Skip to main content

Treth yn y diwydiant adeiladu

 

Mae yna ambell beth mae angen i chi ei wybod am dreth os ydych chi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod i ddeall y sylfeini, fel y gallwch chi gadw ar ben eich materion treth ac osgoi unrhyw gamgymeriadau cyffredin.

Y gwahaniaeth rhwng contractwyr ac is-gontractwyr

Mae’n debygol iawn y byddwch chi’n gwybod hyn eisoes, ond bydd cwsmer yn hurio contractwr i reoli prosiect adeiladu. Wedyn, bydd y contractwr yn hurio is-gontractwyr sydd â’r sgiliau arbennig yn y maes i’w helpu gyda’r prosiect. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yna rai gwahaniaethau arwyddocaol rhwng dulliau contractwyr ac is-gontractwyr o dalu eu treth.

Sut mae Cynllun y Diwydiant Adeiladu yn gweithio?

Mae Cynllun y Diwydiant Adeiladu yn berthnasol i’r rhan fwyaf o waith adeiladu yn y DU. Mae’n cwmpasu mathau o waith fel adeiladu, atgyweirio, addurno, dymchwel, a gosod systemau gwresogi a phlymio.

O dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu, os ydych chi’n is-gontractwr, bydd y contractwr fel arfer yn tynnu rhywfaint o arian o’ch tâl. Bydd yr arian hwn yn mynd yn syth aton ni, ac mae’n cael ei drin fel taliad ymlaen llaw sy’n cyfrannu tuag at eich bil Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol blynyddol.

Mae’n rhaid i bob contractwr gofrestru ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu, ond gallwch chi ddewis peidio â chofrestru os ydych chi’n is-gontractwr.

Awgrym defnyddiol: 

Os byddwch chi yn cofrestru, bydd llai o arian yn cael ei dynnu o’ch tâl (hynny yw, ei ‘ddidynnu’ (‘deducted’)). Fydd hyn ddim yn golygu eich bod chi’n talu llai o dreth yn y pen draw. Ond, mae hyn yn golygu bod gennych chi fwy o arian yn symud drwy’ch cyfrif drwy gydol y flwyddyn. Byddwch chi hefyd yn llai tebygol o ordalu treth, felly fydd dim angen i chi wneud cais am ad-daliad.

Gallwch chi gofrestru ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu am ddim ar GOV.UK.

Rheol arbennig ar gyfer TAW: y ‘tâl gwrthdro’

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae gan y diwydiant adeiladu reol arbennig, o’r enw ‘tâl gwrthdro’ (‘reverse charge’). Mae’r rheol hon yn ein helpu i frwydro yn erbyn twyll, ac mae’n berthnasol pan fyddwch chi’n gwneud gwaith adeiladu i fusnes arall sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, a bod y busnes hwnnw’n trosglwyddo’r gwaith hwnnw draw at ei gwsmer ei hun.

Peth pwysig i’w gofio:

Fyddwch chi ddim yn ychwanegu TAW at eich anfoneb pan fyddwch chi’n codi tâl gwrthdro. Yn lle hynny, bydd eich cwsmer (sef y contractwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, a wnaeth eich hurio chi) yn delio â’r TAW ei hun. Dylai’ch anfoneb ddangos yn glir fod y tâl gwrthdro yn berthnasol, a faint o TAW y byddech chi wedi’i chodi – ac sydd bellach ar eich contractwr.

Dyma enghraifft:

Mae Jane yn hurio Cwmni D i adeiladu estyniad i’w llofft.

Cwmni D yw’r contractwr.

Mae Cwmni D yn hurio Jack – sy’n blymiwr – yn is-gontractwr.

Ar ôl gorffen ei waith, mae Jack yn anfon anfoneb at Gwmni D am £10,000. Yn lle ychwanegu TAW o £2,000, mae’n ysgrifennu ‘Mae taliadau gwrthdro yn berthnasol. Mae angen i’r cwsmer dalu TAW o £2,000 i CThEF’.

Pan fydd y llofft wedi’i hadeiladu, a bod Jane wedi talu’r swm llawn i Gwmni D, bydd yn rhaid i Gwmni D anfon y TAW o £2,000, sydd ar Jack, aton ni.

Nid yw’r tâl gwrthdro yn berthnasol pan fyddwch chi’n gweithio’n uniongyrchol i’r cwsmer terfynol. Er enghraifft, all Cwmni D ddim codi ‘tâl gwrthdro’ ar Jane. Mae’n rhaid i’r cwmni godi TAW arni hi, fel rhan o’i anfoneb.

