Os ydych chi’n gyflogedig a dim ond yn ennill arian o’ch swydd, bydd eich cyflogwr yn cymryd unrhyw Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch chi yn awtomatig cyn eich talu chi.
Ond os ydych chi’n ennill arian neu’n cael arian mewn ffyrdd sydd ddim yn gallu cael eu trethu’n awtomatig, yna mae angen i chi roi gwybod i ni drwy lenwi Ffurflen Dreth.
Bydd mwy na thebyg angen i chi lenwi Ffurflen Dreth os yw un o’r canlynol yn wir:
- rydych chi’n ennill mwy na £1,000 mewn blwyddyn wrth weithio i chi’ch hun – gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK
- rydych chi’n ennill arian drwy roi eiddo neu dir ar osod
- rydych chi’n cael llog o gynilion a buddsoddiadau
- rydych chi’n ennill elw drwy werthu rhywbeth gwerthfawr (fel ail gartref)
- rydych chi’n ennill incwm ychwanegol drwy brosiect pres poced
Mewn rhai achosion, byddwn ni’n cysylltu â chi ac yn gofyn i chi lenwi Ffurflen Dreth.
Sut i anfon Ffurflen Dreth
Gallwch chi anfon Ffurflen Dreth aton ni mewn un o ddwy ffordd – drwy lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu drwy ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
1. Hunanasesiad
Byddwch chi’n llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad unwaith y flwyddyn:
- Os ydych chi’n gyflogedig, byddwch chi’n cynnwys eich holl incwm – wedyn byddwch chi’n gweld faint o dreth sydd arnoch chi ar gyfer y flwyddyn dreth honno. Gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’.
- Os ydych chi’n hunangyflogedig, bydd angen i chi ychwanegu ychydig o fanylion yn rhagor am eich busnes. Dysgwch ragor am lenwi’r manylion hyn ar ein tudalen ‘Hunanasesiad’ i berchnogion busnes.
Gall hyn swnio’n gymhleth, ond mae dod i ddeall y sylfeini wir yn eich helpu chi.
2. Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Byddwch chi’n anfon diweddariadau digidol aton ni bob chwarter.
Os ydych chi’n unig fasnachwr neu’n ennill arian o eiddo, mae’r ffordd rydych chi’n anfon gwybodaeth aton ni am eich incwm yn newid. Enw’r cynllun newydd yw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. I rai pobl, bydd y newid hwn yn dechrau o fis Ebrill 2026.
Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn gweithio’n wahanol i Hunanasesiad. Dylech chi wirio a yw’r rheolau gwahanol yn berthnasol i chi. Dysgwch a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun hwn, pryd i ddechrau ei ddefnyddio, a sut i baratoi ar gyfer y newid drwy ymweld â’n tudalen ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.
Beth i’w wneud os nad ydych chi’n siŵr
Defnyddiwch ein gwiriwr ar-lein syml ar GOV.UK os ydych chi’n dal i fod yn ansicr p’un a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth neu beidio.
Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd – bydd yn gofyn ychydig o gwestiynau sydyn i chi, a fyddwn ni ddim yn gweld eich atebion.
Os yw’n dweud wrthoch chi fod angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, yna bydd y gwiriwr yn eich cyfeirio chi at y man cywir fel bod gennych chi’r wybodaeth berthnasol i gyd.
Gallwch chi ddysgu rhagor am Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar GOV.UK.