Os ydych chi’n gweithio i gyflogwr, byddwch chi’n cael slip cyflog bob tro cewch chi eich talu. Un o’r pethau byddwch chi’n ei weld arno ef yw eich cod treth. Mae’n gymysgedd o rifau a llythrennau sy’n dweud wrth eich cyflogwr faint o dreth i’w thynnu oddi wrth y swm rydych chi wedi’i ennill, cyn i chi gael eich talu.
Mae’n system awtomatig o’r enw ‘Talu Wrth Ennill’ neu ‘TWE’ (‘Pay As You Earn’ neu ‘PAYE’), ac mae’r cyfan yn digwydd y tu ôl i’r llenni. Gallwch chi ddysgu rhagor am sut mae hyn yn gweithio ar ein tudalen ‘Beth yw TWE?’.
Weithiau, gallai’ch cod treth newid. Ond peidiwch â phoeni – mae hynny’n gwbl naturiol ac fel arfer mae’n golygu bod eich sefyllfa ariannol wedi newid.
Beth i’w wneud os bydd eich cod chi’n newid
Pan fydd rhywbeth yn digwydd yn eich bywyd, fel dechrau swydd newydd, cael codiad cyflog neu gael car cwmni – gall hyn effeithio ar faint o dreth byddwch chi’n ei dalu. Mae eich cyflogwr yn rhoi gwybod i ni am y newid hwn, fel gallwn ni ddiweddaru eich cod treth i adlewyrchu eich sefyllfa newydd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, os bydd eich cod treth yn newid, nid oes angen i chi wneud dim. Fel arfer, mae hyn yn golygu bod eich cyflogwr wedi rhoi gwybod i ni am y newid, ac mae ein system TWE wedi gweithio allan faint o dreth dylai gael ei dynnu oddi wrth eich cyflog o hyn ymlaen.
Hefyd, gallai’ch cod treth newid os byddwch chi’n cael arian ychwanegol nad oeddech chi’n ei gael o’r blaen, er enghraifft arian o’r canlynol:
- pensiynau gweithle neu bensiynau preifat
- llog ar gynilion
- newidiadau i unrhyw fuddiannau sydd gennych chi yn y gwaith – fel gofal iechyd gan y cwmni
Mae’r rhain i gyd yn newidiadau arferol mewn bywyd, ac mae eich cod treth yn newid gyda nhw.

Peth pwysig i’w gofio:
Y cod treth mwyaf cyffredin yw 1257L. Mae hyn yn golygu gallwch chi ennill £12,570 y flwyddyn cyn talu unrhyw dreth. Eich Lwfans Personol rhydd o dreth yw’r enw ar hyn, a gallwch chi ddarllen rhagor amdano ef ar y dudalen hon.
Codau treth dros dro
Os bydd eich cod treth yn newid fel bod W1, M1 neu X ar y diwedd, mae gennych chi beth rydyn ni’n ei alw’n ‘god treth dros dro’ (‘emergency tax code’). Mae’r gair ‘emergency’ yn gallu codi ofn, ond nid oes angen i chi boeni dim. Yn aml, mae hyn yn golygu nad oes gennym ni’r holl fanylion sydd eu hangen arnon ni i bennu eich sefyllfa dreth ar hyn o bryd.
Weithiau, bydd codau treth dros dro yn ymddangos pan fyddwch chi’n dechrau swydd newydd. Fel arfer, mae hyn yn golygu ein bod ni’n aros am ragor o fanylion gadael gan eich hen gyflogwr, neu nad ydych chi wedi llenwi’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn ar gyfer eich cyflogwr newydd. Gallwch chi weld sut i’w llenwi ar GOV.UK.
Os oes gennych chi god treth dros dro, gall hyn olygu weithiau eich bod chi’n talu ychydig mwy o dreth na dylech chi fod yn ei wneud i ddechrau. Ond peidiwch â phoeni – unwaith bydd gennym ni’r holl wybodaeth er mwyn rhoi’r cod treth cywir i chi, byddwn ni’n ad-dalu unrhyw dreth rydych chi wedi’i gordalu.
Codau treth sy’n nodi’r gyfradd sylfaenol
Os oes gennych chi ail swydd, weithiau bydd eich cod treth yn cynnwys ‘BR’, a dyna’r cyfan. Mae ‘BR’ yn sefyll am ‘gyfradd sylfaenol’.
Peth pwysig i’w gofio:
Os gwelwch chi’r cod treth hwn ar eich slip cyflog, mae’n golygu ein bod ni’n codi Treth Incwm ar bob un o’ch cyflogau o’r swydd honno ar y gyfradd sylfaenol, sef 20%. Chewch chi ddim Lwfans Personol – dyna’r £12,570 gallwch chi ei ennill heb dalu treth.
Rydyn ni’n caniatáu’r lwfans hwn ar gyfer eich prif swydd oherwydd nid oes modd i chi ddefnyddio’ch Lwfans Personol ar gyfer mwy nag un swydd. Caiff eich ail swydd ei threthu ar y gyfradd sylfaenol am bob punt byddwch chi’n ei hennill.
Dyma enghraifft:
Dychmygwch eich bod chi’n gweithio’n rhan amser mewn caffi, ond mae hefyd gennych chi sifftiau dros y penwythnos mewn siop.
Efallai bydd gan eich swydd yn y caffi’r cod 1257L, felly byddwch chi’n cael y cyfan o’r Lwfans Personol rhydd o dreth arferol, sef £12,570 y flwyddyn.
Yna, bydd gan eich ail swydd yn y siop god treth BR, felly caiff popeth byddwch chi’n ei ennill yno ei drethu ar 20%.
Os nad oedden ni’n rhannu’r lwfans fel hyn, gallech chi gyrraedd diwedd y flwyddyn a chanfod bod arnoch chi arian i ni.

Gallwch chi wirio eich cod treth eich hun
Os ydych chi’n poeni bod eich cod treth yn anghywir, gallwch chi ei wirio ar-lein ar GOV.UK neu ar ap CThEF.
Os nad yw’n edrych yn iawn o hyd, rhowch wybod i ni ar unwaith a gallwn ni egluro beth mae’n ei olygu neu newid unrhyw beth sydd ei angen i’w gywiro.
Mae’n hawdd i chi gael y dreth gywir yn ôl
Os byddwn ni’n canfod bod y cod treth anghywir wedi bod gennych chi, a’ch bod chi wedi talu mwy o dreth na dylech chi fod, byddwn ni’n rhoi pethau yn ôl yn ei le. Byddwn ni’n gwneud hyn naill ai drwy leihau faint o dreth rydyn ni’n ei gasglu o’ch cyflog yn y dyfodol, neu drwy roi gwybod i chi sut i hawlio’r dreth ychwanegol rydych chi wedi’i thalu yn ôl.
Gallwch chi wirio hyn a hawlio ad-daliad ar-lein ar GOV.UK, neu ar ein ap. Gallwch chi hefyd hawlio drwy ofyn i ni anfon siec atoch chi.
Y prif beth i’w gofio yw bod codau treth yno i’ch helpu chi – nid i’ch dal chi. Maen nhw’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n talu’r swm cywir o dreth drwy gydol y flwyddyn, fel nad oes unrhyw beth annisgwyl yn codi. Ac os byddan nhw’n newid, fel arfer dyna arwydd o’r system yn mynd ati yn ôl ei harfer.