Skip to main content

Sefydlu cwmni cyfyngedig

 

Os ydych chiʼn ystyried rhedeg eich busnes eich hun, un ffordd o wneud hyn yw drwy sefydlu cwmni cyfyngedig. Maeʼr strwythur busnes hwn yn cadw’ch arian personol ac arian eich busnes ar wahân.

Yma, byddwn ni’n esbonio beth yn union yw cwmni cyfyngedig, sut maeʼn effeithio ar eich treth, a beth sydd angen i chi ei wneud i sefydlu un.

Rydych chi aʼch busnes yn wahanol yn ôl y gyfraith

Pan fyddwch chiʼn sefydlu cwmni cyfyngedig, rydych chiʼn creu rhywbeth syʼn wahanol i chi yn ôl y gyfraith. Gall eich cwmni fod yn berchen ar bethau, bod mewn dyled, a chytuno i gontractau – y cyfan yn ei enw ei hun, nid yn eich enw chi.

Mae hyn yn wahanol i fod yn unig fasnachwr, pan mai’r un peth ydych chi aʼch busnes yn ôl y gyfraith. 

Peth pwysig i’w gofio:

Un o’r prif fanteision yw rhywbeth oʼr enw ‘rhwymedigaeth gyfyngedig’ (‘limited liability’). Mae hyn yn golygu, os bydd eich cwmni yn mynd i unrhyw drafferthion ariannol, bod eich eiddo personol – eich cartref, eich car, eich cynilion – yn cael ei ddiogelu fel arfer. Dim ond yr arian rydych chi wediʼi fuddsoddi yn y busnes gallwch chi ei golli.

Bydd eich busnes yn talu Treth Gorfforaeth

Fel cwmni cyfyngedig, bydd eich busnes yn talu rhywbeth oʼr enw Treth Gorfforaeth ar unrhyw elw y maeʼn ei ennill. Nid ydych chiʼn talu Treth Gorfforaeth os ydych chi wedi gwneud colled.  

‘Elw’ yw’r incwm sy’n weddill gan eich cwmni ar ôl i chi dynnu unrhyw arian rydych chi wedi’i wario ar redeg y busnes (hynny yw, treuliau’r cwmni), a rhywbeth o’r enw ‘addasiadau ar gyfer treth’. Gallwch chi ddysgu rhagor am gyfraddau a rhyddhadau Treth Gorfforaeth ar GOV.UK.

Mae swm y Dreth Gorfforaeth y bydd eich cwmni yn ei dalu yn dibynnu ar faint o elw y bydd eich cwmni yn ei ennill. 

Gallwch chi ddysgu rhagor ar ein tudalen ‘Dod i ddeall Treth Gorfforaeth’.

Efallai y byddwch chi’n talu Treth Incwm hefyd

Bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar unrhyw arian rydych chiʼn ei dynnu oʼr busnes. 

Mae dwy brif ffordd y gallwch chi dynnu arian oʼr busnes:

Gallwch chi ddysgu rhagor am dynnu arian o gwmni cyfyngedig ar GOV.UK.

Mae mwy o waith gweinyddol ynghlwm wrth sefydlu a rhedeg cwmni cyfyngedig 

Mae rhedeg unrhyw fusnes yn golygu cadw cofnodion clir a chywir, ond mae gan gwmnïau cyfyngedig fwy o gyfrifoldebau. 

Bydd angen i chi gyflwyno cyfrifon (dogfennau ywʼr rhain syʼn dangos incwm, treuliau ac elw eich cwmni) i Dŷʼr Cwmnïau bob blwyddyn.  A phan fyddwch chiʼn sefydluʼr cwmni neuʼn gwneud unrhyw newidiadau iddo, bydd angen i chi lenwi rhagor o ffurflenni ar gyfer Tŷʼr Cwmnïau. 

Bob blwyddyn, bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth y Cwmni aton ni hefyd, i ddangos faint o Dreth Gorfforaeth mae angen iʼch cwmni ei thalu. Mae angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ywʼch cwmni’n gwneud colled neu os nad oes ganddo ddim byd iʼw dalu.

Efallai y bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth bersonol aton ni hefyd, i ddangos faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol y mae angen i chi eu talu.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am sut i gadw cofnodion da ar gyfer eich Ffurflenni Treth ar y dudalen hon. 

Awgrym defnyddiol: 

Mae llawer o bobl yn defnyddio cyfrifydd iʼw helpu nhw i gadw trefn ar yr holl waith gweinyddol. 

Dyma wybodaeth ddefnyddiol i chi – os yw banc yn rhoi benthyg arian i gwmni, bydd yn defnyddio proses wahanol oʼi gymharu â benthyciad personol. 

Rhoi popeth yn ei le

Gallwch chi weld canllaw cam wrth gam i sefydlu cwmni cyfyngedig ar GOV.UK.

