Os ydych chi’n gweithio mewn mwy nag un swydd i ennill arian, nid ydych ar eich pen eich hun. Yn y DU, mae gan filiynau o bobl swydd arall ochr yn ochr â’u prif swydd.
Efallai bod gennych chi swydd dros y penwythnos neu waith gyda’r nos i ennill rhywfaint o arian ychwanegol.
Pa bynnag ffordd wnewch chi ennill yr arian hwn, mae ychydig o bethau sydd werth i chi eu gwybod i’ch helpu chi i gadw trefn ar eich sefyllfa dreth a’ch Yswiriant Gwladol.
Mae eich prif swydd yn defnyddio’ch Lwfans Personol
Mae hawl gan y rhan fwyaf o bobl i ennill hyn a hyn o incwm bob blwyddyn heb dalu unrhyw dreth arno ef. Eich Lwfans Personol rhydd o dreth yw’r enw ar hyn – a’r swm arferol yw £12,570.
Fel arfer, mae’ch Lwfans Personol o £12,570 yn cael ei neilltuo i’ch prif swydd – sef yr un sy’n talu’r mwyaf i chi. Mae hyn yn golygu byddwch chi’n talu Treth Incwm ar bopeth byddwch chi’n ei ennill yn eich swyddi eraill.
Efallai bod gennych chi ddwy swydd sy’n talu llai na £12,570 yr un. Os bydd hynny’n digwydd, gallwch chi ofyn i ni rannu’ch Lwfans Personol rhyngddyn nhw.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio ar ein tudalen ‘Beth yw Lwfans Personol rhydd o dreth?’
Peth pwysig i’w gofio:
Mae’r Lwfans Personol hwn sy’n rhydd o dreth ar gael fesul person, nid fesul swydd. Felly, dim ond un Lwfans Personol byddwch chi’n ei gael, hyd yn oed os oes gennych chi fwy nag un swydd.
Nid yw mwy o swyddi yn golygu mwy o dreth
Mae faint o Dreth Incwm rydych chi’n ei dalu yn seiliedig ar eich holl incwm wedi’i adio at ei gilydd, nid ar sail nifer y swyddi sydd gennych chi.
Er enghraifft, gallech chi ennill £25,000 o un swydd, neu wedi’i rannu ar draws dwy swydd wahanol, a byddwch chi’n dal i dalu’r un swm o Dreth Incwm.
Mae’r cliw yn eich cod treth
Mae cod treth yn gymysgedd o rifau a llythrennau sy’n rhoi gwybod i’ch cyflogwr faint o Dreth Incwm i’w dynnu oddi wrth eich cyflog cyn i chi gael eich talu. Os ydych chi’n gyflogedig, fe welwch chi’r cod hwn ar eich slip cyflog.
Os oes gennych chi ddwy swydd, bydd gennych chi ddau god treth – un ar gyfer pob swydd.
Fel arfer, bydd gan eich prif swydd y cod 1257L. Mae hyn yn dweud wrth eich cyflogwr eich bod chi’n cael y Lwfans Personol llawn, sef £12,570.
Bydd gan eich ail swydd god gwahanol. Y cod mwyaf cyffredin yw ‘BR’, sy’n sefyll am ‘gyfradd sylfaenol’.
Peth pwysig i’w gofio:
Os gwelwch chi’r cod treth ‘BR’ ar eich slip cyflog, mae’n golygu ein bod ni’n codi Treth Incwm ar bob un o’ch cyflogau o’r swydd honno ar y gyfradd sylfaenol, sef 20%. Chewch chi ddim Lwfans Personol gyda’r swydd hon – dyna’r £12,570 gallwch chi ei ennill heb dalu treth. Mae hyn oherwydd bod eich Lwfans Personol eisoes wedi’i ddefnyddio gan eich prif swydd.
Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Dod i ddeall eich cod treth’.
Awgrym defnyddiol:
Drwy wirio’ch slip cyflog yn rheolaidd byddwch chi’n osgoi cael eich dal gan unrhyw beth annisgwyl. Os nad yw’ch cod treth yn edrych yn iawn, mae wastad yn well i chi ddelio â’r sefyllfa’n brydlon yn hytrach na’i gadael hi i fod.
Mae Yswiriant Gwladol yn gweithio’n wahanol i Dreth Incwm
Mae Yswiriant Gwladol yn wahanol i Dreth Incwm oherwydd caiff ei weithio allan ar wahân ar gyfer pob swydd sydd gennych chi. Bydd gan bob swydd ei therfyn ei hun cyn i chi ddechrau talu Yswiriant Gwladol.
Dim ond pan fyddwch chi’n ennill mwy na £242 yr wythnos o un o’ch swyddi byddwch chi’n dechrau talu Yswiriant Gwladol. Os oes gennych chi ddwy swydd sy’n talu mwy na £242 yr wythnos, fel arfer caiff faint o Yswiriant Gwladol byddwch chi’n ei dalu ei weithio allan ar wahân ar gyfer pob swydd.
Os ydych chi’n ennill llai na £242 yr wythnos, ond mwy na £125, nid oes angen i chi dalu Yswiriant Gwladol. Cewch chi gredydau sy’n cael eu hychwanegu at eich cofnod Yswiriant Gwladol i ddiogelu’ch Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill yn y dyfodol. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Yswiriant Gwladol ar GOV.UK.
Gallwch chi wirio eich manylion ar-lein
Gallwch chi ddefnyddio ap CThEF neu fynd i GOV.UK i wirio bod gennym ni’r wybodaeth gywir am bob un o’ch swyddi ar unrhyw adeg. Os nad oes gennych chi gyfrif, gallwch chi greu un ar GOV.UK yn hawdd ac am ddim.
Nid oes angen i chi ddeall sut mae popeth yn gweithio o ran treth. Ond pan fyddwch chi’n cael incwm o wahanol ffynonellau gyda slipiau cyflog gwahanol, gallwch chi helpu eich hun i deimlo bod eich arian o dan eich rheolaeth chi drwy wybod y sylfeini.