Os ydych chi wedi dechrau swydd newydd, efallai eich bod chi’n rhy brysur yn cwrdd â phobl newydd, dysgu pethau newydd a hyd yn oed dod o hyd i’r lle gorau i gael cinio, i feddwl am dreth.
Ond mae’n bwysig meddwl am y peth oherwydd efallai bydd angen i chi roi gwybod i ni eich bod chi wedi newid swydd. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut i wneud hyn ar GOV.UK.
Bydd eich cyflogwr newydd fel arfer yn delio ag unrhyw newidiadau i’ch cyflog, a byddwch chi’n talu treth drwy ein system ‘Talu Wrth Ennill’ (neu TWE). Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae’n gweithio ar ein tudalen ‘TWE’.
Cyn dechrau ar eich swydd newydd, mae ychydig o bethau syml gallwch chi eu gwneud i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
Rhannu eich P45
Pan fyddwch chi’n gadael swydd i ddechrau un newydd, bydd eich hen gyflogwr yn rhoi dogfen i chi sy’n dangos faint rydych chi wedi’i ennill a faint o dreth rydych chi wedi’i dalu ers 6 Ebrill y flwyddyn honno. Eich P45 yw’r enw ar hyn.
Peth pwysig i’w gofio:
Mae gan eich P45 bedair rhan, a phob un â theitl clir. Mae un ar eich cyfer chi a’r tair arall i’w rhoi i’ch cyflogwr newydd. Mae darparu’r wybodaeth hon yn gwneud yn siŵr bod eich cyflogwr yn tynnu’r swm cywir o dreth bob tro cewch chi eich talu.
Os oes gennych chi eich P45 ond nad ydych chi wedi dechrau ar eich swydd newydd hyd yma, cadwch hi rywle diogel.
Os nad oedd eich hen gyflogwr wedi rhoi’r P45 i chi, gallwch chi gysylltu â’r hen gyflogwr a gofyn am ei chael hi.
Mae’n eithaf cyffredin i’ch hen gyflogwr aros nes i chi ddechrau yn eich swydd newydd cyn anfon eich P45 atoch chi. Unwaith bod gennych chi’r P45, rhowch hi i’ch cyflogwr newydd cyfle cyntaf.
Dim P45? Defnyddiwch restr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn (‘starter checklist’) yn lle hynny
Os na allwch chi gael eich P45, os nad yw’ch hen gyflogwr wedi’i rhoi hi i chi hyd yma, neu os ydych chi’n dechrau ar eich swydd gyntaf erioed – peidiwch â phoeni – mae ffordd arall o roi’r wybodaeth bwysig hon am eich treth i’ch cyflogwr newydd.
Awgrym defnyddiol:
Gallwch chi lenwi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn (‘starter checklist’) yn lle hynny. Mae’n cymryd ychydig funudau i’w llenwi ac yn gofyn rhai cwestiynau sylfaenol am eich amgylchiadau, er enghraifft ai’ch unig swydd yw hon, a ph’un a ydych chi wedi ennill unrhyw arian arall ers 6 Ebrill y flwyddyn honno.
Gallwch chi lenwi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn ar GOV.UK, neu gall eich cyflogwr roi fersiwn bapur i chi. Beth bynnag wnewch chi, bydd hyn yn helpu gwneud yn siŵr bod gennych chi’r ‘cod treth’ cywir o’r diwrnod cyntaf.
Cod treth cywir, treth gywir
Mae eich cod treth yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir o dreth. Mae’n gymysgedd o rifau a llythrennau sy’n dweud wrth eich cyflogwr newydd faint o’ch cyflog i’w anfon aton ni ar ffurf treth.
Pan fydd eich swydd, neu faint rydych chi’n ei ennill, yn newid, rydyn ni’n diweddaru’ch cod treth ac yn ei anfon at eich cyflogwr newydd.
Weithiau, nid ydyn ni’n cael eich gwybodaeth mewn pryd i osod y cod treth cywir. Os bydd hyn yn digwydd, gallen ni eich rhoi chi ar god treth dros dro (‘emergency tax code’) am gyfnod byr. Mae ‘emergency’ yn swnio’n frawychus, ond dyma’r broses arferol pan nad oes gennym ni ddigon o wybodaeth – ac unwaith bod trefn ar eich manylion a’ch bod chi ar y cod treth cywir, gallwn ni wirio nad ydych chi wedi talu gormod o dreth.
Awgrym defnyddiol:
Rhannwch eich P45 â’ch cyflogwr neu llenwch y rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn ar GOV.UK cyfle cyntaf. Bydd hi’n fwy tebygol gallwn ni roi’r cod treth cywir i chi o’r dechrau
Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae’r cyfan yn gweithio ar ein tudalen ‘Dod i ddeall eich cod treth’.
Gallwch chi wirio’ch manylion treth ar-lein
Fel arfer, bydd eich swydd newydd yn ymddangos ar eich cyfrif ar-lein tua chwe wythnos ar ôl i chi gael eich talu am y tro cyntaf. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ap CThEF i wirio bod popeth yn edrych yn iawn.
Awgrym defnyddiol:
Os byddwch chi’n gweld bod eich hen swydd yn dal i ymddangos ar eich cyfrif, neu fod gennym ni’r cyflog anghywir ar eich cyfer chi, gallwch chi ddiweddaru’r wybodaeth hon eich hun ar-lein. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd
Chi sy’n gyfrifol am gadw’r wybodaeth yn gywir
Mae’r system TWE wedi’i chynllunio i weithio heb i chi orfod gwneud dim – mae’ch cyflogwyr yn rhoi gwybod am faint rydych chi’n ei ennill, ac yna rydyn ni’n gweithio allan eich treth – ond drwy wirio’n achlysurol bod popeth yn edrych yn iawn, byddwch chi’n cadw’r cyfan o dan reolaeth.
Os ydych chi wedi newid swydd yn ddiweddar, cymerwch bum munud i wirio bod popeth yn ei le cyn mynd yn ôl at wneud beth rydych chi’n ei wneud orau.