Mwy na thebyg, nid treth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’ch meddwl chi pan fyddwch chi’n priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil. Ond mae’n werth i chi ystyried y peth, oherwydd gallwch chi gael mantais o Lwfans Priodasol rhydd o dreth.
Beth yw Lwfans Priodasol?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn cael ennill swm penodol o arian bob blwyddyn cyn gorfod talu unrhyw Dreth Incwm arno ef. Lwfans Personol yw’r enw ar y swm hwn sy’n rhydd o dreth. £12,570 y flwyddyn yw’r swm hwnnw i’r rhan fwyaf o bobl – a gallwch chi ddysgu rhagor am hyn ar ein tudalen ‘Lwfans Personol’.
‘Priod’ yw’r term am bartner rydych chi wedi’i briodi. Mae Lwfans Priodasol yn caniatáu i un priod neu bartner sifil rannu rhan o’i Lwfans Personol rhydd o dreth â’r llall. Hynny yw, os nad yw’n defnyddio’i Lwfans Personol i gyd ei hunain.
Peth pwysig i’w gofio:
Gallwch chi roi £1,260 o’ch Lwfans Personol rhydd o dreth, sydd heb ei ddefnyddio, bob blwyddyn i’ch priod neu bartner sifil. Mae hyn yn golygu gall eich priod neu bartner sifil ennill mwy o arian, heb dalu treth arno ef.
Fel cwpwl, gall Lwfans Priodasol arbed hyd at £252 y flwyddyn i chi – sef 20% o’r £1,260 a gafodd ei drosglwyddo.
Dyma enghraifft:
Mae Alice a James yn briod.
Mae James yn gweithio’n rhan amser ac yn ennill £18,000 y flwyddyn. Gan fod hyn yn uwch na £12,570, mae James yn talu treth ar £5,430 o’i incwm.
Mae Alice yn gweithio’n rhan amser ac yn ennill £10,000 y flwyddyn. Mae hynny’n llai na’i Lwfans Personol hi.
Mae Alice yn rhoi £1,260 o’i Lwfans Personol i James.
Mae Lwfans Personol newydd James yn £13,830. Nawr, mae James yn talu treth ar £4,170 o’i incwm.

Mae Lwfans Priodasol yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei ennill
Gallwch chi wneud cais am Lwfans Priodasol os yw un ohonoch chi’n ennill llai na £12,570 y flwyddyn – sef y Lwfans Personol arferol sy’n rhydd o dreth.
Mae’n rhaid i’r person arall ennill rhwng £12,571 a £50,270 y flwyddyn. Mae hyn yn golygu ei fod yn talu Treth Incwm ar beth rydyn ni’n ei alw’n ‘gyfradd sylfaenol’. Gallwch chi ddysgu rhagor am gyfraddau Treth Incwm ar GOV.UK.
Mae’r cyfraddau treth ychydig yn wahanol yn yr Alban. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.
Er mwyn cael Lwfans Priodasol, mae’n rhaid i chi fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Mae gwneud cais ar-lein yn cymryd tua 5 munud
Y partner sydd â’r cyflog isaf sy’n gwneud y cais am Lwfans Priodasol ar GOV.UK.
Awgrym defnyddiol:
Dylech chi fod â rhif Yswiriant Gwladol y ddau ohonoch chi a dull o brofi pwy ydych chi wrth law – er enghraifft pasbort neu drwydded yrru.
Unwaith byddwch chi wedi gwneud cais, bydd y Lwfans Priodasol yn trosglwyddo’n awtomatig i’ch priod neu bartner sifil bob blwyddyn. Nid oes angen i chi wneud cais eto oni bai bod eich sefyllfa yn newid.
Gallwch chi hefyd hawlio am flynyddoedd blaenorol
Peidiwch â phoeni os yw Lwfans Priodasol yn newydd i chi, ac os nad oeddech chi wedi sylweddoli, ers peth amser, fyddai modd i chi gael mantais ohono ef. Gallwch chi ôl-ddyddio (‘backdate’) eich cais mor bell yn ôl â’r pedair blynedd diwethaf. Gallai hyn olygu byddwch chi’n cael ad-daliad treth.
Gallwch chi ddefnyddio ein cyfrifiannell ar gyfer Lwfans Priodasol ar GOV.UK i weld faint o arian gallwch chi ei arbed.
Beth i’w wneud os bydd eich sefyllfa’n newid
Mae angen i chi roi gwybod i ni ar GOV.UK os bydd swm yr arian rydych chi neu’ch partner yn ei ennill yn newid, os byddwch chi’n ysgaru, neu os bydd eich partner yn marw.
Cam bach sy’n arbed arian i chi
Mae llawer o bobl ar eu colled oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod am Lwfans Priodasol. Ond nawr, rydych chi’n gwybod am y lwfans hwn. Rydych chi hefyd yn gwybod ei fod yn gyflym ac yn hawdd i’w drefnu, a gallai arbed hyd at £252 y flwyddyn i chi, a hynny am flynyddoedd i ddod.