Llun o enghraifft yn dangos y rheol ‘tâl gwrthdro’ TAW arbennig.

Gallwch chi ddysgu rhagor am y tâl gwrthdro yng nghyd-destun TAW ar GOV.UK.

Ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig?

Wrth ddelio â threth yn y diwydiant adeiladu, mae’n bwysig gwybod p’un a ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Eich ‘statws cyflogaeth’ yw’r enw ar hyn. Sut rydych chi’n gweithio mewn gwirionedd o ddydd i ddydd sy’n pennu’ch statws, nid dim ond yr hyn sydd yn eich contract.

Nid yw cofrestru ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu yn golygu eich bod chi’n hunangyflogedig yn awtomatig.

Gwybod beth yw’ch statws cyflogaeth

Mae’n debygol eich bod chi’n gyflogedig os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae rhywun arall yn bwcio gwaith i chi
  • mae rhywun arall yn pennu eich oriau gwaith
  • mae rhywun arall yn cyflenwi’ch offer
  • allwch chi ddim anfon rhywun arall i wneud y gwaith yn eich lle

Mae’n debygol eich bod chi’n hunangyflogedig os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • chi sy’n penderfynu ble a phryd byddwch chi’n gweithio
  • chi sy’n dod o hyd i waith i chi’ch hun ac yn gosod eich prisiau eich hun
  • chi sy’n prynu eich cynnyrch a’ch offer eich hun
  • dim ond chi sy’n ennill arian pan fyddwch chi’n bwcio gwaith
  • chi’n sy’n anfonebu eich cleientiaid pan fyddwch chi’n cyflawni’r gwaith eich hun

Peth pwysig i’w gofio:

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n gwybod beth yw’ch statws cyflogaeth, oherwydd bod cyflogeion a phobl hunangyflogedig yn talu treth mewn ffyrdd gwahanol. Os yw rhywun wedi’i nodi’n hunangyflogedig ar gam, yn lle ei fod wedi’i nodi’n gyflogedig, gallai’r person hwnnw a’r busnes a wnaeth ei hurio wynebu bil am dreth sydd heb gael ei thalu, llog ar ben y dreth honno a hyd yn oed dirwy.

Awgrym defnyddiol: 

Gallwch chi ddefnyddio ein hofferyn ar-lein am ddim, o’r enw ‘Gwirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth’ ar GOV.UK, i bennu p’un a fyddai math penodol o waith yn cyfri fel hunangyflogaeth neu beidio.

Llenwi Ffurflen Dreth os ydych chi’n hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, mae’n bwysig eich bod chi’n cadw copïau o’r holl anfonebau, contractau ac unrhyw beth arall y byddwch chi wedi’i wario ar redeg eich busnes (hynny yw, eich treuliau).

Os ydych chi’n gweithio fel is-gontractwr, mae hefyd angen i chi gadw cofnodion o unrhyw ddatganiadau o daliadau a didyniadau drwy Gynllun y Diwydiant Adeiladu. Bydd eich contractwr yn rhoi’r rhain i chi – byddan nhw’n dangos faint o arian mae’r contractwr wedi’i dynnu pan fydd yn eich talu chi.

Bydd angen hyn i gyd arnoch chi ar gyfer eich Ffurflen Dreth. Gall ein tudalen ‘Hunanasesiad os ydych chi’n hunangyflogedig’ roi gwybodaeth bellach i chi.

Unwaith i chi anfon eich Ffurflen Dreth aton ni, a bod popeth wedi cael ei bennu, efallai y byddwn ni’n gweld eich bod chi wedi talu mwy o dreth drwy Gynllun y Diwydiant Adeiladu na’r hyn yr oedd angen i chi ei dalu. Os felly, gallwch chi gael ad-daliad am y swm hwn.

Cael help a chymorth

Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr am Gynllun y Diwydiant Adeiladu, tâl gwrthdro yng nghyd-destun TAW, neu’ch statws cyflogaeth, gall fod yn syniad da i chi drafod y peth â chyfrifydd sy’n deall y diwydiant adeiladu. Bydd cael y pethau hyn yn gywir o’r dechrau yn gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus o ran treth, fel y gallwch chi osgoi unrhyw sefyllfaoedd annisgwyl yn nes ymlaen.