Pan fyddwch chi’n gyflogedig, fe allwn ni gasglu’ch treth yn awtomatig gan eich cyflogwr. Ond mae’r drefn yn wahanol pan fyddwch chi’n rhedeg eich busnes eich hun neu’n gweithio i chi’ch hun.
Rydyn ni’n defnyddio sawl prif ffordd o gasglu treth gan eich busnes. P’un a ydych chi’n dechrau arni am y tro cyntaf, neu os hoffech chi ailwirio beth sydd angen i chi ei wneud, rydyn ni yma i’ch tywys chi gam wrth gam.
Dyma’r tudalennau y byddwch chi’n eu gweld yma
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Sut mae’r ffordd rydych chi’n llenwi Ffurflen Dreth eich busnes yn newid.
Hunanasesiad os ydych chi’n hunangyflogedig
Sut byddwch chi’n talu Treth Incwm os oes gennych chi incwm sydd heb ei drethu, ac nid ydych chi’n defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Llenwi Ffurflen Dreth eich Cwmni
Sut bydd eich busnes yn talu Treth Gorfforaeth os byddwch chi’n rhedeg cwmni cyfyngedig.
Sut i lenwi Ffurflen TAW
Sut i dalu TAW os byddwch chi’n ennill mwy na swm penodol.