Skip to main content

Treth Ar Werth i gwmnïau sy’n datblygu

 

Dyna newyddion gwych os yw’ch busnes yn ffynnu a bod y gwerthiannau ar gynnydd. Mae hyn hefyd yn golygu ei bod hi’n bosibl bydd angen i chi ddechrau meddwl am gofrestru ar gyfer Treth Ar Werth (TAW).

Mae’r dudalen hon yma i’ch helpu chi i ddeall beth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â TAW, pryd mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW, a beth mae hyn yn ei olygu i chi a’ch busnes.

Crynhoi beth yw TAW

Fel mae’r enw’n awgrymu, TAW yw’r dreth sy’n cael ei hychwanegu at y pris ar gyfer y rhan fwyaf o bethau sy’n cael eu prynu a’u gwerthu yn y DU. Er enghraifft, fel arfer bydd TAW eisoes wedi’i hychwanegu at bris rhywbeth byddwch chi’n prynu o’r siop.

Os ydych chi’n rhedeg busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, mae angen i chi godi TAW ar y pethau byddwch chi’n eu gwerthu yn gywir. Byddwch chi wedyn yn talu’r TAW hon i ni. Byddwn ni’n esbonio sut i wneud hyn yn nes ymlaen.

Sut a phryd i gofrestru ar gyfer TAW

Dim ond pan fyddwch chi’n ennill mwy na £90,000 o drosiant yn ystod cyfnod o 12 mis y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW a dechrau ei hychwanegu hi at beth rydych chi’n ei werthu. ‘Trosiant’ yw’r enw ar yr arian mae’ch busnes yn ei ennill cyn i chi dynnu unrhyw dreuliau neu dreth.

Dyma’r ffordd orau o wirio p’un a oes angen i chi gofrestru neu beidio.

Awgrym defnyddiol:  

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW o fewn 30 diwrnod i chi gyrraedd y terfyn o £90,000. Felly, os yw’n debygol eich bod chi am ennill mwy na hyn yn ystod y 30 diwrnod nesaf, fe ddylech chi gofrestru nawr.

Unwaith i chi gofrestru eich busnes gyda ni ar gyfer TAW ar GOV.UK, byddwn ni’n anfon rhif cofrestru TAW (VAT registration number neu VRN) atoch chi. Ar ôl i chi gael eich VRN, bydd angen i chi ddechrau ychwanegu TAW ar ben pris unrhyw nwyddau neu wasanaethau rydych chi’n eu gwerthu. Byddwn ni’n esbonio sut i wneud hyn yn nes ymlaen.

Dyma enghraifft o bryd i gofrestru ar gyfer TAW

Mae yna gyfraddau TAW gwahanol

Caiff TAW ei chodi ar y rhan fwyaf o gynhyrchion (sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘nwyddau’) a gwasanaethau ar y gyfradd arferol o 20%. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:

  • pethau electronig
  • dodrefn
  • biliau ffôn
  • gwaith gan gyfrifwyr a chyfreithwyr

Mae gan bethau eraill – fel biliau ynni i’r tŷ, seddi i blant mewn ceir, a rhai cynhyrchion arbed ynni i’ch cartref – gyfradd TAW is o 5%.

Ac nid oes yna TAW o gwbl ar rai eitemau. Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o fwydydd, dillad plant a llyfrau. Er bod y rhain yn cael eu trethu ar gyfradd o 0%, os byddwch chi’n eu gwerthu nhw, byddan nhw’n dal i gyfri tuag at derfyn eich trosiant o £90,000 (y terfyn wnaethon ni drafod gynnau).

Er enghraifft, os byddwch chi’n rhedeg siop lyfrau ac yn ennill £95,000 y flwyddyn, mae’n dal i fod angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Siartiau dônut yn dangos cyfraddau TAW: cyfradd arferol o 20%, cyfradd ostyngol o 5%, ac eitemau cyfradd sero fel bwydydd a dillad plant.

Ychwanegu TAW at eich prisiau

Unwaith i chi gofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi ychwanegu TAW at eich prisiau.

*Fel rydyn ni eisoes wedi sôn, mae gan rai nwyddau a gwasanaethau gyfraddau TAW gwahanol.

Mae rhai cwmnïau yn poeni braidd am gynyddu eu prisiau gan 20%, felly gallen nhw fynd ati i ysgafnhau’r gost i’w cwsmeriaid drwy ostwng pris gwreiddiol eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Mae cwmnïau eraill yn fwy cyfforddus â’r cynnydd.

Nid oes ateb cywir nac anghywir yn yr achos hwn, mae’r cyfan yn dibynnu ar eich busnes a’ch cwsmeriaid chi.

Anfon eich Ffurflen TAW aton ni

Mae Ffurflen TAW yn fath benodol o Ffurflen Dreth, a bydd angen i chi ei llenwi os yw’ch busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n ein helpu ni i weithio allan p’un a ydych chi wedi talu gormod o TAW neu ddim digon o TAW.

