Skip to main content

Rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau

 

Pan fyddwch chi’n rhedeg busnes, gall eich amgylchiadau newid.

Efallai byddwch chi’n symud i gyfeiriad newydd, yn dewis enw newydd i’r busnes, neu’n newid y strwythur ar gyfer eich busnes. Os bydd unrhyw un o’r pethau hyn yn digwydd, mae angen i chi roi gwybod i ni.

Wrth roi gwybod i ni ar y pryd am newidiadau i’ch busnes, gallwn ni gysylltu â chi pe bai angen i ni wneud hynny. Mae hyn hefyd yn eich helpu i osgoi unrhyw broblemau gyda’ch treth.

Sut i ddiweddaru’ch manylion

Os byddwch chi’n newid eich enw personol, neu enw neu gyfeiriad y busnes, mae angen i chi roi gwybod i ni. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad eich cartref a chyfeiriad eich busnes. Heb y manylion cywir, efallai fydd llythyrau pwysig ddim yn eich cyrraedd chi, a gallai hynny eich achosi chi i fethu dyddiadau cau neu filiau treth.

Y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw drwy gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, neu ar-lein ar GOV.UK.

Gallwch chi ddiweddaru’ch manylion ar gyfer y rhan fwyaf o bethau drwy wneud hyn, gan gynnwys y canlynol:

  • Hunanasesiad (os ydych chi’n hunangyflogedig)
  • Talu Wrth Ennill (TWE) (os ydych chi’n cyflogi pobl)
  • Treth Gorfforaeth (os ydych chi’n rhedeg cwmni cyfyngedig)

Beth i’w wneud os ydych chi’n gwneud newidiadau i’ch busnes

Wrth i’ch busnes ddatblygu, efallai bydd y ffordd hoffech chi drefnu eich busnes yn newid. Efallai y gwnaethoch chi ddechrau’ch busnes fel cwmni cyfyngedig, ond wedi sylweddoli y byddai sefydlu eich hun fel unig fasnachwr yn diwallu anghenion eich busnes yn well. Neu, efallai eich bod chi ar fin dechrau partneriaeth â rhywun arall.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:

Gallwch chi ddysgu sut i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch busnes ar GOV.UK, neu gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os ydych chi’n dod â phartneriaeth i ben

Bydd angen i’r person sy’n delio â’r materion treth (‘partner enwebedig’ (‘nominated partner’) yw’r enw ar y person) nodi hyn ar Ffurflen Dreth derfynol y bartneriaeth.

Peth pwysig i’w gofio: 

Peidiwch ag anghofio – bydd yn dal i fod angen i bob partner anfon ei Ffurflen Dreth aton ni ar gyfer y flwyddyn honno.

Bydd hefyd angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau os ydych chi’n sefydlu, yn newid, neu’n dod â chwmni cyfyngedig i ben.

Newid manylion pan fyddwch chi wedi cofrestru ar gyfer TAW

Os byddwch chi’n newid eich manylion banc, rhowch wybod i ni o leiaf 14 diwrnod cyn i hynny ddigwydd. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod unrhyw daliadau TAW, neu ad-daliadau TAW, yn mynd i’r lle cywir.

Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau eraill – er enghraifft newid enw neu gyfeiriad eich busnes, neu natur gweithgareddau eich busnes – o fewn 30 diwrnod. Gallech fod yn wynebu cosb os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni yn rhy hwyr.

Drwy roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, byddwch chi’n diogelu eich hun

Pan fydd gennym ni’r manylion cywir ar eich cyfer chi, bydd hynny’n sicrhau bod gwybodaeth bwysig yn eich cyrraedd chi mewn pryd. Mae’n dasg fach a allai eich achub chi rhag wynebu trafferthion yn nes ymlaen. Os bydd angen i chi roi gwybod i ni am newidiadau i’ch manylion busnes, gallwch chi wneud hynny yn gyflym ac yn ddiogel ar-lein ar GOV.UK, neu gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.