Skip to main content

Hunanasesiad os ydych chi’n hunangyflogedig

 

Pan fyddwch chi’n gweithio i chi’ch hun, mae’r ffordd byddwch chi’n talu treth yn wahanol i dalu treth pan fyddwch chi’n gweithio i gyflogwr. Efallai bydd angen i chi anfon rhywbeth o’r enw ‘Ffurflen Dreth Hunanasesiad’ aton ni.

Yn fras, dyma fel byddwch chi’n rhoi gwybod i ni am faint o arian rydych chi wedi’i ennill yn ystod y flwyddyn honno. Wedyn, gallwn ni wneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir o dreth ac Yswiriant Gwladol, ar yr adeg gywir.

Dim ond un Ffurflen Dreth bydd angen i chi ei llenwi bob blwyddyn wrth wneud Hunanasesiad. Bydd hon yn cwmpasu eich holl incwm, p’un a yw hyn yn dod o hunangyflogaeth neu bethau eraill – fel rhentu eiddo neu log o gynilion a buddsoddiadau.

Pwysig:

Os ydych chi’n unig fasnachwr, neu’n ennill arian o eiddo, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm yn newid. Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yw’r enw ar hyn. Bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026 i rai pobl.

Gallwch chi ddysgu pwy sydd angen defnyddio Troi Treth yn Ddigidol, pryd gallai fod angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun, a sut gallwch chi gael eich hun yn barod ar gyfer y newid drwy ymweld â’n tudalen Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Awgrym defnyddiol: 

Mae’r flwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn gorffen ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Rhoi gwybod i ni am eich incwm

Dylai’ch Ffurflen Dreth gynnwys yr holl wybodaeth am eich incwm, gan gynnwys arian a gewch chi o’r canlynol:

  • hunangyflogaeth
  • rhentu eiddo
  • llog ar gynilion
  • difidendau
  • pensiynau gweithle neu bensiynau preifat

Os ydych chi’n hunangyflogedig, gallwch chi hefyd gynnwys unrhyw beth rydych chi wedi gwario arian arno ef wrth redeg eich busnes – er enghraifft, offer neu ddodrefn ar gyfer y swyddfa. Dyma yw’ch ‘treuliau busnes’ chi.

Pan fyddwch chi’n llenwi’ch Ffurflen Dreth, byddwch chi’n cynnwys eich holl incwm a’ch holl dreuliau busnes – wedyn byddwch chi’n gweld faint o dreth sydd arnoch chi ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf. Byddwn ni’n esbonio rhagor am hyn yn yr adran nesaf.

Pryd i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Os ydych chi’n hunangyflogedig, efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth – p’un a ydych chi’n blymiwr, rhywun sy’n trin gwallt, dylunydd llawrydd neu unrhyw fath arall o unig fasnachwr. Gallwch chi wirio a oes angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UK.

Os hoffech chi hawlio treuliau busnes yn erbyn unrhyw dreth sydd arnoch chi, talu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, neu adrodd am golledion wrth fasnachu, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UK.

Peth pwysig i’w gofio:

Dim ond elw sy’n weddill ar ôl i chi dynnu treuliau oddi wrtho ef y byddwn ni’n codi treth arno ef. Dyma pam mae cofnodi’ch treuliau busnes ar eich Ffurflen Dreth yn bwysig. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw derbynebau ar gyfer popeth rydych chi’n gwario arian arno ef wrth redeg eich busnes yn ystod y flwyddyn.

Rhoi gwybod i ni ar-lein erbyn 5 Hydref

Os oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth, bydd angen i chi roi gwybod i ni ar 5 Hydref, neu cyn y dyddiad hwn, ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Felly, os byddwch chi’n newid i fod yn hunangyflogedig rywbryd rhwng 6 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026, bydd angen i chi roi gwybod i ni ar 5 Hydref, neu cyn y dyddiad hwn. Gallwch chi roi gwybod i ni drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad – gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UK.

Bydd angen i chi anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein aton ni, yn ogystal â thalu unrhyw dreth neu Yswiriant Gwladol sydd arnoch chi, erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Bydd angen i chi fod wedi gwneud y cyfan ar 31 Ionawr neu cyn y dyddiad hwn. Dyma’r un dyddiad cau bob blwyddyn.

Felly, ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein aton ni a thalu eich bil treth ar 31 Ionawr 2027 neu cyn y dyddiad hwn er mwyn osgoi unrhyw gosbau.

Graffeg yn dangos dyddiadau cau allweddol ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 gan gynnwys cofrestru erbyn 5 Hydref 2026, cyflwyno Ffurflen ar-lein erbyn 31 Ionawr 2027, a thalu treth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2027.

Gallwch chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad am ddim ar GOV.UK.

Awgrym defnyddiol: 

Mae’n werth lawrlwytho ap CThEF ar GOV.UK hefyd i hwyluso’r gwaith gweinyddol wrth ddelio â’ch treth. Gallwch chi wirio’ch gwybodaeth dreth, gosod negeseuon atgoffa, talu, hawlio ad-daliadau a llawer mwy.

Anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein aton ni

Unwaith i chi gofrestru, byddwch chi’n cael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR). Gallwch chi weld eich UTR yn ap CThEF, neu gallwch chi ddod o hyd iddo ef ar GOV.UK.

Wedyn, gallwch chi ddechrau llenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar GOV.UK. Cewch chi eich tywys bob cam o’r ffordd, ac unwaith i chi anfon y Ffurflen Dreth aton ni, fe gewch chi weld faint o dreth ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch chi am y flwyddyn honno.

Y ffordd fwyaf hwylus o dalu yw drwy ddefnyddio ap CThEF. Gallwch chi ddysgu sut mae lawrlwytho’r ap a gweld ffyrdd eraill o dalu’ch bil treth ar GOV.UK.

Awgrym defnyddiol: 

Os nad ydych chi’n siŵr am lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad eich hun, gallwch chi ofyn am help gan rywun fel cyfrifydd neu asiant treth. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.

Mae’n bwysig bod yn dda wrth gadw cofnodion

Byddwch chi’n ffeindio bod llenwi Ffurflen Dreth dipyn yn haws os byddwch chi wedi cadw cofnodion clir a rheolaidd o’r arian sy’n mynd a dod drwy eich busnes. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw anfonebau byddwch chi’n eu hanfon
  • derbynebau am bethau byddwch chi’n eu prynu at ddibenion gwaith
  • cyfriflenni banc

Dysgwch ragor am sut i wneud hyn ar ein tudalen ‘Cadw cofnodion i fusnesau bach’.

Delio â Hunanasesiad yn ddidrafferth

Gallai Hunanasesiad ddisgwyl yn dasg fawr ar yr olwg gyntaf. Ond, drwy ddeall y sylfaeni fe allwch chi dorri’r cyfan yn dasgau llai – ac mae hen ddigon o gymorth i’ch helpu chi i gael pethau’n iawn. Dysgwch ragor ar GOV.UK.

Dylai’r wybodaeth a’r adnoddau ar y wefan hon eich helpu chi i fagu’ch hyder o ran sylfeini treth. Ond, dylech chi bob tro wirio’r arweiniad manwl ar GOV.UK i gael rhagor o gymorth wrth ddelio â Hunanasesiad.