Mae prynu tŷ a’i drawsnewid yn gartref i chi eich hun yn rhan gyffrous o fywyd. Y peth olaf hoffech chi ei wynebu yw costau annisgwyl.
Un gost sy’n codi wrth brynu tŷ yng Nghymru yw Treth Trafodiadau Tir (‘Land Transaction Tax’). Nid yw pawb yn ymwybodol o’r dreth hon, ond efallai clywch chi rai yn cyfeirio ati hi yn ôl ei hacronymau, sef TTT yn Gymraeg ac LTT yn Saesneg.
I ddysgu rhagor am hyn, ewch i Treth Trafodiadau Tir: trosolwg sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os byddwch chi’n prynu tŷ yn Lloegr, darllenwch yr wybodaeth isod i ddysgu rhagor am Dreth Dir y Tollau Stamp (‘Stamp Duty Land Tax’; SDLT).
Rydyn ni’n deall bod hyn i gyd yn gallu swnio’n gymhleth i ddechrau, ond mae hi’n ddigon syml i’w deall unwaith i chi ddysgu ychydig mwy am y pwnc.
Fydd angen i chi ei thalu?
Byddwch chi’n talu Treth Dir y Tollau Stamp i’r llywodraeth pan fyddwch chi’n prynu eiddo neu dir.
I’r rhan fwyaf o bobl, os yw’ch cartref yn costio llai na £125,000, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw Dreth Dir y Tollau Stamp o gwbl.
Os yw’n costio fwy na £125,000, yna dim ond y rhan sy’n uwch na hynny bydd angen i chi dalu’r dreth arni hi.

Os ydych chi’n prynu eiddo ychwanegol, neu’n prynu eiddo i’w osod (‘buy-to-let’), neu os nad ydych chi’n breswylydd yn y DU (‘non-UK resident’), bydd angen i chi dalu treth ar y pris prynu cyfan.
Mae pethau’n wahanol yng Nghymru ac yn yr Alban
Nid yw Treth Dir y Tollau Stamp yn bodoli yng Nghymru na’r Alban.
Yng Nghymru, byddwch chi’n talu Treth Trafodiadau Tir (‘Land Transaction Tax’ neu ‘LTT’) yn lle, ac yn yr Alban, byddwch chi’n talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (‘Land and Buildings Transaction Tax’ neu ‘LBTT’).
Maen nhw’n debyg i’w gilydd, ond bod ganddyn nhw gyfraddau a throthwyon gwahanol.
Gallwch chi ddysgu rhagor am Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru ar GOV.WALES, a gwirio’r rheolau ynghylch prynu eiddo yn yr Alban ar GOV.SCOT.
Mae gan dai drytach gyfraddau uwch
I’ch helpu chi, dychmygwch fod gwerth eich tŷ yn gyfres o risiau ar ysgol. Mae pob gris yn cynrychioli trothwy ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp. Po uchaf yw gwerth eich tŷ, po uchaf i fyny’r ysgol byddwch chi’n ffeindio’ch hun – a byddwch chi’n talu cyfradd dreth uwch o ganlyniad.
Fel gwnaethon ni sôn gynnau, i’r rhan fwyaf o bryniannau £125,000 yw’r ‘ris’ gyntaf ar yr ysgol, a hynny’n rhydd o dreth. Os yw eich tŷ yn werth llai na £125,000, yna nid oes angen i chi dalu unrhyw Dreth Dir y Tollau Stamp arno ef.
Ar gyfer y ris nesaf – pan fydd eich tŷ yn werth rhwng £125,001 a £250,000 – byddwch chi’n talu Treth Dir y Tollau Stamp ar y swm o arian sydd rhwng £125,001 a £250,000 ar gyfradd o 2%. Mae’r £125,000 cyntaf o werth y tŷ yn rhydd o dreth.
Nid yw pob gris yr un maint, ond mae’n dal i fod yn ffordd ddefnyddiol o feddwl amdani hi. Wrth i chi ddringo grisiau’r ysgol, nid yw’r gyfradd uwch yn berthnasol ond i’r swm o arian sydd dan sylw ar y ris rydych chi newydd ei chyrraedd.