Mae yna dipyn o ffurflenni i’w llenwi hefyd, er mwyn esbonio beth gall eich cwmni ei wneud, a sut maeʼn rheoli ei arian. Cadwch gofnodion oʼr rhain oherwydd gallai Tŷʼr Cwmnïau ofyn am eu gweld nhw yn nes ymlaen, neu gallen ni ofyn am eu gweld nhw.

Maeʼr rhan fwyaf o gwmnïau yn ‘gyfyngedig drwy gyfranddaliadauʼ (‘limited by shares’), syʼn golygu eu bod nhw’n cael eu perchen gan bobl rydyn ni’n eu galw’n ‘gyfranddalwyrʼ (‘shareholders’). Os mai chi yw’r unig berson yn y busnes, maeʼn debygol byddwch chiʼn dewis bod yr unig gyfranddaliwr – ond gallwch chi ychwanegu rhagor o gyfranddalwyr os hoffech chi wneud hynny.  

Ar ôl i chi gofrestru’ch cwmni cyfyngedig, byddwn ni’n cysylltu â chi ynglŷn â rhoi popeth yn ei le ar gyfer Treth Gorfforaeth. 

Peth pwysig i’w gofio:

Bydd angen i chi gofrestru’ch cwmni cyfyngedig ar-lein gyda Thŷʼr Cwmnïau, dewis enw i’r cwmni, a phenodi o leiaf un cyfarwyddwr (chi, fel arfer). Yn ogystal, bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am beth mae’ch busnes yn ei wneud, pwy ywʼr bobl syʼn berchen arno, a ble mae wedi’i leoli. Mae yna ffi fach i wneud hyn. 

TAW i gwmnïau cyfyngedig

Treth Ar Werth (TAW) yw math o dreth sy’n cael ei hychwanegu at y pethau byddwn ni’n eu prynu. Fel arfer, bydd hyn wedi’i hychwanegu at y pris eisoes. Felly, fel busnes, bydd angen i chi ystyried hyn wrth brynu neu werthu unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau.

Fydd dim angen i chi ystyried TAW nes bod eich cwmni wedi ennill mwy na £90,000 o ‘drosiant’ yn ystod unrhyw gyfnod olynol o 12 mis. ‘Trosiant’ yw’r enw ar yr arian mae’ch busnes yn ei ennill, cyn i chi dynnu unrhyw dreuliau neu dreth.

Unwaith i chi gyrraedd y pwynt hwn, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW a gwneud yn siŵr eich bod chi’n ychwanegu TAW at eich cynhyrchion neu wasanaethau. I’r rhan fwyaf o bethau, 20% yw’r gyfradd TAW arferol. 

Felly, os oeddech chi’n codi £100 ar eich cwsmeriaid, nawr byddai gofyn i chi godi £100 + TAW o 20%, sef £120. 

Gallwch chi ddysgu rhagor am wahanol gyfraddau TAW ar GOV.UK.

Gallwch chi hefyd ddewis cofrestru ar gyfer TAW hyd yn oed os nad ydych chi’n ennill mwy na £90,000. 

Gallech chi ddewis gwneud hyn oherwydd bod modd i chi hawlio TAW yn ôl ar rai o’ch treuliau busnes. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n prynu offer neu gyflenwadau (‘supplies’) drud.

Gallwch chi ddysgu rhagor ar ein tudalen ‘Treth Ar Werth i gwmnïau sy’n datblygu’.

Dewis cwmni cyfyngedig

I nifer o fasnachwyr a pherchnogion busnesau bach, maeʼr dewis rhwng bod yn unig fasnachwr neu’n gwmni cyfyngedig yn dibynnu ar ambell gwestiwn allweddol:

Nid oes un ateb cywir. Mae rhai pobl yn dechrau fel unig fasnachwr, ac yn newid i fod yn gwmni cyfyngedig yn nes ymlaen pan fydd eu busnes yn datblygu. Maeʼn well gan bobl eraill drefniadau rheoli busnes fel unig fasnachwr – sy’n symlach.

Eich helpu i ddewis yr opsiwn cywir i chi

Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr p’un a yw bod yn gwmni cyfyngedig yn addas ar eich cyfer chi, beth am siarad â chyfrifydd? Gallwch chi drafod cynlluniau eich busnes â’r cyfrifydd, ac yna gall eich helpu i benderfynu pa strwythur sy’n diwallu anghenion eich busnes yn y ffordd orau. Mae hwn yn benderfyniad pwysig.

Pʼun a ydych chiʼn dewis bod yn gwmni cyfyngedig, yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, rydyn ni yma i lenwi’r bylchau yn eich dealltwriaeth, fel y gallwch chi fagu hyder o ran treth a chanolbwyntio ar eich busnes.