Skip to main content

Sefydlu fel unig fasnachwr

 

Os byddwch chi’n dewis gweithio i chi’ch hun – p’un a ydych chi’n blymiwr, rhywun sy’n trin gwallt, trydanwr neu ddylunydd llawrydd, rydyn ni yma i’ch helpu chi i symleiddio’ch gwaith gweinyddol o ran treth.

Fel unig fasnachwr, bydd mwy na thebyg angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn. Dyma sut mae dechrau arni.

Nid cwmni cyfyngedig mo unig fasnachwr

Drwy fod yn unig fasnachwr, nid oes gwahaniaeth rhyngoch chi a’ch busnes yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn wahanol i gwmni cyfyngedig, pan fyddwch chi a’ch arian personol yn hollol ar wahân i’ch busnes.

Fel unig fasnachwr, byddwch chi’n cadw’ch elw i gyd ar ôl tynnu treth. Ond, chi sy’n gyfrifol am ddyledion eich busnes ac yn talu unrhyw dreth sydd arnoch chi.

Enwi’ch busnes

At ddibenion treth, gallwch chi fasnachu o dan eich enw eich hun neu ddewis enw busnes – chi piau’r dewis. Felly, gallwch chi weithio dan yr enw ‘Jane Smith’ neu greu enw masnachu, yn debyg i ‘Gwasanaethau Trydanol Smith’. Os ewch chi ati i ddefnyddio enw busnes, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad eich hun ar yr holl anfonebau a’r gwaith papur swyddogol.

Fel unig fasnachwr, nid oes angen i chi gofrestru enw eich busnes gyda ni, er bod gwerth gwirio nad oes rhywun arall wedi gosod nod masnach ar yr enw yr hoffech chi ei ddewis.

Gallwch chi chwilio am nodau masnach presennol ar GOV.UK.

Cofrestru gyda ni ar gyfer Hunanasesiad

Os ydych chi’n hunangyflogedig, efallai bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth. Gwiriwch p’un a oes angen i chi dalu treth a chofrestru gyda ni ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UK.

Drwy wneud hyn, byddwch chi’n gallu rhoi gwybod i ni faint o arian rydych chi wedi’i ennill, a faint o arian rydych chi wedi’i wario ar redeg eich busnes (hynny yw, eich treuliau). Wedyn, gallwn ni wneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir o dreth.

Awgrym defnyddiol: 

Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru, ond bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn – oni bai bod eich sefyllfa yn newid.

Gallwch chi ddysgu rhagor am sut i gofrestru ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Fel unig fasnachwr, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm ar fin newid. Enw’r cynllun newydd yw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn gweithio’n wahanol i Hunanasesiad. Dylech chi wirio a yw’r rheolau gwahanol yn berthnasol i chi.

Gallwch chi ddysgu pwy sydd angen defnyddio Troi Treth yn Ddigidol, pryd gallai fod angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun, a sut gallwch chi gael eich hun yn barod ar gyfer y newid drwy ymweld â’n tudalen Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Sut i gyfrifo’ch trethi

Pan fyddwch chi’n gyflogedig, daw treth o’ch cyflog yn awtomatig drwy system o’r enw ‘Talu Wrth Ennill’ neu ‘TWE’ (‘Pay As You Earn’ neu ‘PAYE’). Ond pan fyddwch chi’n unig fasnachwr, byddwch chi’n gweld faint o dreth sydd arnoch chi ar eich Ffurflen Dreth.

Byddwch chi’n cynnwys eich ‘incwm’ (hynny yw’r arian a ddaw i mewn i’ch busnes) a’ch ‘treuliau’ (hynny yw’r arian sy’n mynd allan o’ch busnes). Beth bynnag sy’n weddill o’ch incwm, ar ôl tynnu’ch treuliau, yw’ch ‘elw’. Gallwch chi ddysgu rhagor am beth sy’n cyfri fel treuliau busnes ar GOV.UK.

Yn dibynnu ar faint o elw byddwch chi wedi’i ennill, efallai bydd angen i chi dalu’r canlynol:

Peth pwysig i’w gofio: 

Bydd angen i chi anfon eich Ffurflen Dreth ar-lein a thalu unrhyw dreth sydd arnoch chi ar 31 Ionawr, neu cyn y dyddiad hwn, yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud hyn mewn pryd, neu gallech chi fod yn wynebu cosb.

