Skip to main content

Dod i ddeall Treth Gorfforaeth

 

Os ydych chi’n rhedeg cwmni cyfyngedig yn y DU, bydd angen i’ch cwmni dalu rhywbeth o’r enw Treth Gorfforaeth ar unrhyw elw. Nid yw’r un peth â Threth Incwm, sef y dreth mae pobl yn ei thalu ar eu cyflogau.

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddeall sut mae’n gweithio, fel byddwch chi’n teimlo’n fwy hyderus am yr elfen hon wrth redeg eich busnes.

Bydd eich cwmni yn talu Treth Gorfforaeth ar elw

Pan fydd eich cwmni yn ennill arian, fe fydd ef hefyd yn talu treth ar yr elw. ‘Elw’ yw’r incwm sy’n weddill gan eich cwmni unwaith i chi dynnu unrhyw arian wnaethoch chi wario ar redeg y busnes (hynny yw treuliau’r cwmni) – er enghraifft prynu offer neu ddodrefn i’r swyddfa. Gallwch chi ddysgu rhagor am beth sy’n cyfri fel treuliau busnes ar GOV.UK.

Gallai incwm eich cwmni cyfyngedig ddeillio o werthu cynnyrch (hynny yw, ‘nwyddau’) neu wasanaethau, neu wrth fuddsoddi ei arian.

Dyma enghraifft:

Mae Cwmni A yn ennill £100,000 yn ystod cyfnod cyfrifyddu (hynny yw, blwyddyn ariannol).

Gwariodd y cwmni £60,000 ar brynu stociau.

Gwariodd £25,000 ar gostau rhedeg y cwmni fel rhent, biliau cyfleustodau (‘utility bills’) ac yswiriant.

Mae’r cwmni’n tynnu’r £60,000 a’r £25,000 oddi wrth ei incwm.

Mae hyn yn gadael £15,000 o elw i’r cwmni. Bydd y cwmni’n talu Treth Gorfforaeth ar y £15,000.

Enghraifft yn dangos swm y Dreth Gorfforaeth y mae Cwmni A yn ei dalu ar ei elw. Mae Cwmni A yn gwneud £100,000, mae £60,000 ar wariant stoc ac mae £25,0000 ar gostau rhedeg. Felly mae £15,000 o elw i dalu Treth Gorfforaeth arno.

Dysgwch am bwy sy’n talu Treth Gorfforaeth

Efallai bydd angen i sawl cwmni a sefydliad gwahanol dalu Treth Gorfforaeth, er enghraifft:

  • cwmnïau cyfyngedig – gan gynnwys pob cwmni yn y DU sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • cwmnïau tramor sy’n cynnal busnes yn y DU drwy swyddfa neu gangen leol
  • clybiau, grwpiau cymunedol a sefydliadau tebyg – os byddan nhw’n cael elw trethadwy

Peth pwysig i’w gofio:

Fydd unig fasnachwyr ddim yn talu Treth Gorfforaeth. Os byddwch chi’n tynnu arian o’ch cwmni cyfyngedig i dalu salari neu ddifidendau i chi’ch hun (neu gall hyn fod ar ffurf benthyciad), efallai bydd gofyn i chi dalu Treth Incwm ar y swm hwnnw.

Bydd elw eich cwmni yn pennu cyfradd y dreth

Bydd elw eich cwmni yn newid faint o Dreth Gorfforaeth bydd angen i’ch cwmni ei thalu. Bydd ef yn talu:

Dyma enghraifft:

Mae Cwmni B, cwmni bach glanhau, yn ennill elw o £40,000.

Mae’r cwmni hwn yn talu Treth Gorfforaeth ar gyfradd o 19%.

Felly, mae Cwmni B yn talu £7,600 o dreth – sef 19% o £40,000.

Mae Cwmni C, busnes argraffu mawr, yn ennill elw o £300,000. 

Mae’r cwmni hwn yn talu Treth Gorfforaeth ar gyfradd o 25%.

Felly, mae Cwmni C yn talu £75,000 o dreth – sef 25% o £300,000.

Cymhariaeth yn dangos cyfradd o 19% ar elw hyd at £50,000 a chyfradd o 25% ar elw sy’n uwch na’r trothwy o £50,000.

Os bydd eich cwmni’n ennill elw rhwng £50,000 a £250,000, dyma pryd byddwn ni’n ystyried ‘rhyddhad ffiniol’ (‘marginal relief’). Mae’n swnio’n gymhleth, ond yn syml bydd cyfradd y dreth byddwch chi’n ei thalu yn cynyddu’n raddol, fesul cam, o 19% i 25%.

Felly, os bydd eich cwmni’n ennill elw sydd ychydig dros £50,000, fyddai ddim angen i’ch cwmni dalu’r gyfradd lawn o 25% yn syth.

Byddwch chi’n anfon Ffurflen Dreth y Cwmni aton ni

Yn wahanol i rai trethi, fyddwn ni ddim yn anfon bil atoch chi ar gyfer Treth Gorfforaeth. 

Yn lle hynny, byddwch chi’n gweithio allan faint sydd ar eich cwmni ac yna’n talu hyn i ni. Byddwch chi’n gwneud hyn drwy lenwi Ffurflen Dreth y Cwmni.

Dysgwch ragor amdani ar ein tudalen ‘Ffurflen Dreth y Cwmni’.

Mae sawl un ymhlith perchnogion busnesau sy’n defnyddio cyfrifydd neu asiant treth i’w helpu nhw gyda’u Ffurflenni Treth.

Peth pwysig i’w gofio:

Os byddwch chi’n cyflogi rhywun i’ch helpu chi gyda’ch Ffurflenni Treth, chi fydd yn gyfrifol o hyd, fel cyfarwyddwr y cwmni, dros wneud yn siŵr bod y dreth yn gywir ac yn cael ei thalu mewn pryd.

Paratoi ar gyfer Treth Gorfforaeth

Os ydych chi’n rhedeg clwb, grŵp cymunedol neu sefydliad tebyg, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth mewn ffordd wahanol. Os yw hyn yn swnio’n debyg i’ch sefyllfa chi, dysgwch sut i gofrestru ar GOV.UK.

Awgrym defnyddiol: 

Pan fyddwch chi’n cofrestru eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau, gallwch chi greu cyfrif treth busnes gyda ni ar yr un pryd. Bydd hyn yn eich galluogi chi i ofalu am bopeth yn haws ar-lein, o lenwi’ch Ffurflenni Treth i anfon unrhyw daliadau.

Magu’ch hyder o ran treth

Rhan bwysig o redeg cwmni cyfyngedig yw dod i ddeall Treth Gorfforaeth. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i lenwi unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth, fel gallwch chi sefydlu eich busnes chi yn llwyddiannus.

Tri pheth pwysig i’w cofio

I gael yr arweiniad llawn ar gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth, cyflwyno Ffurflen Dreth eich Cwmni a thalu eich bil, ewch i’r dudalen ‘Treth Gorfforaeth’ ar GOV.UK.