

Enw arall ar y pensiynau hyn weithiau yw ‘cynlluniau salari terfynol’. Yn achos y mathau hyn o bensiynau, cewch chi incwm rheolaidd a sefydlog am weddill eich oes. Mae’r swm a gewch chi yn dibynnu ar eich salari, yn ogystal â nifer y blynyddoedd rydych chi wedi’u gweithio.

Cyfraniadau Diffiniedig ar y cyd

Dyma fath o bensiwn sy’n fwy diweddar. Mae’n dipyn bach o gymysgedd o’r ddau fath arall uchod.

Yn union fel byddwch chi’n ei wneud â phensiwn Cyfraniadau Diffiniedig, byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu i bot sydd wedi’i rannu â phobl eraill. Caiff arian gan bobl eraill ei gasglu gyda’ch arian chi. Wedyn, yn union fel sy’n digwydd gyda phensiwn Buddiannau Diffiniedig, cewch chi incwm rheolaidd am weddill eich oes pan fyddwch chi’n barod i’w gymryd ef. Wedi dweud hyn, nid yw’r swm a gewch chi fel incwm wedi’i warantu.

Cymryd rhywfaint o’ch pensiwn yn rhydd o dreth

Ar hyn o bryd, gallwch chi ddechrau cael arian o bensiwn Cyfraniadau Diffiniedig, Cyfraniadau Diffiniedig ar y Cyd, neu Fuddiannau Diffiniedig, ar ôl i chi droi’n 55 mlwydd oed (bydd hyn yn codi i 57 mlwydd oed o fis Ebrill 2028).

Fel arfer, gallwch chi gymryd hyd at 25% o’ch pot pensiwn fel cyfandaliad sy’n rhydd o dreth – hyd at uchafswm o £268,275 i’r rhan fwyaf o bobl.

Peth pwysig i’w gofio:

Pan fyddwch chi’n dechrau cymryd arian o’r 75% sy’n weddill o’ch pot pensiwn, rydyn ni’n ystyried hwn yn incwm trethadwy. Felly, cofiwch chi, os byddwch chi’n cymryd rhan fawr o’ch pot pensiwn i gyd ar unwaith, a bod gennych chi incwm o ffynonellau eraill ar ben hynny, efallai byddwch chi’n talu cyfradd uwch o dreth yn y pen draw. Mae hyn yn ymwneud â phensiynau lle gallwch chi gymryd taliadau o’r gronfa (drawdown payments).

Dyma enghraifft:

Mae gan Jack pot pensiwn o £40,000.

Gallwch chi gymryd £10,000 yn rhydd o dreth.

Wedyn, os bydd ef yn cymryd £5,000 yn ychwanegol, caiff hyn ei ystyried yn incwm trethadwy.

Caiff ei adio at unrhyw incwm arall mae Jack yn ei gael i weithio mas a oes arno ef unrhyw dreth – yn ogystal â faint sydd arno ef.

Siart dônut yn dangos bod 25% o bot pensiwn gwerth £40,000 yn gallu ei dynnu o’r pot yn rhydd o dreth, a bod beth sy’n weddill yn cael ei drethu, pe bai rhywun yn tynnu’r arian dros ben o’r pot.

Eich cod treth a’ch pensiynau

Eich cod treth yw’r casgliad bach o rifau a llythrennau sy’n dangos faint o lwfans rhydd o dreth a gewch chi.

Gallai edrych yn debyg i hyn: 1257L, S330L, K150.

Mae’r rhifau wedi’u creu drwy rannu eich lwfans rhydd o dreth â 10, felly byddai 1257L yn golygu bod gennych chi lwfans rhydd o dreth o £12,570 y flwyddyn.

Mae’r llythrennau yn cynrychioli statws treth rydyn ni’n ei roi i chi. Ystyr ‘L’ yw bod gennych chi’r ‘lwfans arferol’. Ystyr ‘BR’ yw bod yna ddim lwfans gennych chi a byddwch chi’n talu ar y ‘cyfradd sylfaenol’. Ystyr ‘K’ yw bod arnoch chi dreth, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am godau treth a sut maen nhw’n gweithio ar eich tudalen ‘Dod i ddeall eich cod treth’.

Mae’ch cod treth yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi’n ymddeol, oherwydd bryd hynny efallai bydd eich incwm yn dod o sawl ffynhonnell wahanol. Mae’r cod yn rhoi gwybod i ddarparwr eich pensiwn faint o dreth i’w thynnu oddi wrth eich pensiwn cyn anfon taliad atoch chi.

Os bydd taliadau o’ch pensiwn yn mynd i fyny neu i lawr yn sydyn, bydd hyn gan amlaf yn arwydd bod eich cod treth wedi newid. Efallai bydd eich cod treth yn newid os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych chi’n cymryd cyfandaliad o’ch pensiwn
  • rydych chi’n cymryd arian yn rheolaidd o bensiwn
  • rydych chi’n dechrau cymryd arian o bensiwn newydd
  • rydych chi’n dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae’ch Pensiwn y Wladwriaeth wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn dreth newydd
  • mae’ch incwm yn newid
  • rydyn ni’n newid tandaliadau (‘underpayments’) a gordaliadau (‘overpayments’) blaenorol
  • rydych chi’n symud dramor

Awgrym defnyddiol:

Os yw eich cod treth yn anghywir, efallai byddwch chi’n talu gormod o dreth neu ddim digon o dreth. Mae’n werth edrych dros eich cod treth a’ch slipiau cyflog ar gyfer eich pensiwn yn rheolaidd i wirio bod popeth yn iawn.

Fyddwch chi’n parhau i dalu Yswiriant Gwladol?

