Skip to main content

Deall TWE ac Yswiriant Gwladol y Cyflogwr

 

Mae’n achlysur mawr pan fyddwch chi’n cymryd eich cyflogai cyntaf o dan eich adain. 

Mae hyn yn golygu bod eich busnes chi’n datblygu. Ond, mae hefyd yn golygu bydd angen i chi ddelio â rhai trethi newydd. Unwaith i chi ddod i ddeall y sylfeini, dylai’r cyfan wneud synnwyr.

Gadewch i ni edrych ar beth sydd angen ei wneud, cam wrth gam.

Bach o gefndir yn gyntaf

Pan fyddwch chi’n talu pobl sy’n gweithio i chi, nid mater o roi eu cyflog iddyn nhw a dyna fe. Cyn i chi anfon taliadau iddyn nhw, bydd angen i chi hefyd dynnu rhywfaint o arian oddi wrth eu cyflogau a’i anfon ef atom ni.  

‘Rhedeg y gyflogres’ (‘running payroll’) yw’r enw ar hyn. Mae’n gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n gweithio i chi yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol i ni.

Byddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol ar ffurf ‘cyfraniadau’. Hefyd, fel cyflogwr, bydd angen i chi wneud y rhain eich hun.

Byddwn ni’n casglu treth drwy’r system TWE

Rydyn ni’n casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy system, o’r enw ‘Talu Wrth Ennill’ (neu ‘TWE’).

Pan fyddwch chi’n gyflogwr, byddwn ni’n anfon ‘cod treth’ atoch chi ar gyfer pob un o’ch cyflogeion (‘employees’). Byddwch chi wedyn yn gwybod faint o Dreth Incwm i’w thynnu oddi wrth eu cyflogau. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Deall eich cod treth’.

Hefyd, bydd y system TWE yn gweithio mas faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol bydd angen i chi eu cymryd. Gallwch chi ddysgu ragor am Yswiriant Gwladol ar GOV.UK.

Wedyn, byddwch chi’n anfon yr arian rydych chi wedi’i gasglu atom ni, gan gynnwys eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwr eich hun. Bydd eich cyflogeion wedyn yn cadw’r gweddill.

Pryd i gofrestru gyda ni ar gyfer TWE

Bydd angen i chi gofrestru gyda ni fel cyflogwr os bydd un o’r pethau canlynol yn berthnasol:

  • mae cyflogai yn ennill £96 neu fwy’r wythnos
  • mae’r cyflogai yn cael treuliau neu fuddiannau gennych chi, fel car cwmni
  • mae gan y cyflogai swydd arall eisoes
  • mae’r cyflogai yn cael pensiwn gennych chi

Gallwch chi ddysgu rhagor am beth sydd angen i chi ei wneud os byddwch chi’n rhoi treuliau a buddiannau i’ch cyflogeion ar GOV.UK.

Peth pwysig i’w gofio: 

Gallwch chi gofrestru fel cyflogwr ar GOV.UK. Bydd angen i chi wneud hyn cyn y diwrnod pan fyddwch chi’n talu eich cyflogai am y tro cyntaf – a gall y broses gymryd hyd at 15 diwrnod.

Unwaith eich bod chi wedi cofrestru gyda ni fel cyflogwr, gallwch chi ddefnyddio gwasanaeth TWE Ar-lein ar GOV.UK i gadw ar ben eich pethau. Mae’n eich galluogi chi i wneud y canlynol:

Defnyddio meddalwedd gyflogres fasnachol i ddelio â’r ffigurau

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn defnyddio meddalwedd gyflogres fasnachol i weithio allan faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol dylech chi fod yn eu tynnu oddi wrth gyflogau eu cyflogeion. Mae’r feddalwedd yn defnyddio’r codau treth rydyn ni wedi’u rhoi i chi er mwyn gwneud y gwaith mathemateg ar eich rhan chi.

Awgrym defnyddiol:  

Os oes gan eich busnes lai na 10 o weithwyr, gallwch chi gael offer TWE sylfaenol yn rhad ac am ddim gennym ni ar GOV.UK. Os oes gennych chi gwmni mwy o faint neu os hoffech chi gael cymorth pellach, mae yna ddigon o offer meddalwedd ar gael am dâl hefyd.

Sut a phryd i anfon taliadau atom ni

Bydd angen i chi dalu eich bil TWE erbyn yr 22ain o bob mis, ar ôl diwedd y mis treth diwethaf. 

Dyma beth mae hynny’n ei olygu

Mae misoedd treth yn rhedeg o’r 6ed i’r 5ed o bob mis. Bydd angen i chi dalu’ch bil TWE i ni erbyn 22 Mai ar gyfer unrhyw gyflogau byddwch chi’n eu talu rhwng 6 Ebrill a 5 Mai. 

Yr arian byddwch chi’n ei anfon atom ni fydd y Dreth Incwm a’r Yswiriant Gwladol rydych chi wedi’u casglu gan eich cyflogeion, yn ogystal â’ch Yswiriant Gwladol Cyflogwr eich hun. Byddwn ni’n esbonio rhagor am hyn yn nes ymlaen.

