Treth Ar Werth (TAW) yw math o dreth sy’n cael ei hychwanegu at rai o’r pethau byddwn ni’n eu prynu.
Pan fyddwch chi’n gwsmer, fel arfer caiff ei hychwanegu at y pris rydych chi’n ei weld a’i dalu yn awtomatig. Ond pan fyddwch chi’n berchennog busnes, efallai bydd angen i chi feddwl am hyn wrth brynu a gwerthu cynnyrch (a gaiff ei alw’n ‘nwyddau’) a gwasanaethau fel rhan o’ch busnes.
Yma, byddwn ni’n esbonio pethau fel pryd bydd angen i chi ddechrau ychwanegu TAW, ac a fydd angen i chi lenwi Ffurflen TAW.
Sut a phryd i ychwanegu TAW
‘Trosiant’ yw’r enw ar yr arian mae’ch busnes yn ei ennill cyn i chi dynnu unrhyw dreuliau neu dreth.
Peth pwysig i’w gofio:
Dim ond pan fyddwch chi’n ennill mwy na £90,000 o drosiant yn ystod cyfnod o 12 mis y bydd angen i chi ddechrau ychwanegu TAW – a llenwi Ffurflen TAW.
Sut i gofrestru ar gyfer TAW
Cam 1: Bydd angen i chi gofrestru eich busnes gyda ni ar gyfer TAW ar GOV.UK. Wedyn, byddwn ni’n anfon rhif cofrestru TAW atoch chi (neu efallai gwelwch chi’r acronym ‘VRN’)
Cam 2: Unwaith i chi gael eich VRN, bydd angen i chi ddechrau ychwanegu at TAW ar ben pris unrhyw nwyddau neu wasanaethau rydych chi’n eu gwerthu. Y gyfradd arferol ar gyfer TAW ar hyn o bryd yw 20%.* Felly, bydd angen i chi ychwanegu 20% ar ben y pris byddwch chi’n ei godi
Cam 3: Cadwch yr 20% rydych chi’n ei chodi ar ben y pris, oherwydd bydd angen i chi dalu hyn i ni pan fyddwch chi’n llenwi’ch Ffurflen TAW
*Mae gan rai nwyddau a gwasanaethau gyfraddau TAW gwahanol. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.
Dyma enghraifft:
Roedd George yn codi £100 ar gwsmeriaid am waith plymio.
Mae ef wedi dechrau ennill trosiant o £90,000 mewn blwyddyn.
Nawr, mae angen iddo ef godi £100 ar gwsmeriaid, yn ogystal ag ychwanegu 20% o TAW, sef cyfanswm o £120.
Awgrym defnyddiol:
Mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW o fewn 30 diwrnod i gyrraedd trosiant o £90,000. Felly, os yw’n debygol y byddwch yn ennill mwy na hyn yn ystod y 30 diwrnod nesaf, fe ddylech chi gofrestru nawr.
Allwch chi ddim cynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod chi’n cael eich rhif TAW. Ond, gallwch chi gynyddu’ch prisiau i baratoi ar gyfer y TAW y bydd angen i chi ei thalu.
Ystyr ‘cofrestru ar gyfer TAW’
Unwaith eich bod chi wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi roi gwybod i ni faint o TAW rydych chi wedi codi ar eich cwsmeriaid. Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i ni faint o TAW rydych chi wedi’i thalu wrth brynu pethau ar gyfer eich busnes.
Peth pwysig i’w gofio:
Byddwch chi’n gwneud hyn drwy lenwi Ffurflen TAW, a’i hanfon hi aton ni. Fel arfer, bydd angen i chi lenwi un a’i hanfon bob 3 mis.
Gallai’r cyfan swnio’n anodd, ond mewn gwirionedd dim ond rhestr o beth rydych chi wedi’i werthu a’i brynu yw’r cyfan.
Beth yw Ffurflen TAW?
P’un a ydych chi’n unig fasnachwr neu’n berchen ar gwmni cyfyngedig ac yn dal i dalu Treth Incwm, byddwch chi’n fwy na thebyg yn gyfarwydd â llenwi Ffurflen Dreth i roi gwybod i ni am eich incwm bob blwyddyn.
Mae Ffurflen TAW yn fath benodol o Ffurflen Dreth, a bydd angen i chi ei llenwi hefyd os yw eich busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n ein helpu ni i weithio allan p’un a ydych chi wedi talu gormod o dreth neu ddim digon o dreth.
Ar eich Ffurflen TAW, bydd angen i chi roi gwybod i ni faint o TAW sydd arnoch chi. Hynny yw’r TAW ar gyfanswm unrhyw beth rydych chi wedi’i werthu. Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed pan fydd cwsmer yn eich talu chi drwy roi rhywbeth arall yn lle arian. ‘Rhan-gyfnewid’ yw’r gair am hyn.
Dyma enghraifft:
Mae John yn fecanydd. Mae Syed yn drydanwr.
Gwnaeth John drwsio fan Syed. Fel arfer, byddai’n costio £200, gyda £40 o TAW ar ben hynny – felly, cyfanswm o £240.
Mae Syed yn talu £140 i John. Mae’n talu am weddill ei fil (sef £100) drwy sortio rhywfaint o waith ail-weirio yng ngarej John.
Mae angen i John gofnodi’r swm cyfan y TAW, sef £40, ar ei Ffurflen TAW.

Peth pwysig i’w gofio:
Gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar bethau byddwch chi’n eu prynu ar gyfer eich busnes (‘treuliau’ yw enw arall am hyn). Felly, os ydych chi wedi talu mwy o TAW ar eich treuliau busnes na’r TAW gwnaethoch chi ei chodi ar eich cwsmeriaid, fe fyddwn ni’n ad-dalu’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm hyn i chi.
