Mae’n adeg gyffrous pan fyddwch chi’n dechrau eich swydd gyntaf. Bydd tipyn ar eich meddwl, o geisio cofio enwau pawb i bendroni sut mae’r peiriant coffi’n gweithio.
Siŵr o fod, nid yw treth ar frig eich rhestr chi, ond mae’n werth dod i’w deall oherwydd bydd hi’n ymddangos ar eich slip cyflog cyntaf. Yn ogystal â hyn, bydd angen i chi ddod i ddeall beth yw Yswiriant Gwladol a sut mae’n gweithio – a chael eich rhif Yswiriant Gwladol eich hun. Dysgwch sut i wneud hyn ar GOV.UK.
Unwaith i chi ddeall y sylfeini, mae’n dipyn yn haws na byddech chi’n disgwyl.
Pan fyddwch chi’n dechrau talu Treth Incwm
Mae’r rhan fwyaf o bobl â’r hawl i gael swm penodol o arian bob blwyddyn yn rhydd o dreth. Eich Lwfans Personol yw’r enw ar hwn, ac ar hyn o bryd, mae’n £12,570 y flwyddyn.
Os yw cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn yn fwy na’ch Lwfans Personol, dim ond yr arian sy’n uwch na’r lwfans hwn byddwch chi’n talu treth arno ef. Mae’r cyfraddau byddwch chi’n eu talu wedi’u gwahanu i ‘drothwyon’ (‘thresholds’). Terfyn ariannol yw ‘trothwy’.
Dyma sut mae’r gwahanol gyfraddau o Dreth Incwm yn gweithio.*
| Eich incwm | Eich cyfradd Treth Incwm |
|---|---|
| Hyd at £12,570 (eich Lwfans Personol) | 0% |
| Rhwng £12,571 a £50,270 | 20% |
| Rhwng £50,271 a £125,140 | 40% |
| Unrhyw incwm sy’n uwch na £125,140 | 45% |
*Cyfraddau Treth Incwm ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Awgrym defnyddiol:
Dim ond swm yr arian sy’n uwch na phob trothwy yn unigol, ac nid cyfanswm eich incwm, fydd yn cael ei drethu ar y gyfradd uwch.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, bydd y ffigurau hyn yn wahanol. Mae rhagor o wybodaeth am Dreth Incwm yn yr Alban ar gael ar GOV.UK.
Dyma enghraifft i’ch helpu chi i ddeall sut mae Treth Incwm yn gweithio yn y byd go iawn:
Mae Sue yn ennill £25,000 y flwyddyn.
Mae ganddi hi Lwfans Personol o £12,570 yn rhydd o dreth, felly fydd hi ddim yn talu unrhyw dreth ar y rhan honno o’r arian.
Bydd y gweddill, sef £12,430, yn cael ei drethu ar 20%. Mae hyn yn golygu bydd hi’n talu Treth Incwm o £2,486, a bydd £9,944 yn weddill iddi hi.
Wrth adio’r symiau at ei gilydd, hynny yw £12,570 plws £9,944, mae hyn yn golygu bod gan Sue £22,514 ar ôl tynnu Treth Incwm.
Wedi dweud hyn, bydd cyflog clir (‘take-home pay’) Sue ychydig yn llai na hynny oherwydd mae angen iddi hi dalu am bethau fel Yswiriant Gwladol a’i phensiwn gweithle hefyd. Byddwn ni’n esbonio sut mae hyn yn gweithio yn nes ymlaen.

Bydd eich cyflogwr yn delio â phethau ar eich rhan
Pan fyddwch chi’n cael eich cyflog cyntaf, mae’n debygol byddwch chi’n sylwi bod rhywfaint o’ch arian wedi’i dynnu er mwyn talu am bethau fel Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a phensiynau. ‘Didyniadau’ (‘deductions’) yw’r enw rydyn ni’n rhoi i’r rhain, ac nid oes angen i chi boeni dim.
Yn syml, mae’ch cyflogwr wedi tynnu unrhyw arian sydd arnoch chi i ni cyn talu’ch cyflog i chi.
Beth yw Yswiriant Gwladol?
Rydych chi’n talu Yswiriant Gwladol ar ffurf ‘cyfraniadau’ (‘contributions’). Mae’n helpu i ariannu budd-daliadau/buddiannau rydyn ni i gyd yn eu defnyddio, fel y GIG a Phensiwn y Wladwriaeth newydd.
Byddwch chi’n dechrau talu Yswiriant Gwladol os ydych chi’n:
O leiaf 16 oed
Ac yn ennill dros £242 yr wythnos neu £1,048 y mis
Pan fyddwch chi’n dechrau eich swydd gyflogedig gyntaf, bydd Yswiriant Gwladol a Threth Incwm yn cael eu tynnu’n awtomatig oddi wrth eich cyflog.
