Skip to main content

Ennill incwm ychwanegol drwy ‘brosiect pres poced’

P’un a ydych chi’n gwerthu pethau ar-lein, yn cerdded cŵn, yn dosbarthu pecynnau ar benwythnosau, neu’n gwneud unrhyw beth arall i ennill rhywfaint o arian ychwanegol, os nad yw’n rhan o’ch swydd arferol chi, efallai bydd angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn. Hefyd, efallai bydd angen i chi dalu treth arno ef.

Mae yna lwfans rhydd o dreth ar gyfer masnachu

Gall y rhan fwyaf o bobl ennill £1,000 o ‘brosiectau pres poced’ cyn bod angen iddyn nhw roi gwybod i ni amdanyn nhw. Dyma yw eich lwfans rhydd o dreth ar gyfer masnachu.

Os byddwch chi’n ennill dros £1,000 o brosiectau pres poced yn ystod blwyddyn dreth (sef 6 Ebrill i 5 Ebrill), bydd angen i chi roi gwybod i ni drwy ddefnyddio’r offeryn ar GOV.UK i wirio incwm.

Dim ond arian byddwch chi’n ei ennill dros eich lwfans masnachu o £1,000 byddwn ni’n codi treth arno ef. Hefyd, os byddwch chi’n gwario arian ar eich prosiectau pres poced, gallwch chi hawlio’r arian hwnnw yn ôl yn erbyn unrhyw dreth sydd arnoch chi. Wedi dweud hyn, allwch chi ddim hawlio treuliau a defnyddio’ch lwfans masnachu gyda’i gilydd. Mae’n rhaid i chi ddewis rhwng y naill neu’r llall.

Diagram yn dangos lwfans masnachu rhydd o dreth o £1,000 ar gyfer prosiectau pres poced, a bod incwm sy’n uwch na’r trothwy hwn yn drethadwy.

Awgrym defnyddiol:

Pan fyddwch chi’n llenwi’ch Ffurflen Dreth, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n adio pob un o’ch treuliau at ei gilydd cyn dewis i ddefnyddio’ch lwfans masnachu. Os yw’ch treuliau yn fwy na £1,000, efallai hoffech chi hawlio’r rhain yn hytrach na defnyddio’ch lwfans.

Mae’r rheolau ychydig yn fwy cymhleth i lwfansau masnachu ac eiddo. Dysgwch ragor am sut maen nhw’n gweithio ar GOV.UK.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae’r lwfans masnachu rhydd o dreth yn berthnasol i’ch prosiectau pres poced a’ch swyddi hunangyflogedig i gyd. Felly, os byddwch chi’n ennill arian o fwy nag un lle, bydd angen i chi adio’r rhain i gyd at ei gilydd i weld a yw cyfanswm eich incwm ychwanegol dros £1,000.

Dyma enghraifft:

Enillodd Jake £500 o ddosbarthu pecynnau.

Gwnaeth ef hefyd ennill £800 o werthu crefftau.

Enillodd Jake incwm ychwanegol o £1,300 yn ystod y flwyddyn honno, felly mae angen iddo ef lenwi Ffurflen Dreth.

Yn ystod y flwyddyn honno, fe wariodd Jake £400 ar ddeunyddiau crefftau a thanwydd. Dyma oedd ei dreuliau.

Oherwydd bod lwfans masnachu Jake yn fwy na’i dreuliau, penderfynodd hawlio hwnnw.

Mae Jake yn tynnu’r £1,000 oddi wrth y £1,300 enillodd ef. Fydd Jake ddim yn talu Treth Incwm ond ar y £300 sydd uwchben ei lwfans.

Enghraifft yn dangos un person â dau incwm o ddau brosiect pres poced, a’r trothwy o £1,000 ar gyfer incwm trethadwy.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu Treth Incwm ar y dudalen hon.

Mae yna lwfans rhydd o dreth ar gyfer eiddo

Gall y rhan fwyaf o bobl ennill £1,000 o incwm o eiddo cyn bod angen iddyn nhw roi gwybod i ni amdano fe. Dyma’ch lwfans rhydd o dreth ar gyfer eiddo.

Os byddwch chi’n ennill dros £1,000 o incwm o eiddo yn ystod blwyddyn dreth (sef 6 Ebrill i 5 Ebrill), bydd angen i chi roi gwybod i ni drwy ddefnyddio’r offeryn ar GOV.UK i wirio incwm.

Dim ond ar unrhyw arian sy’n uwch na’ch lwfans ar gyfer eiddo, sef £1,000, y byddwch chi’n talu treth. Hefyd, os byddwch chi wedi gwario unrhyw arian ar eich eiddo, gallwch hawlio’r arian hwnnw yn ôl yn erbyn unrhyw dreth sydd arnoch chi. Wedi dweud hyn, ni allwch chi hawlio treuliau a defnyddio’ch lwfans ar gyfer eiddo gyda’i gilydd. Mae’n rhaid i chi ddewis rhwng y naill neu’r llall.

