Skip to main content

Pan fyddwch chi’n dechrau bod yn gyflogwr

Mae’n gam enfawr ymlaen pan fyddwch chi’n cymryd eich cyflogai cyntaf o dan eich adain, ac mae’n arwydd bod eich busnes yn datblygu.

Mae hefyd yn golygu bydd angen i chi ddod yn gyfarwydd â rhai tasgau newydd. Byddwn ni’n edrych ar beth sydd angen ei wneud, cam wrth gam.

Casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol

Byddwch chi’n camu i rôl newydd pan fyddwch chi’n cyflogi rhywun. Bydd angen i chi ddechrau casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o’i gyflog ac yna anfon y rhain aton ni.

‘Rhedeg y gyflogres’ (‘running payroll’) yw’r enw ar hyn. Mae’n gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n gweithio i chi yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol.

Rydyn ni’n casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy system, o’r enw ‘Talu Wrth Ennill’ (neu ‘TWE’). Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Beth yw TWE?’.

Peidiwch â phoeni, fydd ddim angen i chi wneud y gwaith mathemateg ar eich pen eich hun. Byddwn ni’n esbonio rhagor am sut mae’r gyflogres yn gweithio yn nes ymlaen.

Fe fyddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol y Cyflogwr hefyd

Nid tynnu treth ac Yswiriant Gwladol oddi wrth gyflogau eich gweithwyr yw’r unig beth sydd angen i chi ei wneud. Bydd angen i chi dalu eich Yswiriant Gwladol Cyflogwr eich hun hefyd, ar ben beth byddwch chi’n talu iddyn nhw.

15% yw’r gyfradd bresennol ar gyfer Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Byddwch chi’n talu hyn ar enillion unrhyw gyflogeion sy’n fwy na £96 yr wythnos (neu £5,000 y flwyddyn).

Bydd eich meddalwedd gyflogres yn gweithio allan y swm sydd angen i chi ei dalu. Wedyn, bydd y swm hwn yn cael ei adio at y cyfanswm byddwch chi’n ei dalu i ni bob mis neu bob chwarter.

Gallwch chi ddysgu rhagor drwy ymweld â’n tudalen ‘Deall TWE ac Yswiriant Gwladol y Cyflogwr’.

Bydd angen i chi gofrestru fel cyflogwr

Cyn i chi dalu eich cyflogai am y tro cyntaf, bydd angen i chi gofrestru fel cyflogwr gyda ni.

Awgrym defnyddiol:

Gall y broses hon gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith, felly mae’n syniad da i chi gael eich hun yn barod mewn pryd.

Gallwch chi gofrestru fel cyflogwr ar GOV.UK. Unwaith i chi wneud hynny, byddwn ni’n anfon rhif cofrestru TWE atoch chi.

Pryd i gofrestru

Nid oes angen i bob cyflogwr gofrestru fel cyflogwr a threfnu TWE yn syth. Wedi dweud hyn, fe fydd angen i chi wneud hyn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i’ch cyflogai yn ystod y flwyddyn dreth bresennol:

  • byddwch chi’n talu £96 neu fwy i’ch cyflogai bob wythnos
  • mae’r cyflogai yn cael treuliau neu fuddiannau gennych chi, fel car cwmni
  • mae gan y cyflogai swydd arall
  • mae’r cyflogai yn cael Lwfans Ceisio Gwaith
  • mae’r cyflogai yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • mae’r cyflogai yn cael Budd-dal Analluogrwydd

Mae’r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill.

Peth pwysig i’w gofio:

Hyd yn oed os nad oes angen i chi gofrestru, dylech chi gadw cofnodion sy’n berthnasol i’r gyflogres i’ch helpu chi gyda rheoli treth eich cwmni.

Bydd meddalwedd gyflogres yn gwneud rhan fwyaf o’r gwaith caib a rhaw

Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnes yn cytuno mai’r ffordd fwyaf hwylus o redeg eu cyflogres nhw yw trwy ddefnyddio meddalwedd. Bydd hi’n gweithio mas faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol bydd angen i chi ei dalu – a bydd hi hefyd yn creu’r adroddiad cyflogres bydd angen i chi ei anfon aton ni.

Awgrym defnyddiol:

Os ydych chi’n ansicr am ddelio â chyflogres eich hun, gallwch chi wastad dalu rhywun fel cyfrifydd neu ddefnyddio cwmni cyflogres i ddelio â’r gyflogres ar eich rhan.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae ambell feddalwedd gyflogres sylfaenol am ddim, ond bydd angen i chi dalu am y rhai eraill. Gallwch chi ddod o hyd i restr o feddalwedd sy’n gweithio gyda’n system TWE ar GOV.UK.

Pryd bydd angen i chi ddechrau anfon adroddiadau

Bob tro byddwch chi’n rhedeg y gyflogres, bydd angen i chi anfon adroddiad aton ni. Bydd hyn yn rhoi gwybod i ni faint rydych chi wedi’i dalu i’ch cyflogai (neu gyflogeion) a faint o dreth rydych chi wedi’i thynnu oddi wrth ei gyflog. Mae’n rhaid i chi anfon yr adroddiad hwn ar bob diwrnod cyflog, neu cyn hynny.