Awgrym defnyddiol:
Gallwch chi weld yn glir faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol sydd wedi’u tynnu, oherwydd bod y ddau yn ymddangos ar eich slip cyflog.
Cymerwch gip ar ein tudalen ‘Yswiriant Gwladol’ i ddysgu rhagor am sut mae’n gweithio.
Dod i ddeall y system Talu Wrth Ennill (neu TWE)
‘Talu Wrth Ennill’, neu TWE, yw’r enw ar y system bydd eich cyflogwr yn ei defnyddio i dynnu unrhyw ddidyniadau oddi wrth eich cyflog. Mae hyn yn hwyluso pethau cryn dipyn i chi oherwydd bod eich cyflogwr yn delio â phopeth ar eich rhan.
Bydd eich cyflogwr yn defnyddio TWE i wneud y canlynol:
Gweithio allan faint o dreth ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch chi
Tynnu arian oddi wrth eich cyflog cyn i chi gael eich talu
Anfon yr arian sydd arnoch chi ymlaen aton ni

I’r rhan fwyaf o bobl yn eu swydd gyntaf, mae TWE yn gofalu am bopeth. Oni bai ein bod ni’n cysylltu â chi, ddylai fod ddim angen i chi wneud unrhyw beth na gwneud unrhyw daliadau treth ar wahân.
Eich cod treth hollbwysig
Mae gan bawb god treth. Cymysgedd o lythrennau a rhifau yw’ch cod treth. Mae’ch cyflogwr yn ei ddefnyddio i’w helpu i weithio allan eich sefyllfa dreth.
Mae’n dangos y canlynol:
- faint gallwch chi ei ennill bob blwyddyn, yn rhydd o dreth (hynny yw, eich Lwfans Personol)
- faint o arian i’w dynnu oddi wrth eich cyflog os byddwch chi’n ennill yn fwy na’r swm hwnnw
Gallwch chi ddod o hyd i’ch cod treth ar bob slip cyflog.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar ein tudalen ‘Dod i ddeall eich cod treth’.
Peth pwysig i’w gofio:
Mae ap CThEF hefyd yn ffynhonnell wych o wybodaeth. Gallwch chi wirio’ch cod treth, rhif Yswiriant Gwladol, cofnod gwaith a llawer mwy. Dysgwch sut i’w lawrlwytho ar GOV.UK.
Beth mae’ch slip cyflog yn ei ddangos i chi
Bob tro byddwch chi’n cael eich talu, cewch chi slip cyflog. Gall fod ar ffurf bapur neu ddogfen ddigidol.
Mae’n eithaf tebyg i’r derbynebau byddwch chi’n eu cael wrth brynu rhywbeth. Bydd eich slip cyflog yn dangos i chi faint o arian rydych chi wedi’i ennill, a faint sydd wedi’i dynnu ar ffurf treth ac Yswiriant Gwladol.
Cewch weld y canlynol:
- eich cod treth
- eich cyflog gros (dyma’ch cyflog cyn bod unrhyw dreth wedi’i thynnu)
- unrhyw Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol sydd wedi’u tynnu
- eich cyflog net (dyma’r swm rydych chi’n cael eich talu mewn gwirionedd)
Hefyd, bydd hyn yn dangos unrhyw arian rydych chi wedi’i dalu i bensiwn gweithle.
Mae’n syniad da i chi wirio’ch slip cyflog i wneud yn siŵr bod popeth yn edrych yn gywir. Os yw rhywbeth yn edrych i fod o’i le, siaradwch â’ch cyflogwr.
Awgrym defnyddiol:
Cadwch eich slipiau cyflog rhywle diogel. Efallai bydd angen i chi edrych drostyn nhw eto rywbryd os oes gennych chi gwestiwn am eich cyflog, faint o dreth sydd wedi’i dynnu, neu gwestiynau am eich cod treth.
Mae’n arferol i chi gael cod treth dros dro
Ar eich slip cyflog cyntaf mewn swydd newydd, efallai byddwch chi’n gweld bod mwy o dreth wedi’i thynnu nag oeddech chi’n ei disgwyl. Mwy na thebyg, mae’n golygu bod gennych chi god dreth dros dro (‘emergency tax code’).
Peidiwch â dychryn – mae hyn yn broses arferol ac nid oes angen i chi boeni dim. Y cyfan mae hyn yn ei olygu yw nad oes gan eich cyflogwr yr holl wybodaeth dreth amdanoch chi hyd yma.
Mae’n dal i fod angen i’ch cyflogwr dalu’ch cyflog i chi, felly mae’n defnyddio cod dros dro, sy’n golygu bod ychydig mwy o dreth yn cael ei thynnu nag sydd ei hangen mewn gwirionedd. Os ydych chi wedi gordalu treth, byddwch chi’n cael ad-daliad yn nes ymlaen.
