Skip to main content

Llenwi Ffurflen Dreth eich Cwmni

 

Os ydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun, gallai delio â’ch trethi edrych fel un dasg arall yn ormod i ychwanegu at eich rhestr hir o bethau i’w gwneud.

Ond, os ydych chi’n gwmni cyfyngedig (‘limited company’), mae’n bwysig eich bod chi’n cadw hyn ar frig eich rhestr. Bydd angen i chi anfon rhywbeth o’r enw ‘Ffurflen Dreth y Cwmni’ aton ni bob blwyddyn.

Gallai hyn swnio’n gymhleth, ond trwy ddysgu’r sylfeini fe fyddwch chi’n helpu eich hun i ddelio â’r cyfan yn ddiffwdan.

Beth mae Ffurflen Dreth y Cwmni yn dweud wrthon ni

Yn fras, mae Ffurflen Dreth y Cwmni yn dweud wrthon ni faint o arian mae’ch busnes wedi’i wneud yn ystod blwyddyn. Wedyn, gallwn ni ddeall faint o dreth sydd ar eich busnes i ni.

CT600 yw’r ffurflen i’w llenwi, ac mae’n dangos pethau fel:

  • incwm eich cwmni
  • unrhyw dreuliau busnes rydych chi wedi talu amdanyn nhw
  • faint o elw wnaeth eich busnes

‘Elw’ yw’r incwm sy’n weddill gan eich cwmni unwaith i chi dynnu unrhyw arian wnaethoch chi ei wario ar redeg y busnes (hynny yw treuliau’r cwmni) – er enghraifft prynu offer neu ddodrefn i’r swyddfa. Gallwch chi ddysgu rhagor am beth sy’n cyfri fel treuliau busnes ar GOV.UK.

Awgrym defnyddiol: 

Weithiau, gallwch chi hefyd dynnu pethau o’r enw ‘rhyddhadau’ (‘reliefs’) a ‘lwfansau’ (‘allowances’) oddi wrth eich elw cyn talu treth. Mae’r rhain gan amlaf yn cael eu defnyddio i helpu busnesau i ddatblygu a gostwng eu bil treth. Mae sawl math gwahanol i’w gael. Gallwch chi ddysgu pa rai gallech chi eu hawlio ar GOV.UK.

Hefyd, bydd angen i chi gynnwys cyfrifon eich cwmni ac fel gwnaethoch chi weithio allan eich bil treth fel rhan o’ch Ffurflen Dreth. Mae yna bobl sy’n gallu delio â hyn ar eich rhan chi, a byddwn ni’n trafod y bobl hynny yn nes ymlaen.

Peth pwysig i’w gofio:

Hyd yn oed os nad oedd eich cwmni wedi cael unrhyw elw, neu hyd yn oed os nad oedd eich cwmni wedi gwneud unrhyw fath o fusnes, efallai bydd yn dal i fod yn rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth y Cwmni aton ni.

Bydd eich cwmni yn talu treth ar unrhyw elw

Os bydd eich cwmni yn gwneud elw, yna bydd angen iddo dalu rhywbeth o’r enw Treth Gorfforaeth.

Mae cyfradd y dreth yn dibynnu ar faint o elw mae’r cwmni wedi’i wneud.

Bydd eich cwmni yn talu treth o 19% ar elw o dan £50,000 – a 25% ar elw dros £250,000. Os yw elw eich cwmni rhwng y ddau ffigur hyn, bydd cyfradd y dreth rywle yng nghanol y ddau.

Gallwch chi weld rhestr lawn o gyfraddau Treth Gorfforaeth ar GOV.UK.

Byddwch chi’n llenwi Ffurflen Dreth eich Cwmni ar-lein

Gallwch chi lenwi’r Ffurflen Dreth eich hun gan ddefnyddio offeryn meddalwedd cyfrifyddu (mae gennym ni restr ar GOV.UK) neu drwy gael help gan gyfrifydd neu asiant treth. Edrychwn ni ar hyn yn nes ymlaen.

Awgrym defnyddiol: 

Bydd angen Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) eich cwmni wrth law. Ddim yn siŵr beth yw cyfeirnod eich cwmni chi? Dewch o hyd iddo ef drwy fewngofnodi ar GOV.UK neu drwy fewngofnodi ar ap CThEF.

Achub y blaen

Mae dechrau paratoi Ffurflen Dreth eich Cwmni ymhell cyn y dyddiad cau yn syniad da. Byddwch chi’n rhoi hen ddigon o amser i chi’ch hun gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi a gwirio bod popeth yn gywir – ac osgoi unrhyw banics munud olaf.

Gall gweithiwr proffesiynol ddelio â phethau i chi

Mae’n well gan sawl un ddefnyddio cyfrifydd neu asiant treth. Gallan nhw arbed amser i chi, lleihau’r ffws, a’ch helpu chi i wneud yn siŵr bod popeth yn union fel dylai fod. Os hoffech chi fod rhywun yn delio â phethau ar eich rhan chi, bydd angen i chi roi eich caniatâd iddo gael cysylltu â ni i drafod eich treth ar eich rhan chi.

Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am sut i ddewis cyfrifydd neu asiant treth ar GOV.UK.

Dysgwch am ddyddiadau cau a chadwch atyn nhw

‘Cyfnod cyfrifyddu’ eich cwmni yw’r cyfnod o amser sy’n cael ei gwmpasu gan eich Ffurflen Treth Gorfforaeth. Fel arfer, bydd y cyfnod cyfrifyddu’r un peth â’r flwyddyn ariannol. Gallwch chi ddysgu pryd mae’ch cyfnod cyfrifyddu chi a beth i’w wneud os yw’r cyfnodau’n wahanol i’w gilydd ar GOV.UK.

Mae yna ddau ddyddiad cau pwysig i’w cofio.

1. Mae’n rhaid eich bod chi wedi llenwi Ffurflen Dreth eich Cwmni, a’i hanfon hi aton ni, o fewn 12 mis i ddiwedd cyfnod cyfrifyddu eich cwmni.

2. Mae angen i chi dalu unrhyw Dreth Gorfforaeth sydd arnoch chi yn gynnar – hynny yw, o fewn 9 mis ac 1 diwrnod i ddiwedd cyfnod cyfrifyddu eich cwmni.

Dyma enghraifft i chi

Os bydd cyfnod cyfrifyddu eich cwmni (neu’r flwyddyn ariannol) yn gorffen ar 31 Mawrth 2026, bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth eich Cwmni aton ni ar 31 Mawrth 2027 neu cyn y dyddiad hwn.

Hefyd, bydd angen i chi fod wedi talu unrhyw Dreth Gorfforaeth sydd ar eich cwmni ar 1 Ionawr 2027 neu cyn y dyddiad hwn.

Bydd yn dal i fod angen i chi anfon eich cyfrifon aton ni fel rhan o Ffurflen Dreth eich Cwmni, hyd yn oed os byddwch chi wedi rhannu’r rhain â Thŷ’r Cwmnïau.

Byddwch chi cymaint gwell eich byd wrth wneud pethau mewn da bryd

Mae yna ddirwyon am anfon Ffurflen Dreth eich Cwmni yn hwyr. Os gwnewch chi orffen â’r cyfan cyn y dyddiad cau, fyddwn ni ddim yn codi unrhyw gostau ychwanegol arnoch chi.

Graffeg yn dangos cosbau am anfon eich Ffurflen Dreth y Cwmni yn hwyr. 

Mae 1 diwrnod yn hwyr yn cyfateb i gosb o £200. Mae 3 mis yn hwyr yn cyfateb i gosb o £400. Mae 6 mis yn hwyr yn cyfateb i 10 y cant wedi’i ychwanegu at swm y dreth sy’n ddyledus. Mae 12 mis yn hwyr yn cyfateb i 20 y cant wedi’i ychwanegu at swm y dreth sy’n ddyledus.

Os bydd eich cwmni’n cyflwyno’n hwyr 3 blwyddyn yn olynol, bydd y cosbau yn cynyddu o £200 a £400 i £1,000 a £2,000 yr un. Byddwn ni hefyd yn codi cosb ar eich cwmni am unrhyw dreth sydd heb gael ei thalu o’r dyddiad pan oedd y dreth yn ddyledus (‘due’).

Felly, gallwch chi ddeall pam ei bod hi mor bwysig cadw ar ben Ffurflen Dreth eich Cwmni.

Gallwch chi wneud hyn eich hun neu ofyn am help gan weithiwr proffesiynol, fel cyfrifydd neu asiant treth.

Mae help a chymorth ar gael i chi

Rydyn ni’n deall bod rhedeg busnes yn gallu bod yn waith anodd. Felly, rydyn ni yma i’ch helpu chi.

Os nad oes modd i’ch cwmni dalu ei fil treth mewn pryd, gallwch chi ofyn i ni am sut mae trefnu cynllun talu ar GOV.UK. Bydd hyn yn eich galluogi chi i rannu’r gost dros ychydig wythnosau neu fisoedd.

Os byddwn ni’n codi cosb ar eich cwmni a bod yna reswm da dros gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni yn hwyr, yn eich tyb chi, gallwch chi gysylltu â ni er mwyn apelio. Er enghraifft, efallai gwnaethoch chi ddioddef salwch difrifol neu golli rhywun annwyl i chi. Os felly, y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw rhoi cymaint o fanylion i ni ag y gallwch chi.

Unwaith eich bod chi’n fwy cyfforddus wrth lenwi Ffurflen Dreth y Cwmni, bydd y broses yn dod yn ail natur i chi – a gallwch chi fynd yn ôl at ganolbwyntio ar eich busnes.

Dylai’r wybodaeth a’r adnoddau ar y dudalen we hon eich helpu chi i fagu’ch hyder o ran sylfeini treth, ond dylech chi bob tro wirio’r arweiniad manwl ar GOV.UK i gael rhagor o help wrth lenwi Ffurflen Dreth eich Cwmni.