Skip to main content

Treth yn y diwydiant trin gwallt a harddwch

 

Mae yna sawl ffordd wahanol o weithio yn y diwydiant trin gwallt a harddwch. Efallai fod salon yn eich cyflogi chi, efallai eich bod chi’n gweithio ar sail rhentu sedd (‘rent a chair’), neu efallai eich bod chi’n ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.

Mae’ch ffordd chi o weithio yn effeithio ar sut byddwch chi’n talu treth, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd amser i ddod i ddeall beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig?

Wrth ddelio â threth, rydych chi naill ai’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Eich ‘statws cyflogaeth’ yw’r enw ar hyn. Sut rydych chi’n gweithio mewn gwirionedd o ddydd i ddydd sy’n pennu’ch statws, nid dim ond yr hyn sydd yn eich contract.

Gwybod beth yw’ch statws cyflogaeth

Mae’n debygol eich bod chi’n gyflogedig os yw’r salon yn gwneud y canlynol:

  • mae’n pennu’ch oriau a diwrnodau gwaith
  • mae’n bwcio cleientiaid ar eich cyfer chi
  • mae’n rhoi eich cynnyrch i chi
  • mae’n pennu’ch tasgau yn y gwaith
  • mae’n talu cyflog sefydlog i chi
  • mae’n penderfynu pryd gallwch chi gymryd gwyliau

Byddai steilyddion sy’n gweithio amser llawn fel arfer yn dod o dan y grŵp hwn. Dylai prentisiaid i salonau gael eu hystyried yn gyflogedig bob tro.

Mae’n debygol eich bod chi’n hunangyflogedig os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • chi sy’n penderfynu ble a phryd byddwch chi’n gweithio
  • chi sy’n dod o hyd i’ch cleientiaid eich hun ac yn gosod eich prisiau eich hun
  • chi sy’n prynu eich cynnyrch a’ch offer eich hun
  • dim ond chi sy’n ennill arian pan fyddwch chi’n bwcio gwaith
  • chi sy’n cymryd eich taliadau eich hun

Mae enghreifftiau o bobl sydd fel arfer yn dod o dan y grŵp hwn yn cynnwys gweithwyr sy’n rhentu sedd, steilyddion symudol a therapyddion harddwch sy’n ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n gwybod beth yw’ch statws cyflogaeth, oherwydd bod cyflogeion a phobl hunangyflogedig yn talu trethi mewn ffyrdd gwahanol. Os yw rhywun wedi’i nodi’n hunangyflogedig ar gam (yn lle ei nodi’n gyflogedig), gallai’r person hwnnw – a’r busnes a wnaeth ei hurio – wynebu bil am dreth sydd heb gael ei thalu, llog ar ben y dreth honno a hyd yn oed dirwy.

Mae nifer o bobl yn y diwydiant trin gwallt a harddwch yn gweithio mewn cymysgedd o ffyrdd – efallai byddan nhw wedi’u cyflogi gan salon ac yn gweld cleientiaid preifat ar ben hynny. Os yw hyn yn wir amdanoch chi, mae’n debygol eich bod chi’n gyflogedig ac yn hunangyflogedig.

Awgrym defnyddiol:

Mae gennym ni offeryn ar-lein am ddim, o’r enw ‘Gwirio statws cyflogaeth ar gyfer treth’ ar GOV.UK, a all eich helpu i weithio hyn allan.

Os ydych chi’n gyflogedig, bydd eich salon neu eich cyflogwr yn delio â’ch treth ac Yswiriant Gwladol ar eich rhan. Byddan nhw’n tynnu’r rhain o’ch cyflog cyn i chi gael eich talu drwy’r system ‘Talu Wrth Ennill’ (neu TWE). Nid oes rhaid i chi wneud dim byd.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, bydd angen i chi ddelio â’ch treth ac Yswiriant Gwladol eich hun, ac efallai bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth aton ni.

Mae pobl sy’n hunangyflogedig yn anfon Ffurflen Dreth aton ni

Pan fyddwch chi’n gweithio i chi’ch hun, mae’r ffordd byddwch chi’n talu treth yn wahanol i dalu treth pan fyddwch chi’n gweithio i salon. Bydd angen i chi roi gwybod i ni faint o arian rydych chi wedi’i ennill bob blwyddyn. Wedyn, gallwn ni wneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir o dreth ac Yswiriant Gwladol.

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni am eich incwm, gallwch chi dynnu rhywfaint o’r arian gwnaethoch chi ei wario ar redeg eich busnes – er enghraifft offer neu filiau cyfleustodau (‘utility bills’). Dyma’ch ‘treuliau busnes’. Beth bynnag sydd ar ôl yw eich elw – dyma’r rhan y byddwch chi’n talu treth ac Yswiriant Gwladol arni.

