Skip to main content

Dewis strwythur ar gyfer busnes

 

Mae’n adeg gyffrous pan fyddwch chi’n dechrau busnes newydd. Ond bydd angen i chi benderfynu sut hoffech chi drefnu eich busnes cyn dechrau arni. Dewis strwythur ar gyfer busnes yw’r enw ar y broses hon.

Mae’ch dewis yn effeithio tri pheth pwysig:

Dim ond tri opsiwn sydd gan y rhan fwyaf o bobl – unig fasnachwr, cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth – a gallwch chi wastad newid yn nes ymlaen os bydd eich busnes yn datblygu neu fod eich amgylchiadau yn newid.

Pa drywydd bynnag a ddilynwch chi, mae’n bwysig i chi ddod i ddeall sut mae pob strwythur yn newid sut mae angen i chi ddelio â’ch treth. Drwy wneud hynny, gallwch chi ddewis strwythur sy’n cyd-fynd â’ch cynlluniau chi ac sy’n rhoi hyder i chi wrth feithrin eich busnes.

Unig fasnachwr: y ffordd symlaf o ddechrau arni

Dyma sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis dechrau. 

Peth pwysig i’w gofio:

Drwy fod yn unig fasnachwr, chi sy’n rhedeg eich busnes ar ben eich hunan. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw’r gyfraith yn gwahaniaethu rhyngoch chi a’ch busnes. 

Gallwch chi sefydlu’r math hwn o fusnes yn gyflym ac am ddim. Dim ond cofrestru gyda ni ar gyfer Hunanasesiad sydd angen i chi ei wneud, a byddwch chi’n llenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn. 

Nid oes ffi i’w thalu, byddwch chi’n cadw eich elw i gyd ar ôl didynnu treth, a chi sy’n gyfrifol am bob penderfyniad.

Ar y llaw arall, pe bai rhywbeth yn mynd o’i le a bod eich busnes yn wynebu caledi ariannol, gallai’ch arian a’ch eiddo personol fod yn y fantol.

Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Sefydlu fel unig fasnachwr’.

Peth pwysig i’w gofio:

Fel unig fasnachwr, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm ar fin newid. Enw’r cynllun newydd yw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn gweithio mewn ffordd wahanol i Hunanasesiad. Dylech chi wirio a yw’r rheolau gwahanol yn berthnasol i chi. Dysgwch pwy sydd angen ei ddefnyddio, pryd i ddechrau arni, a sut i baratoi ar gyfer y newid hwn, drwy ymweld â’n tudalen ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Cwmni cyfyngedig: cadw’ch busnes ar wahân

Mae sefydlu cwmni cyfyngedig yn wahanol iawn i fod yn unig fasnachwr. 

Peth pwysig i’w gofio:

Mae’n cadw chi a’ch busnes ar wahân i’ch gilydd – fel bod eich arian personol yn cael ei gadw ar wahân i’ch cwmni cyfyngedig. Gall y cwmni – yn hytrach na chi – berchen ar bethau, bod arno arian i rywun, a chytuno i gontractau, yn ei enw ei hun.

Prif fantais hyn yw rhywbeth o’r enw ‘rhwymedigaeth gyfyngedig’ (‘limited liability’). Os bydd y cwmni yn wynebu unrhyw galedi ariannol, mae’n golygu bod eich cynilion personol, eich eiddo personol a’ch tŷ fel arfer yn ddiogel. Dim ond colli faint bynnag o arian byddwch chi wedi buddsoddi yn y cwmni gallwch chi ei wneud.

Rydyn ni’n codi treth ar gwmni cyfyngedig mewn ffordd wahanol i unig fasnachwyr a phartneriaethau. Bydd angen i’ch cwmni dalu Treth Gorfforaeth ar sail faint o elw y bydd yn ei ennill. A bydd angen i chi, fel unigolyn, dalu Treth Incwm ar unrhyw arian byddwch chi’n tynnu o’r busnes (er enghraifft, eich cyflog chi). 

Dysgwch ragor am hyn ar ein tudalen ‘Dod i ddeall Treth Gorfforaeth’.

Er mwyn sefydlu cwmni cyfyngedig, bydd angen i chi gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau – bydd angen i chi lenwi ffurflen a thalu ffi fach. Hefyd, bydd angen i chi gofrestru gyda ni. 

Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Sefydlu cwmni cyfyngedig’.

Partneriaeth: rhedeg busnes gyda phobl eraill

Os byddwch chi’n dewis sefydlu’r math hwn o fusnes, bydd angen i bob partner gofrestru gyda ni yn unigol, llenwi ei Ffurflen Dreth ei hun, a thalu treth ar ei gyfran o’r elw. Bydd angen i un o’r partneriaid hefyd anfon Ffurflen Dreth Partneriaeth aton ni ar ran eich busnes.

Gallwch chi ddysgu rhagor am sefydlu partneriaeth ar GOV.UK.

Paneli yn esbonio taliadau salarïau a difidendau a’r cyfrifoldeb cysylltiedig o ran treth.

Peth pwysig i’w gofio:

Partneriaeth yw lle mae dau neu fwy o bobl yn dewis rhedeg busnes gyda’i gilydd. Byddwch chi’n rhannu’r gwaith, yr elw a’r penderfyniadau.

Eich helpu i ddewis yr opsiwn cywir i chi

Nid oes un ateb cywir yn yr achos hwn, ac nid oes un strwythur busnes yn well na’i gilydd. Mae’r cyfan yn dibynnu ar beth sydd bwysicaf i chi.

Mae’n bwysig eich bod chi’n edrych yn ofalus dros y gwahanol fathau o strwythurau ar gyfer busnesau, fel y gallwch ddewis yr un sydd orau i chi ac sy’n diwallu anghenion eich busnes.

Gall fod o ddefnydd i chi wybod bod modd newid y strwythur ar gyfer eich busnes wrth i’ch busnes ddatblygu. Mae hyn yn hollol arferol gan fod anghenion busnesau yn gallu newid dros amser.

Gallwch chi fynd i chwilio drwy’r gwahanol strwythurau rydyn ni wedi’u trafod yma a dysgu rhagor am sefydlu busnes ar GOV.UK.