Fydd ddim angen i chi lenwi unrhyw ffurflenni. Bydd eich meddalwedd gyflogres yn gwneud y cyfan i chi, ac wedyn yn anfon yr adroddiad aton ni’n syth.

Talu’r arian rydych chi wedi’i gasglu i ni

Unwaith i chi dynnu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol oddi wrth gyflogau’ch cyflogai, bydd angen i chi anfon yr arian hwn aton ni – ynghyd â’ch Yswiriant Gwladol Cyflogwr eich hun.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn gwneud hyn bob mis. Ond, os ydych chi’n credu bydd arnoch chi lai na £1,500, gallwch chi wastad ofyn i ni p’un a gewch chi dalu’r arian bob 3 mis yn lle.

Gallwch chi wirio faint sydd arnoch chi a rheoli taliadau ar-lein ar GOV.UK yn hawdd neu ar ap CThEF hefyd.

Bydd angen yswiriant arnoch chi

Nawr ein bod ni wedi trafod y gyflogres, nesaf bydd angen i chi daclo yswiriant. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid bod gennych chi rywbeth, o’r enw ‘yswiriant Rhwymedigaeth Cyflogwyr’ (‘Employers’ Liability insurance’), o’r eiliad byddwch chi’n cyflogi rhywun.

Bydd hyn yn eich diogelu chi pe byddai’r cyflogai yn mynd yn sâl, neu pe byddai’r cyflogai’n cael anaf oherwydd ei waith.

Peth pwysig i’w gofio:

Gallech chi wynebu dirwy o £2,500 am bob diwrnod nad oes gennych chi’r yswiriant hwn.

Mae’n rhaid bod eich yswiriant yn gallu cynnig o leiaf £5 miliwn at unrhyw achosion posibl. Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yn gallu cynnig £10 miliwn, a gallwch chi brynu yswiriant o’r fath gan sawl cwmni yswirio busnesau. Gallwch chi ddysgu ragor am yswiriant Rhwymedigaeth Cyflogwyr ar GOV.UK.

Mae’n rhaid i chi gynnig pensiwn gweithle

Fel cyflogwr, bydd angen i chi roi unrhyw un sy’n gweithio i chi mewn pensiwn gweithle os yw’r canlynol yn wir amdanyn nhw:

  • maen nhw rhwng 22 mlwydd oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • ac maen nhw hefyd yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn

Peth pwysig i’w gofio:

Ar hyn o bryd, gall pobl ddechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddan nhw’n troi’n 66 blwydd oed. Bydd hyn yn cynyddu i 67 mlwydd oed rhwng 2026 a 2028.

Byddwch chi’n talu arian i bensiynau eich cyflogeion, a bydd eich cyflogeion yn cyfrannu at eu pensiwn hefyd. Mae’n rhaid i chi dalu 3% o’u henillion ar y lleiaf – mae hynny’n cynnwys cyflogau, bonysau, goramser a mwy.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac offer i’ch helpu chi gyda rhoi hyn yn ei le ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Dylech gynllunio i dalu mwy na dim ond y cyflogau

Cyn cymryd rhywun o dan eich adain, mae’n syniad da i chi wirio a allwch chi fforddio’r costau llawn o wneud hyn.

Gall y costau hyn gynnwys:

  • ei gyflogau (o leiaf Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw Cenedlaethol)
  • eich Yswiriant Gwladol fel Cyflogwr
  • pensiwn y gweithle
  • yr arian bydd angen i chi dalu iddo ef os byddai’n rhy sâl i weithio
  • yr arian bydd angen i chi dalu iddo ef os byddai’n mynd ar absenoldeb i rieni ar ôl cael babi

Mae dechrau arni’n symlach nag yw’n disgwyl

Mae cymryd rhywun o dan eich adain yn golygu byddwch chi’n gorfod gwneud ambell dasg ychwanegol, ond mae miloedd o fusnesau bach yn llwyddo i wneud hyn yn ddiffwdan bob dydd. Ac yn y pen draw, bydd hyn – rydyn ni’n gobeithio – yn eich rhyddhau chi i weithio ar elfennau eraill o’ch busnes.

Dyma 4 peth pwysig i’w gofio wrth ddechrau arni:

  • cofrestru gyda ni fel cyflogwr
  • dewis eich meddalwedd gyflogres neu ddefnyddio gwasanaeth cyflogres
  • rhedeg y gyflogres ac anfon adroddiad aton ni bob diwrnod cyflog
  • talu beth sydd arnoch chi i ni bob mis neu bob chwarter

Mae cymryd eich cyflogai cyntaf o dan eich adain yn adeg wych, sy’n dangos bod eich busnes ar gynnydd. Gyda’r trefniadau cywir, bydd delio â threth eich cyflogai yn fuan yn dod yn rhan arall o arferion eich busnes wrth i chi ei redeg ef. Dysgwch am bopeth sydd angen i chi ei wneud cyn cyflogi rhywun ar GOV.UK.