Mae’r tabl hwn yn helpu gydag egluro’r sefyllfa:
| Gwerth y tŷ | Cyfradd Treth Dir y Tollau Stamp |
|---|---|
| Hyd at £125,000 | 0% |
| Y £125,000 nesaf (y gyfran rhwng £125,001 a £250,000) | 2% |
| Y £675,000 nesaf (y gyfran rhwng £250,001 a £925,000) | 5% |
| Y £575,000 nesaf (y gyfran rhwng £925,001 ac £1.5 miliwn) | 10% |
| Y swm sydd ar ôl (y gyfran sydd dros £1.5 miliwn) | 12% |
Dyma enghraifft o sut mae’n gweithio:
Gadewch i ni ddychmygu eich bod chi’n prynu tŷ am £295,000, ac nid y tŷ cyntaf i chi brynu mo hwn.
Nid oes Treth Dir y Tollau Stamp ar y £125,000 cyntaf o’r £295,000.
Yna, edrychwn ni ar y gyfradd ar gyfer y ris nesaf (neu’r trothwy nesaf). Am y gyfran sydd rhwng £125,001 a £250,000, byddwch chi’n talu Treth Dir y Tollau Stamp ar gyfradd o 2% – sy’n gweithio mas i fod yn £2,500.
Nesaf, byddwn ni’n edrych ar y gyfradd ar gyfer y drydedd ris. Am y gyfran sydd rhwng £250,001 a £925,000, byddwch chi’n talu Treth Dir y Tollau Stamp ar swm y pris prynu sy’n dod o dan y band hwn ar gyfradd o 5%. Dyna £45,000 felly – sy’n gweithio mas i fod yn £2,250.
£2,500 plws £2,250 yw £4,750. Felly, dyna faint o Dreth Dir y Tollau Stamp bydd angen i chi ei thalu.

Peidiwch â phoeni os yw hyn yn dal i swnio’n gymhleth. Gallwch chi ddefnyddio ein cyfrifiannell Treth Dir y Tollau Stamp am ddim ar GOV.UK er mwyn gweld faint yn union bydd angen i chi ei dalu.
Mae help ychwanegol ar gael i bobl sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf
Os ydych chi’n prynu eich tŷ cyntaf, fe gewch chi ‘Ryddhad i bobl sy’n prynu eu tŷ cyntaf’ (‘First-time Buyers’ Relief’).
Mae hyn yn golygu nad ydych chi’n talu Treth Dir y Tollau Stamp ar y £300,000 cyntaf o bris prynu eich tŷ.
Os yw pris y tŷ yn fwy na £300,000, bydd angen i chi dalu Treth Dir y Tollau Stamp ar gyfradd o 5% ar unrhyw beth rhwng £300,000 a £500,000.

Peth pwysig i’w gofio:
Dim ond ar dŷ cyntaf sydd werth hyd at £500,000 y mae modd defnyddio Rhyddhad i bobl sy’n prynu eu tŷ cyntaf. Felly, os yw eich tŷ cyntaf yn costio mwy na hynny, bydd angen i chi dalu Treth Dir y Tollau Stamp ar y cyfraddau arferol, fel gwnaethon ni grybwyll uchod. Efallai chewch chi ddim Rhyddhad i bobl sy’n prynu eu tŷ cyntaf os ydych chi, neu rywun rydych chi’n prynu tŷ ag ef, wedi bod yn berchen ar dŷ o’r blaen.
Rydych chi’n talu mwy o dreth ar ail gartrefi
Os ydych chi eisoes yn berchen ar dŷ, a’ch bod chi’n prynu eiddo arall (er enghraifft, cartref gwyliau neu rywle i’w roi ar osod) sydd werth mwy na £40,000, mae angen i chi talu rhywfaint o arian yn ychwanegol ar ben cyfraddau Treth Dir y Tollau Stamp arferol.
Dyma enghraifft.
Mae Karen yn berchen ar dŷ eisoes. Mae hi’n prynu ail fflat am £150,000.
