Skip to main content

Dod i ddeall eich cod treth

 

Mae eich cod treth yn gymysgedd o rifau a llythrennau. Mae’n dweud wrth eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn faint o dreth i’w dynnu oddi wrth yr arian rydych chi wedi’i ennill cyn talu’ch cyflog neu bensiwn i chi.

Mae eich cod treth ar eich slip cyflog

Os ydych chi’n gweithio i gyflogwr, byddwch chi’n cael slip cyflog bob tro cewch chi eich talu. Dogfen bapur neu ddogfen ddigidol yw hon sy’n rhoi’r holl wybodaeth am eich cyflog sydd ei hangen arnoch chi.

Mae’n dangos i chi:

  • faint o arian rydych chi wedi’i ennill drwy weithio
  • faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol sydd wedi’i dynnu
  • unrhyw gyfraniadau pensiwn

Os ydych chi’n cael pensiwn, byddwch chi’n dod o hyd i’ch cod treth ar eich P60. Datganiad yw hwn bydd darparwr eich pensiwn yn ei anfon atoch chi bob blwyddyn rhwng mis Ebrill a mis Mai. Os bydd eich cod treth yn newid, bydd y darparwr hefyd yn anfon slip cyflog atoch chi sy’n dangos eich cod newydd.

Mae’n gyflym ac yn hawdd gwirio’ch cod treth unrhyw bryd ar ap CThEF. Gallwch chi gael gwybod sut i’w lawrlwytho ar GOV.UK.

Sut mae eich cod treth yn gweithio

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael ennill swm penodol o incwm bob blwyddyn cyn iddyn nhw ddechrau talu unrhyw dreth o gwbl. Eich Lwfans Personol yw’r enw ar y swm hwn sy’n rhydd o dreth. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen ‘Beth yw Lwfans Personol rhydd o dreth?’.

Os yw cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn yn fwy na’ch Lwfans Personol, byddwch chi’n talu treth arno ef.

Mae eich cod treth yn dweud wrth eich cyflogwr faint o incwm yn union gallwch chi ei ennill cyn i chi orfod dechrau talu treth.

Er enghraifft, yn y cod treth mwyaf cyffredin, 1257L, mae’r rhif 1257 yn dweud wrth eich cyflogwr gallwch chi ennill £12,570 mewn blwyddyn dreth cyn i chi ddechrau talu treth.

Felly, os ydych chi’n cael eich talu bob mis, gallwch chi ennill hyd at £1,047 y mis cyn i chi ddechrau talu treth.

Mae’r llythyren ar y diwedd yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i’ch cyflogwr am eich amgylchiadau. Mae ‘L’ yn golygu eich bod chi’n cael y Lwfans Personol rhydd o dreth arferol. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y llythrennau gwahanol ar GOV.UK.

Rydyn ni’n gweithio allan eich cod treth

CThEF (Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi) ydyn ni, sef y rhan o’r llywodraeth sy’n delio â threthi. Rydyn ni’n mynd ati, y tu ôl i’r llenni, i weithio allan beth ddylai’ch cod treth fod yn awtomatig. Os ydych chi’n gyflogedig, rydyn ni wedyn yn ei anfon at eich cyflogwr.

Fel arfer, nid oes angen i chi wneud dim, ond dylech chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid – er enghraifft os byddwch chi’n dechrau gweithio i chi’ch hun, yn symud tŷ, neu’n priodi.

Mae eich cyflogwr yn defnyddio’ch cod treth i dynnu beth sydd arnoch chi oddi wrth eich cyflog cyn i chi gael eich talu. Mae wedi’i gynllunio i wneud eich bywyd yn syml.

Peth pwysig i’w gofio:

Weithiau, mae newidiadau i’ch bywyd yn golygu bod angen newid eich cod treth hefyd. Er enghraifft, os byddwch chi’n cael codiad cyflog, yn dechrau ail swydd, neu’n ennill arian o rywle arall.

Os oes angen i’ch cod treth newid, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi. Byddwn ni hefyd yn anfon eich cod newydd at eich cyflogwr ac unrhyw ddarparwyr pensiwn (os oes gennych chi’r rhain).

Cod treth cywir, treth gywir

Os yw eich cod treth yn gywir, mae’n golygu eich bod chi’n talu’r swm cywir o Dreth Incwm.

Os yw eich cod treth yn anghywir, gall dau beth ddigwydd:

  • efallai y byddwch chi’n talu gormod o dreth ac felly’n cael llai o gyflog nag y dylech chi ei gael
  • efallai na fyddwch chi’n talu digon o dreth ac yn gorfod talu’r gweddill i ni yn nes ymlaen

Awgrym defnyddiol:

Mae gwirio’ch cod treth o bryd i’w gilydd yn helpu gwneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir.

Pan gewch chi eich slip cyflog cyntaf, mae’n syniad da i chi wneud y canlynol:

Rhoi gwybod i ni os ydych chi’n meddwl ei fod ef yn anghywir

Os ydych chi’n meddwl bod eich cod treth yn anghywir, peidiwch â phoeni. Rydyn ni yma i helpu, a gallwn ni ei wirio ef a’i gywiro, os oes angen. Gallwch chi ddysgu sut i roi gwybod i ni ar GOV.UK.