Mae yna ddwy ffordd o anfon Ffurflen Dreth aton ni – drwy lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu drwy ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pa ffordd y bydd angen i chi ei defnyddio.

Peth pwysig i’w gofio:

Os ydych chi’n unig fasnachwr, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm ar fin newid. Enw’r cynllun newydd yw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Os ydych chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n gweithio’n wahanol i Hunanasesiad. Dylech chi wirio a yw’r rheolau gwahanol yn berthnasol i chi. Dysgwch a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun, pryd i ddechrau ei ddefnyddio, a sut i baratoi ar gyfer y newid drwy ymweld â’n tudalen ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

A gallwch chi ddysgu ragor am Hunanasesiad ar y dudalen hon.

Rheolau treth am gildyrnau (‘tips’)

Oherwydd eich bod chi’n gweithio yn y diwydiant trin gwallt a harddwch, gallech chi fod yn cael cildyrnau gan eich cwsmeriaid. Bydd y ffordd rydych chi’n cael y cildyrnau hyn yn pennu sut maen nhw’n cael eu trethu.

Os bydd eich cyflogwr yn talu’r cildyrnau hyn i chi (fel rhan o’ch cyflog), byddan nhw’n cael eu trin fel incwm o gyflogaeth, ac nid oes angen i chi wneud dim byd. Bydd unrhyw dreth sydd arnoch chi yn cael ei thynnu, neu ei ‘didynnu’ (‘deducted’), o’ch cyflog drwy’r system TWE cyn i’ch cyflogwr anfon taliad atoch chi.

Wedi dweud hyn, os cewch chi gildyrnau yn uniongyrchol gan gwsmer, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y rhain a thalu Treth Incwm arnyn nhw.

Gallwch chi ddysgu rhagor am sut a phryd i roi gwybod i ni am eich cildyrnau ar GOV.UK.

Dod i ddeall TAW wrth i’ch busnes ddatblygu

Treth Ar Werth (TAW) yw math o dreth sy’n cael ei hychwanegu at rai o’r pethau byddwn ni’n eu prynu. Fel arfer, bydd hyn wedi’i ychwanegu at y pris eisoes.

Ond, os mai chi sy’n pennu’r prisiau, sut mae hynny’n gweithio?

Os ydych chi’n hunangyflogedig, fydd dim angen i chi boeni am TAW nes bo’ch ‘trosiant’ (‘turnover’) yn fwy na £90,000 yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis olynol. Trosiant yw cyfanswm yr arian mae’ch busnes yn ei ennill o werthiannau, cyn i chi dynnu unrhyw dreth neu dreuliau. Bryd hynny, bydd angen i chi gofrestru gyda ni ar gyfer TAW.

Unwaith i chi gofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi ddechrau ychwanegu TAW at bris unrhyw gynnyrch neu wasanaethau rydych chi’n eu gwerthu. Gallwch chi ddysgu sut i wneud hyn – a chael gwybod am gyfnodau o 12 mis olynol – ar ein tudalen TAW.

Os ydych chi’n berchennog salon sy’n rhentu seddi, efallai y bydd angen i chi feddwl am ychwanegu TAW at eich ffi am rentu’r sedd.

Awgrym defnyddiol: 

Gall busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, hawlio TAW yn ôl. Hynny yw, y TAW maen nhw wedi ei gwario ar bethau ar gyfer eu busnes – er enghraifft, offer neu gyflenwadau (‘supplies’). Felly, hyd yn oed os nad ydych chi’n ennill mwy na £90,000 hyd yma, efallai hoffech chi gofrestru eich busnes gyda ni – y naill ffordd neu’r llall – er mwyn hawlio TAW yn ôl.

Gallwch chi ddysgu rhagor am y broses o gofrestru busnes ar gyfer TAW ar GOV.UK.

Magu’ch hyder o ran treth

Gall gwneud pethau’n iawn o’r dechrau eich helpu i osgoi unrhyw drafferthion yn nes ymlaen. Hefyd, mae’n golygu y bydd modd i chi ddechrau hawlio treuliau penodol yn gynharach os yw’n digwydd eich bod chi’n hunangyflogedig.

Awgrym defnyddiol: 

Gall fod o ddefnydd i chi siarad ag ymgynghorydd neu asiant treth sy’n gallu cynnig cyngor sy’n benodol i’ch busnes chi.

P’un a ydych chi’n dechrau arni, neu’n newid sut rydych chi’n gweithio, gallwn ni eich helpu i lenwi’r bylchau yn eich dealltwriaeth. Unwaith i chi wybod beth yw beth, gallwch chi gynllunio ymlaen llaw, neilltuo’r swm cywir o arian ar gyfer eich bil treth, a chanolbwyntio ar feithrin eich busnes neu eich gyrfa – a hynny â hyder.