Rydyn ni’n trafod sut i lenwi Ffurflen Dreth ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.

Drwy gadw cofnodion da, byddwch chi’n hwyluso’r broses dreth

Fel unig fasnachwr, bydd angen i chi gadw cofnod o’r holl arian sy’n mynd a dod drwy’ch busnes. Er enghraifft, mae’n syniad da i chi dynnu llun o unrhyw dderbynebau rydych chi’n hawlio treuliau busnes arnyn nhw – fel offer a deunydd ysgrifennu – yn syth ar ôl i chi eu cael nhw.

Mae yna ddigonedd o offer ar-lein am ddim, sydd wedi’u cymeradwyo, a all eich helpu chi i gadw cofnodion digidol clir. Os yw’n well gennych chi, gallwch ddefnyddio meddalwedd gyfrifyddu hefyd. Gallwch chi ddod o hyd i restr o gyflenwyr meddalwedd gymeradwy ar GOV.UK.

Peth pwysig i’w gofio: 

Beth sy’n bwysig yw eich bod chi’n cadw cofnodion cywir, a bod modd i chi ddangos beth rydych chi wedi’i ennill a beth rydych chi wedi’i wario ar redeg eich busnes.

Hoffech chi ragor o awgrymiadau a chyngor ar gadw cofnodion o arian eich busnes? Gallwch chi ddod o hyd i’r rhain ar ein tudalen ‘Cadw cofnodion i fusnesau bach’.

TAW a’ch busnes

Treth Ar Werth (TAW) yw math o dreth sy’n cael ei hychwanegu at y pethau y byddwn ni’n eu prynu. Fel arfer, bydd hyn wedi’i ychwanegu at y pris eisoes. Felly, fel busnes, bydd angen i chi ystyried hyn wrth werthu unrhyw gynnyrch neu wasanaethau.

Fydd dim angen i chi feddwl am TAW nes byddwch chi wedi ennill mwy na £90,000 o ‘drosiant’ mewn cyfnod o 12 mis. ‘Trosiant’ yw’r enw ar yr arian mae’ch busnes yn ei ennill cyn i chi dynnu unrhyw dreuliau neu dreth.

Unwaith i chi gyrraedd y trothwy hwn, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW a gwneud yn siŵr eich bod chi’n ychwanegu TAW at eich cynnyrch neu wasanaethau. Ar hyn o bryd, 20% yw hyn ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Felly, os oeddech chi’n codi £100 ar eich cwsmeriaid, nawr byddai gofyn i chi godi £100 + TAW o 20%, sef £120.

Diagram yn dangos TAW wedi’i hychwanegu at anfonebau pan fo trosiant yn uwch na’r trothwy o £90,000.

Gallwch chi hefyd ddewis cofrestru ar gyfer TAW, hyd yn oed os nad ydych chi’n ennill mwy na £90,000.


Gallech chi ddewis gwneud hyn oherwydd bod modd i chi hawlio TAW yn ôl ar rai o’ch treuliau busnes. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n prynu offer neu gyflenwadau (‘supplies’) drud.

Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW’.

Gwybodaeth am dreth sy’n berthnasol i’ch diwydiant chi

Efallai bydd yna ambell beth arall y bydd angen i chi ei wybod am dreth, yn dibynnu ar ba ddiwydiant rydych chi’n gweithio ynddo. Rydyn ni’n trafod rhai o’r diwydiannau mwyaf cyffredin i unig fasnachwyr – gan gynnwys y diwydiant adeiladu, a’r diwydiant trin gwallt a harddwch – ar ein tudalen ‘Gwybodaeth am dreth sy’n berthnasol i’ch diwydiant chi’.

Gadewch i ni ddechrau arni

Does dim rhaid i chi ddod i ddeall treth ar eich pen eich hun – rydyn ni yma i’ch helpu chi i lenwi’r bylchau yn eich dealltwriaeth, fel y gallwch chi fwrw ymlaen â’r hyn rydych chi’n ei wneud orau.