Pan fyddwch chi’n gweithio i chi’ch hun, mae’r ffordd byddwch chi’n gweithio allan eich treth chi, a’i thalu, ychydig yn wahanol i swyddi eraill. Gwir dweud, efallai dyma’r newid mwyaf bydd angen i chi ddod i’w ddeall.
Nid oes dim i boeni amdano – byddwn ni’n esbonio fel mae popeth yn gweithio.
Mae treth yn wahanol os ydych chi’n hunangyflogedig
Pan ydych chi’n gyflogedig, mae eich cyflogwr yn tynnu treth oddi wrth eich cyflog cyn eich talu chi. Caiff hyn ei wneud yn awtomatig drwy system o’r enw ‘Talu Wrth Ennill’ (neu TWE). Gallwch ddarllen rhagor am hyn ar ein tudalen ‘TWE’. Yn y bôn, byddwn ni’n gweithio allan faint o dreth sydd arnoch chi ar eich rhan.
Pan ydych chi’n hunangyflogedig, nid oes neb yn gweithio hyn allan i chi. Yn hytrach, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni faint o arian rydych chi’n ei ennill drwy lenwi Ffurflen Dreth. Mae’n eich helpu chi i weithio allan faint o dreth allai fod arnoch chi. Yna, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi sut i’w thalu ac erbyn pryd.
Er gallai hynny godi braw, mae dros 12 miliwn o bobl yn y DU yn ei wneud. Trwy ddod i ddeall y sylfeini, gallwch chi wir eich helpu eich hun i ddelio â phethau.
Sut i lenwi Ffurflen Dreth
Mae yna ddwy ffordd wahanol o lenwi Ffurflen Dreth: llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thrwy ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Dim ond un o’r rhain sydd angen i chi ei wneud ar gyfer incwm eich busnes.
Sut mae Hunanasesiad yn gweithio
- Byddwch chi’n llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad unwaith y flwyddyn
- Byddwch chi’n cynnwys cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth sydd dan sylw (6 Ebrill i 5 Ebrill), a chostau unrhyw dreuliau busnes penodol – fel tanwydd a biliau ffôn
- Os byddwch chi’n llenwi’ch Ffurflen Dreth ar-lein, cewch chi weld faint o dreth sydd arnoch chi ar gyfer y flwyddyn dreth honno
Gallwch chi ddysgu rhagor am lenwi’r math hwn o Ffurflen Dreth ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych chi’n unig fasnachwr, neu’n ennill arian o eiddo, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm yn newid. Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yw’r enw ar hyn. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026.
Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn gweithio’n wahanol i Hunanasesiad. Dylech chi wirio a yw’r rheolau gwahanol yn berthnasol i chi. Dysgwch a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun hwn, pryd i ddechrau ei ddefnyddio, a sut i baratoi ar gyfer y newid drwy ymweld â’n tudalen ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.
Dod o hyd i’r holl help sydd ei angen arnoch chi
Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Gwych. Fe awn ni â chi drwy bopeth – o gofrestru gyda ni, i ddeall eich Ffurflen Dreth gyntaf. Dysgwch ragor yma ar GOV.UK.