Skip to main content

Cymorth ariannol pan gewch chi blant

 

Mae yna lawer o newidiadau pan gewch chi blentyn. Mae llawer o’r rhain yn gyffrous iawn, wrth gwrs, ond mae rhai newidiadau yn gallu peri pryder – fel newidiadau i’ch sefyllfa ariannol.

Rydyn ni yma i’ch helpu chi a chynnig cymorth ariannol i deuluoedd, fel Budd-dal Plant. Darllenwch ymlaen i ddysgu sut mae’n gweithio.

Taliadau Budd-dal Plant rheolaidd

Mae Budd-dal Plant yn swm rheolaidd o arian byddwch chi’n ei gael, yn rhydd o dreth, am bob plentyn byddwch chi’n gyfrifol amdanyn nhw o dan 16 oed. A dweud y gwir, os bydd eich plentyn yn parhau mewn rhai mathau o addysg neu hyfforddiant, gallwch chi barhau i gael eu taliadau Budd-dal Plant nes byddan nhw’n troi’n 20 oed. Byddwn ni’n esbonio rhagor am hyn yn nes ymlaen.

Ar hyn o bryd, byddwch chi’n cael £27.05 yr wythnos am eich plentyn cyntaf, neu’ch unig blentyn, a thaliad ychwanegol o £17.90 yr wythnos am bob plentyn arall. Hefyd, nid oes terfyn ar nifer y plant gallwch chi hawlio ar eu cyfer.

Gallwch chi hawlio Budd-dal Plant ar GOV.UK neu ar ap CThEF.

Mae Budd-dal Plant yn cyfri tuag at eich Yswiriant Gwladol

Mae Budd-dal Plant yn cyfri tuag at eich cofnod Yswiriant Gwladol. Felly, os byddwch chi’n hawlio Budd-dal Plant – hyd yn oed os byddwch chi’n dewis peidio â chael taliadau – fe gewch chi gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig hyd at ben-blwydd eich plentyn yn 12 oed. Bydd hyn yn diogelu’ch Pensiwn y Wladwriaeth os nad ydych chi’n gweithio ac yn digwydd methu cyfraniadau yn y dyfodol. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Yswiriant Gwladol’.

Hawlio Budd-dal Plant pan fo gennych chi gyflog uwch

Efallai byddwn ni’n codi tâl arnoch chi os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol o fwy na £60,000 y flwyddyn, a’ch bod chi’n dal i gael taliadau Budd-dal Plant.

Peth pwysig i’w gofio:

Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (‘High Income Child Benefit Charge’ neu ‘HICBC’) yw’r enw ar hyn – tâl sy’n adennill rhywfaint o’r Budd-dal Plant rydych chi wedi’i gael, neu’r cyfan ohono ef.

Nid yw’r tâl yr un peth i bawb – mae’n dibynnu ar eich incwm. Byddwch chi’n talu 1% o’ch Budd-dal Plant yn ôl am bob £200 o’ch incwm sydd dros £60,000. Ond os byddwch chi neu’ch partner yn ennill £80,000 neu fwy, byddwch chi’n talu’r swm llawn yn ôl.

Graff llinell yn dangos y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. 

Rydych yn talu 1 y cant o Fudd-dal Plant yn ôl am bob £200 o incwm dros £60,000

Rydych yn talu 1 y cant yn ôl os yw incwm chi neu incwm eich partner yn £60,000, 50 y cant os yw’n £70,000, a 100 y cant os yw’n £80,000 neu fwy.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallwch chi wneud y canlynol:

  • dewis i gael y taliadau o hyd a thalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
  • optio allan o gael taliadau – ond parhau i gael credydau Yswiriant Gwladol
Diagram yn dangos yr opsiynau i bobl sy’n ennill mwy o arian: ad-dalu’r tâl neu optio allan ond parhau i gadw’r credydau.

Awgrym defnyddiol:

Os nad ydych chi eisiau talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, naill ffordd neu’r llall, mae’n dal i fod o werth i chi hawlio Budd-dal Plant ac optio allan o gael y taliadau. Mae hyn yn diogelu’ch cofnod Yswiriant Gwladol. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.

Mae Budd-dal Plant yn parhau yn ystod addysg bellach

Bydd Budd-dal Plant yn dod i ben yn awtomatig ar 31 Awst ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed. Ond, os yw’ch plentyn wedi dewis aros mewn math penodol o addysg neu hyfforddiant, efallai byddwch chi’n gallu parhau i hawlio Budd-dal Plant nes bod eich plentyn yn troi’n 20 oed.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Eiconau yn dangos y mathau o addysg sy’n gymwys, gan gynnwys Lefel A, Lefelau T, TGAU a chyrsiau galwedigaethol.

Bydd angen i’ch plentyn astudio fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd, oni bai bod ganddo salwch neu anabledd sy’n golygu bod angen iddo astudio lai na hynny.

Peth pwysig i’w gofio:

Mae angen i chi roi gwybod i ni fod eich plentyn yn parhau â’i addysg i allu cael Budd-dal Plant o hyd. Byddwn ni’n cysylltu â chi yn ystod blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol i ofyn am ei gynlluniau. Mae’n gyflym ac yn hawdd i chi ymestyn eich Budd-dal Plant drwy ap CThEF.

Gallwch chi ddysgu sut mae Budd-dal Plant yn gweithio pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 ar GOV.UK.

Mae newidiadau i’ch teulu yn effeithio ar Fudd-dal Plant

Mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau teuluol neu ariannol yn newid. Gall hyn effeithio ar eich taliadau Budd-dal Plant neu olygu bod angen i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel – y tâl gwnaethon ni ei grybwyll gynnau.

Peth pwysig i’w gofio:

Dim ond un person sy’n gallu hawlio Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw un plentyn. Os bydd eich teulu’n gwahanu, fel arfer y prif ofalwr sy’n cael y taliad. Os ydych chi’n rhannu’r gofal, bydd angen i chi benderfynu pwy ddylai hawlio. Os na allwch chi gytuno, byddwn ni’n penderfynu gan ddefnyddio ystod o wybodaeth.

Mae’n rhaid i’r person sy’n hawlio Budd-dal Plant fyw gyda’r plentyn, neu gyfrannu o leiaf yr un faint â’r Budd-dal Plant y byddai’n ei dderbyn ar gyfer y plentyn hwnnw.

Os ydych chi’n deulu cymysg (‘blended family’), bydd angen i chi roi gwybod i ni. Bydd eich cartref yn cael ei ystyried yn un uned, felly dim ond un person all hawlio’r gyfradd uwch o Fudd-dal Plant ar gyfer y plentyn hynaf yn y teulu cymysg. Bydd angen i chi ddiweddaru unrhyw hawliadau am Fudd-dal Plant sydd gennych chi eisoes.

Gallwch chi ddysgu rhagor am newidiadau i’ch bywyd sy’n effeithio ar eich Budd-dal Plant ar GOV.UK.

Mae dechrau arni’n syml

Gallwch chi hawlio, diweddaru eich manylion, neu roi gwybod am unrhyw newidiadau ar GOV.UK neu drwy ap CThEF.

Os yw eich incwm yn fwy na £60,000 y flwyddyn, gallwch chi hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell ar-lein ar GOV.UK i weithio allan faint o’ch Budd-dal Plant mae’n bosibl bydd angen i chi ei dalu yn ôl.