Bydd angen iddi hi dalu Treth Dir y Tollau Stamp ar y gyfran hyd at £125,000 ar gyfradd o 5%. Sef £6,250.
Hefyd, bydd angen iddi hi dalu cyfradd o 7% ar y gyfran rhwng £125,001 a £150,000, sy’n gweithio mas i fod yn £1,750.
Felly, bydd ganddi hi gyfanswm o £8,000 i’w talu.
Awgrym defnyddiol: Mae’r rheolau ychydig yn wahanol os nad ydych chi’n breswylydd yn y DU. Gallwch chi ddysgu rhagor ar GOV.UK.

Cael help proffesiynol
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio ‘cyfreithiwr’ neu ‘drosglwyddwr eiddo’ wrth brynu tŷ er mwyn delio â’r gwaith papur cyfreithiol a symud unrhyw arian o un lle i’r llall.
Mae’n bosibl bydd eich cyfreithiwr yn cynnig delio â’ch Treth Dir y Tollau Stamp fel rhan o’r broses werthu. Os yw’r cyfreithiwr yn gwneud hynny, byddan nhw’n anfon y ffurflenni cywir aton ni, yn gofyn i chi am unrhyw dreth sydd arnoch chi, ac yna’n anfon yr arian hwn ymlaen aton ni. Mae angen i hyn oll ddigwydd o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad pan brynoch chi’r tŷ.
Cofiwch, hyd yn oed os yw’ch cyfreithiwr yn delio â hyn, mae’r ddyletswydd arnoch chi i wneud yn siŵr bod pob dim yn gywir ac yn cael ei gwblhau mewn pryd.
Weithiau mae’r rheolau’n wahanol
Mae rhai sefyllfaoedd yn newid swm Treth Dir y Tollau Stamp sydd arnoch chi.
Pan fyddwch chi’n prynu tŷ, gallwch chi ei brynu’n rhydd-ddaliol (‘freehold’) neu’n brydlesol (‘leasehold’). Mae rhydd-ddaliol yn golygu mai chi sy’n berchen ar yr adeilad, a’r tir mae’r adeilad arno ef. Mae prydlesol yn golygu eich bod chi’n berchen ar yr adeilad a’r tir, dim ond am gyfnod penodol.
Os ydych chi’n prynu’r brydles i dŷ yn hytrach na phrynu’n rhydd-ddaliol, mae’n bosibl bydd cyfraddau gwahanol o Dreth Dir y Tollau Stamp yn berthnasol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar GOV.UK.
Gallwch chi hefyd brynu tŷ drwy ‘gynllun perchnogaeth ar y cyd’ (‘shared ownership scheme’). Yn y cynllun hwn, byddwch chi’n prynu rhan o’r tŷ ac yn talu rhent ar y gweddill.
Yn yr achos hwn, bydd gennych chi ddewis rhwng talu Treth Dir y Tollau Stamp ar y pris prynu cyfan, neu ar y rhan rydych chi’n ei brynu. Gallwch chi ddysgu rhagor am berchnogaeth ar y cyd ar GOV.UK.
Hefyd, os byddwch chi’n dod yn berchennog ar y tŷ o ganlyniad i ysgaru neu wahanu, efallai fyddwch chi ddim yn talu unrhyw Dreth Dir y Tollau Stamp o gwbl.
Cynlluniwch ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw sefyllfaoedd annisgwyl
Awgrym defnyddiol:
Wrth weithio mas faint o arian gallwch chi fforddio ei wario ar dŷ a faint bydd o symud i mewn yn ei gostio i chi, peidiwch ag anghofio cynnwys Treth Dir y Tollau Stamp yn eich cynlluniau.
Mae’n hawdd anghofio’r dreth hon yng nghanol cyffro’r cyfnod prysur hwn. Felly, ewch amdani i ddefnyddio ein cyfrifiannell ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp am ddim ar GOV.UK cyn mynd ati i chwilio am dŷ. Fe fyddwch chi’n deall y sefyllfa’n glir wedyn.