Rhoi ystafell yn eich cartref ar osod

Opsiwn arall yw’r ‘Cynllun Rhentu Ystafell’. Os ydych chi’n rhoi ystafell sbâr – sydd â dodrefn ynddi – ar osod i rywun, mae hyn yn eich caniatáu i ennill hyd at £7,500 y flwyddyn o wneud hyn, yn rhydd o dreth. Mae’r cynllun hefyd yn berthnasol i ystafelloedd sy’n cael eu rhoi ar osod drwy blatfform ar-lein, ar yr amod mai ystafell yn eich prif gartref yw hi sydd â dodrefn ynddi hi eisoes.

Os yw rhywun arall hefyd yn cael rhent o roi’r un eiddo ar osod, caiff y swm rhydd o dreth ei haneru i £3,750.

Os ydych chi’n ennill mwy na £7,500 y flwyddyn o roi ystafell ar osod, bydd treth incwm yn ddyledus ac efallai y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth. Gallwch chi ddysgu sut i wneud hyn ar ein tudalennau ‘Hunanasesiad’ a ‘Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Peth pwysig i’w gofio:

Ni allwch chi ddefnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell ar gyfer unrhyw ystafell sydd heb ddodrefn ynddi.

Ni allwch chi ddefnyddio’ch lwfans rhydd o dreth ar gyfer eiddo i gwmpasu incwm sy’n uwch na’ch trothwy Cynllun Rhentu Ystafell, neu os ydych chi wedi dewis hawlio treuliau yn lle rhyddhad Cynllun Rhentu Ystafell.

Gallwch chi hawlio rhyddhad Cynllun Rhentu Ystafell ar gyfer incwm o osod ystafell yn eich cartref eich hunan, a hefyd hawlio’r lwfans rhydd o dreth ar gyfer eiddo yn erbyn incwm a gewch o osod eiddo arall.

Gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Rhentu Ystafell a ph’un a fydd ef yn addas i chi ar GOV.UK.

Rhoi eich dreif neu le parcio ar osod

Nid oes ystafell sbâr gan rai pobl, ond gallan nhw ddefnyddio rhywle y tu allan nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio er mwyn ennill rhywfaint o arian ychwanegol – fel lle parcio, dreif, neu storfa. Ac mae’r lwfans rhydd o dreth, gwerth £1,000, ar gyfer eiddo yn berthnasol i hyn hefyd. Mae hyn ar wahân i’ch lwfans rhydd o dreth ar gyfer masnachu o £1,000.

Peth pwysig i’w gofio:

Rhentu Ystafell yw gosod ystafelloedd – sydd â dodrefn ynddynt – yn eich cartref eich hunan. Mae lwfans eiddo ar gyfer unrhyw eiddo arall rydych chi’n berchen arno, gan gynnwys dreifiau ac ati.

Gwerthu eich eiddo personol eich hun

Peidiwch â phoeni – os byddwch chi’n ennill arian o werthu pethau nad ydych chi eu heisiau rhagor – er enghraifft clirio hen ddillad, dodrefn neu eitemau personol eraill rydych chi’n berchen arnyn nhw o bryd i’w gilydd – fel arfer nid oes angen i chi ddweud wrthon ni.

Ond os byddwch chi, er enghraifft, yn prynu pethau’n benodol er mwyn eu gwerthu nhw ac ennill arian arnyn nhw – a bod hyn yn fwy na £1,000 – yna mae angen i chi ddweud wrthon ni.

Dysgwch yn union beth sy’n berthnasol i chi

Awgrym defnyddiol:

Os nad ydych chi’n siŵr sut dylai’ch incwm ychwanegol gael ei drethu, edrychwch ar ein gwefan Cymorth Treth ar gyfer Prosiectau Pres Poced. Yno, mae offer syml i’ch helpu chi i wirio beth yw beth. Nid oes angen i chi roi unrhyw fanylion personol i ni chwaith.

Beth bynnag wnewch chi i ennill incwm ychwanegol, byddai o ddefnydd i chi gadw cofnod da o’r holl arian byddwch chi’n ei ennill, a’i gadw’n ddiogel – er enghraifft ar eich ffôn neu ar liniadur (‘laptop’). Os bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth yn nes ymlaen, bydd cael yr wybodaeth hon wrth law yn ei gwneud hi’n haws o lawer i chi.

Ac unwaith i chi wybod beth yw beth, gallwch chi fynd ati i ddechrau ar eich prosiect pres poced nesaf, gan deimlo’n hyderus o ran treth.