Tri pheth mae angen i chi eu gwybod
- Yn eich swydd gyntaf – neu ar eich diwrnod cyntaf mewn swydd newydd – efallai bydd gennych chi god treth dros dro.
- Dim ond hyd nes bydd gennym ni’r holl wybodaeth dreth gywir amdanoch chi mae hyn, a bydd y cod yn newid i’r cod cywir unwaith bod hyn wedi digwydd.
- Byddwch chi’n cael eich arian yn ôl – fel arfer, byddwch chi’n cael eich talu mwy ar eich slip cyflog nesaf, neu byddwch chi’n cael ad-daliad yn uniongyrchol gennym ni.
Efallai bydd o ddefnydd i chi ddefnyddio ein rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn ar GOV.UK i wneud yn siŵr bod gan eich cyflogwr newydd eich holl fanylion cyn y diwrnod cyntaf pan fydd ef yn eich talu chi. Wedyn, gall eich cyflogwr roi’r cod treth cywir i chi o’r dechrau.
Pryd i feddwl am Ffurflenni Treth
Efallai eich bod chi wedi clywed am rywbeth o’r enw ‘Ffurflen Dreth’. Dyma’r ffordd rydyn ni’n gofyn i rai pobl roi gwybod i ni faint o incwm maen nhw’n ei gael bob blwyddyn. Yn gyffredinol, mae hon yn berthnasol i’r bobl ganlynol:
- pobl hunangyflogedig – fel gweithwyr llawrydd sy’n gweithio iddyn nhw eu hunain
- pobl sy’n cael arian o ffynonellau eraill ar wahân i’w swydd arferol, fel buddsoddiadau neu roi eiddo ar osod
Os ydych chi’n dechrau eich swydd gyntaf a dyma unig ffynhonnell eich incwm, fwy na thebyg fydd ddim angen i chi feddwl am lenwi un.
Ar y llaw arall, os ydych chi’n cael unrhyw incwm sydd ddim yn cael ei drethu drwy’r system TWE, bydd angen i chi roi gwybod i ni drwy lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu drwy ddefnyddio ein system Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Ewch i gael cip ar ein tudalennau ‘Hunanasesiad’ a ‘Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’. Maen nhw’n esbonio sut mae defnyddio’r ddau ddull hwn.
Mae’n arferol i’ch treth newid
Os ydych chi’n edrych dros eich slip cyflog ac yn sylwi bod y swm o dreth ac Yswiriant Gwladol rydych chi’n eu talu wedi newid, peidiwch â phoeni. Ar hyd eich bywyd yn y gwaith, gallai hyn ddigwydd am sawl rheswm gwahanol, er enghraifft:
- rydych chi wedi gweithio goramser ac felly mae’ch oriau wedi newid
- rydych chi wedi cael codiad cyflog
- rydych chi wedi dechrau neu stopio swydd arall
- rydyn ni wedi diweddaru eich cod treth
- rydych chi wedi cael taliad untro, fel bonws neu ôl-daliadau (‘back pay’)
- rydych chi wedi cael arian oddi wrth rywbeth ar wahân i’ch swydd
Ar bob achlysur, byddwn ni (neu’ch cyflogwr) yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’ch cod treth.
Os nad yw rhywbeth yn edrych yn gywir yn eich slip cyflog, siaradwch â’ch cyflogwr.
7 peth pwysig i’w cofio:
- Fel arfer, mae Yswiriant Gwladol a threth yn cael eu tynnu’n awtomatig drwy’r system TWE.
- Mae’ch cod treth yn dangos i’ch cyflogwr faint o dreth i’w gasglu.
- Gall y rhan fwyaf o bobl ennill £12,570 y flwyddyn, yn rhydd o dreth.
- Mae’n arferol iawn i chi gael cod treth dros dro.
- Fel arfer, mae Ffurflenni Treth i bobl hunangyflogedig – nid oes angen i’r rhan fwyaf o bobl yn eu swydd gyntaf lenwi un o’r rhain.
- Os byddwch chi’n talu gormod o dreth, byddwch chi’n ei chael hi yn ôl.
- Os yw rhywbeth yn edrych o’i le, siaradwch â’ch cyflogwr.
Mae dechrau gweithio yn gyfnod cyffrous a heriol. Ewch ati i achub y blaen drwy ddeall beth i gadw llygaid mas amdano ef pan fyddwch chi’n cael eich talu. Bydd hyn oll yn eich helpu chi i deimlo’n fwy hyderus pan fyddwch chi’n gweld eich slip cyflog cyntaf. Mae rhagor o wybodaeth am ddechrau swydd newydd ar gael ar GOV.UK.