Peth pwysig i’w gofio: 

Os ydych chi’n credu bydd arnoch chi lai na £1,500 y mis i ni, gallwch chi ofyn am gael talu unwaith bob 3 mis yn lle bob mis.

Gallwch chi dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, drwy fancio ar-lein, neu drwy’ch cyfrif treth busnes. Fel arfer, Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf i ni gasglu beth sydd arnoch chi yn awtomatig.

Anfon adroddiad atom ni ochr yn ochr â phob cyflogres

Bob tro byddwch chi’n talu eich cyflogeion, bydd angen i chi anfon adroddiad atom ni. Gwybodaeth Amser Real yw’r enw ar hyn, neu RTI. Peidiwch â phoeni. Bydd eich meddalwedd gyflogres yn gwneud hyn ar eich rhan.

Enw ar yr adroddiad llawn yw ‘Cyflwyniad Taliadau Llawn’ (‘Full Payment Submission’ neu ‘FPS’). Tipyn o lond ceg. Ond, yn syml, mae’n rhoi gwybod i ni beth rydych chi wedi’i dalu i bob cyflogai a faint o arian rydych chi wedi’i dynnu ar ffurf Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. 

Mae angen i chi anfon yr adroddiad hwn atom ni ar bob diwrnod byddwch chi’n talu eich cyflogeion neu cyn y diwrnod hwnnw.

Fe fyddwch chi’n talu Yswiriant Gwladol y Cyflogwr hefyd

Nid tynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o gyflogau eich gweithwyr sydd angen i chi ei wneud. Mae’ch busnes angen talu Yswiriant Gwladol y Cyflogwr hefyd, ar ben beth byddwch chi’n talu iddyn nhw. Dyma rywbeth a allai baglu rhai cyflogwyr newydd. Felly, mae angen i chi gynllunio’ch arian gan ystyried hyn.

15% yw’r gyfradd bresennol ar gyfer Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Byddwch chi’n talu hyn ar enillion unrhyw gyflogeion sy’n fwy na £96 yr wythnos (neu £5,000 y flwyddyn).

Dyma enghraifft i chi

Rydych chi’n talu cyflogai £500 yr wythnos. Nid oes angen i chi dalu unrhyw Yswiriant Gwladol ar y £96 gyntaf. Ond rydych chi’n talu 15% ar y swm sy’n weddill, sef £404. Felly, rydych chi’n talu Yswiriant Gwladol y Cyflogwr o £60.60 yr wythnos ar gyfer y cyflogai hwnnw.

Enghraifft yn dangos Yswiriant Gwladol y Cyflogwr sydd wedi’i weithio mas i fod yn 15% yn uwch na’r trothwy o £96 yr wythnos.

Peth pwysig i’w gofio: 

Mae’r arian hwn yn dod o’ch busnes chi, nid pecyn cyflog eich gweithiwr chi. Fydd hyn ddim yn ymddangos ar ei slip cyflog felly. Wedi dweud hyn, bydd yn dal i fod angen i chi dalu’r arian i ni ynghyd â’r Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi’u tynnu oddi wrth ei gyflog.

Mae yna Lwfans Cyflogaeth ar gael

Efallai bydd modd i chi gael help ychwanegol gyda chostau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr. Waeth beth yw maint eich cwmni, efallai bydd modd i chi hawlio gostyngiad o hyd at £10,500 drwy beth rydyn ni’n ei alw’n ‘Lwfans Cyflogaeth’.

Gallwch chi hawlio’r lwfans hwn yn uniongyrchol drwy’ch meddalwedd gyflogres. Wedyn, byddwn ni’n tynnu’r lwfans oddi wrth eich Yswiriant Gwladol Cyflogwr hyd nes byddwch chi wedi defnyddio’r lwfans i gyd, neu fod y flwyddyn dreth yn gorffen.

Allwch chi hawlio’r lwfans os ydych chi’n gwmni cyfyngedig ag un cyfarwyddwr a dim cyflogeion eraill sy’n ennill mwy na £5,000, neu os ydych chi’n awdurdod cyhoeddus sydd ddim yn elusen.

Gallwch chi ddysgu rhagor am Lwfans Cyflogaeth ar GOV.UK.

Cael pethau’n gywir o’r dechrau’n deg

Gallai rhedeg y gyflogres ddisgwyl fel dipyn i’w wneud pan fyddwch chi newydd ddechrau. Ond unwaith i chi osod popeth yn ei le, fe fyddwch chi’n cael hwyl arni’n fuan iawn wedi hynny. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd gyflogres yn eich tywys chi drwy’r camau.

Pedair neges atgoffa yn trafod cofrestru ar gyfer TWE, meddalwedd gyflogres, dyddiadau cau ar gyfer adroddiadau a goblygiadau o ran talu.

Rydych chi wedi recriwtio mwy o bobl oherwydd bod eich busnes yn ffynnu. Nawr bod gennych chi ddealltwriaeth o sylfeini TWE ac Yswiriant Gwladol y Cyflogwr, gallwch chi fynd yn ôl at beth rydych chi’n ei wneud orau – rhedeg eich busnes.

Gallwch chi ddysgu rhagor am baratoi eich hun ar gyfer cyflogi rhywun am y tro cyntaf ar GOV.UK.