Dyma enghraifft i chi:
Dwedwn ni eich bod chi wedi codi £15,000 o TAW ar eich cwsmeriaid.
Ond, fe wnaethoch chi wario £18,000 o TAW ar dreuliau busnes.
Oherwydd eich bod chi wedi gwario mwy o TAW na’r TAW gwnaethoch chi ei chodi, byddwn ni’n talu £3,000 o TAW yn ôl i chi.
Pan fyddwch chi’n llenwi’ch Ffurflen TAW, bydd angen i chi fod ag ambell ffigur wrth law:
- cyfanswm y ffigur ar gyfer popeth mae’ch busnes wedi’i werthu
- cyfanswm y ffigur ar gyfer popeth mae’ch busnes wedi’i brynu
- faint o TAW rydych chi wedi codi ar gwsmeriaid
- faint o TAW rydych chi wedi’i thalu ar bethau a brynoch chi ar gyfer eich busnes
- y cyfanswm cyffredinol sy’n dangos a oes arnoch chi unrhyw arian i ni, neu a oes arnon ni arian i chi
Anfon eich Ffurflen TAW aton ni ar-lein
Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnes yn cadw cofnodion ac yn anfon Ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’n gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW. Gallwch chi ddysgu rhagor am Droi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW ar GOV.UK.
Mae’r rhan fwyaf o gyfnodau TAW yn chwarterol, sy’n golygu bydd angen i chi lenwi Ffurflen TAW unwaith bob 3 mis.
Bydd angen i chi anfon eich Ffurflen TAW aton ni, a thalu unrhyw dreth sydd arnoch chi, erbyn 1 mis a 7 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod TAW – a dim hwyrach na hynny. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, efallai y byddwn ni’n codi cosb arnoch chi.
Felly, os byddai’ch cyfnod TAW yn gorffen ar 31 Mawrth, 7 Mai fyddai’r dyddiad cau, neu cyn y dyddiad hwn.
Gall cyfrifydd neu asiant eich helpu chi
Nid oes rhaid i chi wneud popeth ar eich pen eich hun. Mae sawl un ymhlith perchnogion busnesau bach sy’n defnyddio cyfrifydd neu asiant treth i reoli eu TAW. Gallan nhw weithio allan ac anfon Ffurflenni TAW ar eich rhan. Hefyd, gallan nhw eich helpu chi i hawlio unrhyw TAW yn ôl sy’n ddyledus i chi. Drwy ofyn am gymorth gan arbenigwr, gallwch chi deimlo’n dawelach eich meddwl. Ond, dylech chi wirio’ch Ffurflenni Treth eich hun bob tro. Yn y pen draw, chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod popeth yn gywir.
Gall methu dyddiadau cau fod yn gostus i chi
Un o fanteision defnyddio cyfrifydd neu asiant treth yw bodloni dyddiadau cau.
Rydyn ni’n defnyddio system pwyntiau ar gyfer unrhyw Ffurflenni TAW a ddaw aton ni’n hwyr. Bydd pob Ffurflen TAW hwyr yn ychwanegu pwynt at eich cyfrif. Pan fyddwch chi’n cyrraedd terfyn eich pwyntiau, fe gewch chi gosb o £200.
Gallwch chi ddysgu rhagor am y cosbau byddwn ni’n eu codi am anfon Ffurflen TAW aton ni yn hwyr ar GOV.UK.
Mae pethau’n wahanol wrth ddelio â thaliadau hwyr.
Nid yw’r gosb byddwch chi’n ei thalu am dalu’n hwyr yn swm sefydlog. Yn lle hynny, mae’n dibynnu ar faint o TAW sydd arnoch chi a pha mor hwyr yw’r taliad. Mae hefyd yn bwysig i chi gofio bydd arnoch chi log i ni ar unrhyw daliadau hwyr.
Peth pwysig i’w gofio:
Os byddwch chi’n talu fwy na 15 diwrnod yn hwyr, cewch chi gosb o tua 3% o’r TAW sydd arnoch chi. Ar ôl 30 diwrnod, bydd y ganran hon yn cynyddu a bydd llog yn cronni’n ddyddiol.
Gallwch chi ddysgu rhagor am ein cosbau am dalu’n hwyr ar GOV.UK.
Delio â’ch Ffurflenni TAW yn ddiffwdan
Y ffordd orau o gadw ar ben eich pethau yw cadw cofnodion da. Hefyd, mae’n ddefnyddiol i chi gael nodynnau atgoffa ar gyfer y dyddiadau cau ar eich ffôn neu gyfrifiadur.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu mewn pryd, efallai fod modd i ni gytuno ar gynllun talu i rannu’r costau. Efallai bydd hyn hefyd yn eich helpu chi gyda lleihau unrhyw gosbau byddwn ni’n eu codi arnoch chi, neu osgoi cael y cosbau yn gyfan gwbl. Gallwch chi ddysgu rhagor am drefnu cynllun talu ar GOV.UK.
A chofiwch, hyd yn oed os na allwch chi dalu’r dreth sydd arnoch chi yn syth, bydd anfon eich Ffurflenni TAW mewn pryd yn gallu stopio’r pwyntiau cosb rhag cronni’n ddiangen.
Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch chi, byddwn ni’n wastad yma i’ch helpu chi.
Dylai’r wybodaeth a’r adnoddau ar y wefan hon eich helpu chi gyda magu’ch hyder o ran sylfeini treth, ond fe ddylech chi bob tro wirio’r arweiniad manwl ar GOV.UK i gael rhagor o gymorth wrth ddelio â’ch Ffurflen TAW.