Yn syml, fyddwch chi ddim.

Unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fyddwch chi ddim yn talu Yswiriant Gwladol rhagor – hyd yn oed os byddwch chi’n parhau i weithio. Dyna fwy o arian i chi.

Os ydych chi’n dal i fod yn gweithio, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos tystiolaeth o’ch oedran i’ch cyflogwr a byddan nhw’n rhoi’r gorau i dynnu Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflog. Wedi dweud hyn, fe fyddwch chi’n dal i dalu Treth Incwm.

Gall credyd pensiwn ychwanegu at incwm isel

Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych chi incwm isel, gall Credyd Pensiwn eich helpu chi. Er enghraifft, byddai Credyd Sicr (‘Guarantee Credit’) yn ychwanegu at eich incwm wythnosol fel ei fod yn £238.00 o leiaf os ydych chi’n sengl, neu £363.25 os ydych chi’n gwpwl.

Awgrym defnyddiol:

Os cewch chi Gredyd Pensiwn, mae cymorth arall ar gael i chi. Er enghraifft, help gyda chostau tŷ a Threth Gyngor, triniaethau deintyddol am ddim drwy’r GIG, a thrwydded deledu am ddim os ydych chi’n 75 mlwydd oed neu’n hŷn.

Gallwch chi hawlio hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich tŷ neu os oes gennych chi gynilion. Oes gennych chi fwy na £10,000 o gynilion? Bydd hyn yn effeithio ar faint o help a gewch chi, ond gallwch chi ddal i gyflwyno hawliad. Dysgwch sut mae hawlio Credyd Pensiwn ar GOV.UK.

3 ffordd byddwn ni’n casglu treth ar ôl i chi ymddeol

1. Talu Wrth Ennill (TWE)

Byddwn ni fel arfer yn defnyddio’r system hon i dynnu unrhyw dreth sydd arnoch chi oddi wrth eich pensiynau gweithle a phensiynau preifat. Bydd darparwr eich pensiwn yn tynnu’r dreth cyn anfon taliad atoch chi. Dyma fydd yn digwydd i’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi ymddeol.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae’ch Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol – cewch chi eich talu heb i unrhyw dreth gael ei thynnu. Mae hynny’n golygu byddwn ni’n tynnu unrhyw dreth sydd arnoch chi o’ch Pensiwn y Wladwriaeth drwy ei thynnu hi oddi wrth eich pensiynau eraill yn lle.

2. Hunanasesiad

Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os oes gennych chi incwm arall allwn ni ddim â’i drethu’n awtomatig. Gallai’r arian hwn ddod o’r canlynol:

  • rhentu eiddo
  • hunangyflogaeth
  • llog uchel ar gynilion neu fuddsoddiadau

Os nad ydych chi wedi cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r blaen, peidiwch â phoeni. Dewch chi’n gyfarwydd â’r cyfan ymhen dim. Gall ein tudalen ‘Hunanasesiad’ eich helpu chi i ddechrau arni.

3. Asesiad Syml

Rydyn ni’n defnyddio Asesiad Syml ar ôl i chi ymddeol pan fydd angen i ni gasglu treth oddi wrthoch chi, ond nid oes pensiwn na swydd gennych chi ac felly nid oes modd i ni gasglu’r dreth yn awtomatig.

Rydyn ni’n defnyddio hyn ar gyfer pobl â sefyllfa dreth syml. Hynny yw, nid oes angen iddyn nhw gyflwyno Hunanasesiad llawn. Yn y bôn, byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi i roi gwybod i chi am y canlynol:

  • eich incwm
  • unrhyw dreth sydd arnoch chi
  • sut i’w thalu

Peth pwysig i’w gofio:

Rydyn ni’n deall yn llwyr bod rhai pobl efallai yn poeni ar ôl cael llythyr oddi wrthon ni. Ond peidiwch â phoeni, mae’r cyfan yn broses hollol normal ac nid ydych chi wedi gwneud dim yn anghywir. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen Asesiad Syml.

Sut i weithio mas eich incwm ar ôl i chi ymddeol

Dechreuwch drwy weithio mas faint o Bensiwn y Wladwriaeth newydd byddwch chi’n ei gael. Fel rydyn ni eisoes wedi sôn, mae’ch cofnod Yswiriant Gwladol yn bwysig i’r cam hwn. Mae’n hawdd ac yn gyflym i chi wirio eich cofnod chi ar ap CThEF neu gan ddefnyddio ein cyfrifiannell rhad ac am ddim ar GOV.UK. Gallwch chi hefyd weld a allwch chi lenwi unrhyw fylchau i helpu gyda rhoi hwb i’ch Pensiwn y Wladwriaeth newydd.

Nesaf, dysgwch am unrhyw bensiynau gweithle neu bensiynau preifat sydd gennych chi. Gall darparwyr eich pensiynau roi datganiadau i chi yn dangos faint o arian byddwch chi’n debygol o’i gael.

Mae yna dipyn o gymorth ychwanegol ar gael hefyd. Gall cyfrifiannell bensiynau am ddim y MoneyHelper ddangos i chi sut mae popeth yn cysylltu â’i gilydd. Hefyd, os ydych chi dros 50 mlwydd oed a bod gennych chi bensiwn Cyfraniadau Diffiniedig, gallwch chi gael arweiniad am ddim gan wasanaeth ‘Pension Wise’ y llywodraeth.

Mae’n syniad da dod i ddeall o ble bydd eich arian yn dod ar ôl i chi ymddeol. Bydd gwneud hynny yn eich helpu chi gyda rheoli eich arian a gwneud penderfyniadau am eich dyfodol yn hyderus.