Ar eich Ffurflen TAW, bydd angen i chi roi gwybod i ni faint o TAW sydd arnoch chi. Hynny yw’r TAW ar gyfanswm unrhyw gynnyrch neu wasanaeth rydych chi wedi’i werthu.

Mae angen i’r rhan fwyaf o gwmnïau anfon Ffurflen TAW aton ni bob 3 mis. Ond, mae yna rai cwmnïau fyddai’n llenwi Ffurflen TAW bob mis neu’n llenwi un Ffurflen TAW bob blwyddyn. Gallwch chi ddysgu rhagor am bwy sydd angen anfon Ffurflen TAW ar GOV.UK.

Bydd angen i’ch Ffurflen TAW ddangos i ni faint o TAW rydych chi wedi’i chodi ar eich cwsmeriaid. Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i ni faint o TAW rydych chi wedi’i thalu wrth brynu pethau ar gyfer rhedeg eich busnes (hynny yw, eich treuliau).

Peth pwysig i’w gofio: 

Gallwch chi hawlio TAW yn ôl ar bethau neu wasanaethau byddwch chi’n eu prynu i redeg eich busnes. Felly, os ydych chi wedi talu mwy o TAW ar eich treuliau busnes na’r TAW gwnaethoch chi ei chodi ar eich cwsmeriaid, fe fyddwn ni’n ad-dalu’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm hyn i chi.

Ond, os ydych chi wedi talu mwy o TAW ar bethau gwnaethoch chi brynu ar gyfer eich busnes na’r TAW gwnaethoch chi ei chodi ar eich cwsmeriaid, fe fyddwn ni’n fel arfer yn anfon ad-daliad i chi.

Diagram yn dangos sut i dalu’r gwahaniaeth os yw’r TAW sydd wedi’i chodi yn fwy na’r TAW rydych chi wedi’i thalu, neu sut i gael ad-daliad.

Peth pwysig i’w gofio: 

Bydd angen i chi anfon eich Ffurflen TAW aton ni, a thalu unrhyw dreth sydd arnoch chi, erbyn 1 mis a 7 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod TAW – a dim hwyrach na hynny. Os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y byddwn ni’n codi cosb arnoch chi.

Felly, os byddai’ch cyfnod TAW yn gorffen ar 31 Mawrth, yna 7 Mai fyddai’r dyddiad cau.

Awgrym defnyddiol:  

Bydd cadw cofnodion o’r holl TAW byddwch chi’n ei chodi ar eich cwsmeriaid a’r TAW byddwch chi’n ei thalu i’ch cyflenwyr yn bwysig iawn. Mae’n syniad da, felly, i wneud yn siŵr bod gennych chi drefn dda ar eich anfonebau a’ch derbynebau, a bod modd dod o hyd iddyn nhw’n hawdd.

Cymerwch gip ar ein tudalen ‘Sut i lenwi’ch Ffurflen TAW’ er mwyn dysgu sut i lenwi’ch un chi.

Gallwch chi gofrestru’n gynnar os hoffech chi

Mae rhai busnesau yn dewis cofrestru ar gyfer TAW hyd yn oed pan fo’u trosiant nhw yn llai na £90,000.

Dyma ddau reswm da dros wneud hyn eich hun:

Peth pwysig i’w gofio:

Os bydd eich trosiant yn mynd yn is na £88,000 ar unrhyw adeg, gallwch chi ofyn am ganslo’ch cofrestriad ar gyfer TAW. Byddai hynny’n golygu byddech chi’n stopio codi TAW ac yn stopio anfon Ffurflenni TAW aton ni.

Symleiddio pethau i chi

Mae gennym ni wahanol gynlluniau TAW i helpu busnesau bach. Er enghraifft, bydd ein Cynllun Cyfradd Unffurf (‘Flat Rate Scheme’) yn eich galluogi chi i dalu canran sefydlog o TAW ar eich trosiant – sydd hefyd yn golygu llai o waith papur o lawer.

Mae’n werth cael cip dros ein cynlluniau ni, ond ni fydd y rhain yn ddefnyddiol i bawb – mae’r cyfan yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych chi a sut mae’r busnes yn gweithio. Gallwch chi ddysgu rhagor am gynlluniau TAW ar GOV.UK.

Cael help pan fo’i angen ef arnoch chi

Gall TAW deimlo fel tipyn i’w ddeall ar yr olwg gyntaf. Ond unwaith i chi ddod i ddeall y sylfeini a dod i arfer â’r patrwm, bydd sortio TAW yn dod i fod yn rhan reolaidd o arferion eich busnes.

Os na fyddwch yn siŵr am rywbeth, gall cyfrifydd eich helpu chi i drefnu’ch TAW. A chofiwch, gallwch chi wastad ddod o hyd i arweiniad pellach ar GOV.UK.